Tuesday, October 21, 2014

Yr ymgyrch yn erbyn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

Does gen i ddim llawer o gydymdeimlad efo'r Blaid Lafur Gymreig yn wyneb yr holl ymysodiadau hysteraidd sydd wedi eu cyfeirio at  eu gofalaeth o'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru maent yn eu derbyn o gyfeiriad y cyfryngau Seisnig.  Wedi'r cwbl does yna neb mwy parod i geisio dychryn pobl i bleidleisio trostynt na'r Blaid Lafur Gymreig.  Ac  roedd Carwyn Jones yn fwy na pharod i ymgyrchu ochr yn ochr efo'r Toriaid a'r Daily Mail i amddifadu pobl yr Alban o'r cyfle i adeiladu cymdeithas decach yn eu gwlad nhw.  

Ond mae gen i gryn dipyn o gydymdeimlad efo gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Un o sgil effeithiadau troi'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn bel droed wleidyddol ydi bod y 72,000 o bobl sydd yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd yn cael eu pardduo.  Sgil effaith arall ydi bod beirniadaeth rhesymol o'r ffordd mae'r Blaid Lafur yn rhedeg y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cael ei lesteirio. Mae'n hawdd i Mark Drakeford ateb pob beirniadaeth trwy honni mai hysteria etholiadol sydd ar waith.

Dwi ddim yn amau am funud y bydd ymgyrch y Toriaid a'r Daily Mail yn llwyddiannus yn Lloegr - ond gallai niweidio'r Toriaid yng Nghymru.  Mae agwedd y cyhoedd yng Nghymru tuag at y Gwasanaeth Iechyd yn fwy cadarnhaol nag ydyw yn Lloegr, a'r Gwasanaeth Iechyd ydi prif gyflogwr y wlad.  Mae bron pawb sy'n byw yng Nghymru yn gwybod bod eu Gwasanaeth Iechyd a'i gweithwyr yn ofalgar ac eithaf effeithiol.  Dydi'r darlun o wasanaeth sydd yn methu'n llwyr ddim am daro deuddeg - mae gan bron i bawb brofiad o'r Gwasanaeth Iechyd - a phrofiad cadarnhaol ydi hwnnw yn amlach na pheidio.

Dwi ddim mor siwr bod deilydd sedd ymylol Bro Morgannwg tros y Toriaid yn ddoeth iawn i eistedd wrth ymyl Jeremy Hunt yn nodio pan oedd hwnnw'n mynd trwy'i bethau heddiw - a dydw i ddim yn siwr bod brwdfrydedd y Toriaid Cymreig i gysylltu eu hunain efo ymgyrch hysteraidd y Daily Mail yn syniad rhy wych chwaith.

No comments: