Monday, October 13, 2014

Cefnogi a chynnal y pleidiau unoliaethol

Felly ar ol eu llwyddiant yn refferendwm yr Alban mae'r prif sianelau teledu Prydeinig wedi penderfynu y byddai'n syniad da rhoi gwahoddiad i'w hoff bleidiau gwledyddol i gymryd rhan mewn cyfres o ddadleuon teledu y flwyddyn nesaf - a felly roi mantais amlwg i'r pleidiau hynny tros pob plaid arall.  Bydd y dywydedig sianelau wrth reswm yn adlewyrchu dymuniadau eu hoff bleidiau yn y ffordd y byddant yn ymdrin a'r etholiad, ac mae'n siwr bod gwthio y pleidiau eraill o'r neilltu yn cyd fynd a hynny'n iawn.

Mae gan y Blaid Werdd yr un faint o Aelodau Seneddol na sydd gan UKIP.  Mae gan Plaid Cymru a'r SNP fwy o Aelodau Seneddol nag UKIP. Mae'r un peth yn wir am y DUP, Sinn Fein a'r SDLP gyda llaw.  Mae gan yr SNP fwy o aelodau na'r Lib Dems ac UKIP.  Mae'r polau piniwn yn awgrymu bod yr SNP ymhell o flaen hoff bleidiau'r Bib, Sky Ch4 ac ITV yn yr Alban - hyd yn oed ar lefel San Steffan.  Mae'r polau a'r marchnadoedd betio hefyd yn awgrymu y bydd gan yr SNP fwy o Aelodau Seneddol nag UKIP ar ol etholiad 2015. Cafodd y Blaid Werdd fwy o bleidleisiau a mwy o seddi na'r Lib Dems yn yr etholiadau 'cenedlaethol' diwethaf - etholiadau Ewrop eleni.

Ond dydi realiti etholiadol tros y DU yn cyfri am ddim i'r sawl sy 'n edrych ar y Byd trwy lygaid Llundeinig.  Yr hyn sy'n bwysig ydi hyrwyddo canfyddiad penaethiaid sianelau teledu sy'n byw yn ardal Llundain o'r tirwedd gwleidyddol - ac mi gaiff pawb arall y canfyddiad unllygeidiog hwnnw wedi ei stwffio i lawr eu corn gyddfau - os ydynt eisiau hynny neu beidio.  

Does yna ddim byd newydd o dan yr haul.  

1 comment:

Cymro said...

Mae'r DemRhyddion yn llywodraethu yn Llundain, ac enillodd UKIP yr etholiad Prydeinig diwethaf. Petai rhaid dewis pedair plaid, mae Ceidwadwyr/Llafur/DemRhyddion/UKIP yn ddewis digon rhesymol.

Symptom o system or-ganolog yw dewis pedair plaid a chau allan yr SNP/Plaid Cymru/y Gwyrddion. Gobeithio gwelwn ni dranc y pleidiau Prydeinig yn yr Alban, a diwedd teyrnasu Llafur yng Nghymru, yn etholiad 2015.