Sunday, December 15, 2013

Tipyn o help i David Jones

Felly dydi David Jones druan methu deall pan na benodwyd y diweddar Wyn Roberts yn Ysgrifennydd Gwladol tros Gymru.  Mae'n wir i gyfres digon rhyfedd o unigolion oedd a chysylltiadau tenau a Chymru gael eu dewis o'i flaen.  Wedi ymadawiad Nick Edwards yn 1987 cafodd Peter Walker, David Hunt, John Redwood a William Hague eu dewis yn hytrach na Wyn Roberts - er ei bod yn gwbl amlwg bod hwnnw'n llawer mwy addas na'r un ohonyn nhw i wneud y job.

Dydi'r rheswm ddim yn un arbennig o anodd i'w ddeall.  Nid dewis yr unigolyn gorau o safbwynt Cymru oedd Major a Thatcher, ond dewis yr unigolyn gorau o safbwynt y Blaid Doriaidd.  Roedd rhoi lle wrth fwrdd y cabinet i elyn gwleidyddol tra'n gwneud yn siwr nad oedd ganddo fawr o bortffolio yn egluro pam y cafodd Walker a Redwood eu penodi (mae'n well cael y bastad y tu mewn i'r babell yn piso allan na'i gael y tu allan yn piso i mewn oedd eglurhad cofiadwy Major).  Gwobr gafodd David Hunt a help i ris cyntaf y cabinet gafodd Hague.

Mae'r hanes yn adrodd cyfrolau am agwedd waelodol y Toriaid tuag at Gymru.


1 comment:

Anonymous said...

Yn union!

Cafodd Wyn Roberts ddim yn swydd am ei fod yn 'ormod o Gymru' ac fe all (o fewn cyfyngiadau byd-olwg Toriaidd) 'droi'n native'.

Ar bwnc arall - pam fod David Jones mor gefnogol i HS2 pan fydd hwnnw'n lladd Caergybi fel porthladd. Lle mae Albert Jones ar hyn hefyd?

Mae hon yn gerdyn cryf iawn i Rhun.

Pobl y Gogledd wastad yn barod i gwyno fod 'popeth yn mynd i Gaerdydd' ond ddigon hapus fod lot lot mwy o arian yn mynd i Ogledd Lloegr a bydd hynny'n lladd economi'r Gogledd.