Tuesday, October 14, 2014

Datganoli - pel droed etholiadol.

Ni ddylai neb synnu gormod bod yr addewid enwog i ddatganoli pwerau sylweddol i'r Alban bellach wedi troi yn fater o ffraeo rhwng y Toriaid a Llafur.  Mae gen i ofn mai felly y bydd San Steffan yn gweithio - yr etholiad nesaf ydi'r peth pwysicaf yn y lle hwnnw - a'r agosaf ydi'r etholiad hwnnw y mwyaf ydi'r tueddiad i droi pob diferyn o ddwr trwy rhyw felin etholiadol neu'i gilydd.

Cyn refferendwm Medi 18 y digwyddiad hwnnw oedd y peth pwysicaf yn y Byd i wleidyddion unoliaethol San Steffan.  Felly roedd unrhyw gelwydd yn dderbyniol cyn belled a'i fod yn etholiadol effeithiol.  Roedd hi hyd yn oed yn dderbyniol i arweinwyr y pleidiau unoliaethol sefyll ysgwydd wrth ysgwydd a dweud yr un peth - rhywbeth sydd ond yn digwydd os oes yna ymysodiad terfysgol neu ryfel.  

Ond o Fedi 19 roedd y refferendwm yn ddwr o dan y bont - a'r peth pwysig rwan ydi Etholiad Cyffredinol 2015 ac unrhyw is etholiadau sy'n dod cyn hynny.  Felly mi gaiff datganoli i'r Alban ei drafod yng nghyd destun yr etholiadau hynny a'i drin fel mater etholiadol arferol - lle mae un plaid yn ei ddefnyddio i geisio ennill mantais tros blaid arall.  

Gallwn ddisgwyl ddatganoli pwerau i'r Alban (a Chymru) barhau i gael ei drin fel pel droed gwleidyddol tan ar ol yr Etholiad Cyffredinol.

No comments: