Sunday, December 29, 2013

Amcanion i'r Blaid ar gyfer 2014

1). Cadw'r sedd Ewrop.  Mater gweddol syml fydd hyn o sicrhau bod cefnogwyr arferol y Blaid yn mynd allan i bleidleisio.  Mae'n debyg mai tua thraean fydd yn pleidleisio - hanner yr hyn sy'n pleidleisio mewn etholiad San Steffan.  O dan yr amgylchiadau hyn pe byddai'r Blaid yn cael 3/4 ei phleidlais San Steffan allan byddai'r bleidlais yn agos at 20% a byddai'r sedd yn eithaf saff. Doedd y Blaid ddim ymhell o gael 3/4 ei phleidlais 2005 allan yn 2009.

2). Datblygu ymateb synhwyrol i ganlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban.  Beth bynnag y canlyniad bydd natur perthynas Cymru a gweddill y DU yn newid yn sylfaenol.  Os bydd yr Alban yn mynd ei ffordd ei hun bydd llywodraethau Llafur yn y DU yn mynd yn bethau llawer llai cyffredin.  Bydd hyn yn gwneud mwy o ddatganoli yn atyniadol i lawer o bobl yng Nghymru.  Bydd y Blaid Lafur Gymreig yn ceisio osgoi derbyn pwerau trethianol am resymau rydym eisoes wedi eu trafod.  Bydd hyn yn ei dro yn rhoi cyfle i'r Blaid.  Os mai 'na' fydd yr ateb yna mae'n debygol y bydd y setliad efo'r Alban yn cael ei rhesymoli, a bydd pwerau pellach yn cael eu datganoli i'r Alban.  Mae'n bwysig o safbwynt y Blaid bod cyd destun Cymreig i hyn, ac mae'n bwysig mynd ati i amlinellu'r cyd destun hwnnw.

3). Paratoi ar gyfer etholiad cyffredinol 2015.  Un mis ar bymtheg sydd yna tan yr etholiad yma.  Yr wythnosau sy'n arwain at yr etholiad ydi'r rhai gwaethaf i'r Blaid gael ei neges i'r etholwyr - mae ei llais yn cael ei foddi'n llwyr gan swn byddarol cyfryngol. Y misoedd cyn yr etholiad cyffredinol ydi'r amser i'r Blaid drosglwyddo ei neges - golyga hynny'r flwyddyn nesaf.  Mae yna risg hefyd na fydd y glymblaid yn aros efo'i gilydd tan 2015.  Fel y bydd diwrnod yr etholiad yn dod yn nes bydd gwerth cynnal y llywodraeth yn lleihau, a bydd y demptasiwn i bleidiau'r glymblaid dynnu allan tros rhyw fater o egwyddor neu'i gilydd er mwyn sicrhau mantais etholiadol yn cynyddu.

4). Mae'r Blaid angen bod yn glir am union natur ei neges ar gyfer etholiad San Steffan a'i throsglwyddo. Mae'r ffaith bod Llafur Cymru yn rhoi'r bai am y toriadau maent yn eu gweinyddu ar y glymblaid tra bod Ed Balls yn dweud ei fod am gadw at gynlluniau gwariant y Glymblaid honno yn cynnig cyfle amlwg.

5). Bydd yr etholiad San Steffan nesaf yn torri tir newydd i'r graddau y bydd llai o bobl nag erioed o'r blaen yn derbyn eu gwybodaeth am yr etholiad o'r cyfryngau prif lif.  Mae darlleniad papurau newydd yn syrthio fel carreg trwy'r DU.  Bydd mantais sylweddol gan y sawl sy'n gwneud defnydd o ddulliau amgen o gyfathrebu neges wleidyddol.  Mae'n bwysig i'r Blaid fod ar flaen y gad yma.

6). Pres.  Bydd etholiadau Ewrop, San Steffan a'r Cynulliad yn ddrud iawn.  Does gan y Blaid prin ddim noddwyr corfforaethol ac undebol.  Yn wahanol i'r pleidiau unoliaethol mae'r rheolaeth ariannol yn dda a does ganddi hi ddim dyledion mawr.  Ar un ystyr mae hyn yn fantais - dydan ni ddim ar gledr llaw neb - fel y pleidiau unoliaethol.  Ond mae etholiadau yn ddrud - ac yn arbennig felly pan mae yna etholiadau pwysig flwyddyn ar ol blwyddyn.  Mae'r Blaid angen dod o hyd i well ffyrdd o sicrhau llif arian.  

5 comments:

Alwyn ap Huw said...


Mater gweddol syml fydd hyn o sicrhau bod cefnogwyr arferol y Blaid yn mynd allan i bleidleisio

Fe fu cyfnod pan oedd Plaid Cymru yn gallu sicrhau 29% o'r pleidleisiau mewn etholiad Ewrop ar turnout uwch na byddwn yn darogan ar gyfer etholiad 2014.

Byddai cael y bleidlais craidd o 185K a bleidleisiodd i'r Blaid ym 1999 yn hytrach na'r 138K a drodd allan yn 2009 yn sicrhau ail sedd i'r Blaid!

Dai said...

Does dim gobaith caneri i'r blaid ennill ail sedd. Yr her yw aros yn y drydedd safle a chadw'r sedd.

Alwyn ap Huw said...

Bolocs Dai! Mae'r trydedd sedd yn ansicr ei afael. Mae angen i'r Blaid ail gipio yr ail sedd er mwyn sefydlogi ei afael ar sedd yn Ewrop, ac annelu at ennill y cyntaf a'r bedwaredd!

Hogyn o Rachub said...

Yn anffodus dwi'n meddwl bod Dai yn gywir. Mae'r sefyllfa wleidyddol sydd ohoni'n rhyfeddol o ffafriol i Lafur - ac yn anffodus mae'r Gymru lle gall Llafur wneud dim ac ennill etholiadau yn ei hôl (os y bu iddi adael fyth). Bydd y Blaid ddim yn sicrhau ail sedd.

Yr hyn y gall ei wneud ydi sicrhau'r ail safle, ac mae hynny'n bwysig iawn. Dwi bob amser wedi meddwl bod anallu'r Blaid i wneud yn well yn 2009 wedi bod yn rhwystr dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi rhoi iddi ddelwedd o fod yn 'poor man's SNP'.

Drwy ddod yn is nag ail eto gallai'r ddelwedd honno barhau, os nad gwaethygu.

Dai said...

Cytuno gallwn gael yr ail safle a bod angen gwneud hynny