Sunday, December 01, 2013

Panig parhaol y system addysg Gymreig

Cyn bod canlyniadau Pisa ar fin cael eu rhyddhau, a chyn ein bod yn debygol o weld cryn dipyn o Huw Lewis yn egluro sut mae am fynd i'r afael a'r ffaith nad ydi Cymru wedi cael fawr o lwyddiant dwi'n rhyw deimlo y dyliwn gynnig mymryn o gyngor iddo - er na fyddai'n cymryd unrhyw sylw hyd yn oed pe bai'n gallu darllen y blog wrth gwrs.  Gan bod cyfundrefn addysg y Ffindir mor effeithiol ag ydi cyfundrefn Huw yn aneffeithiol, mi edrychwn ni ar bethau o safbwynt y gwahaniaeth rhwng yr wlad honno a Chymru.

Dydi plant yn y Ffindir ddim yn dechrau ar eu haddysg nes eu bod yn 7.
Mae bywyd addysgol plentyn yn dechrau yn y mis Medi yn dilyn ei benblwydd yn 3 yng Nghymru.

Mae cymdeithas yn y Ffindir yn hynod gyfartal.
Mae cymdeithas yng Nghymru yn hynod anghyfartal - ac mi aeth yn llawer llai cyfartal pan roedd plaid Huw yn rheoli yn San Steffan.  Yn wir roedd y cyn brif weinidog Tony Blair yn intensely relaxed efo'r syniad o fancwyr ac ati yn gwneud mynyddoedd o bres.  Prif flaenoriaeth Huw ydi torri'r cysylltiad rhwng tlodi a than gyflawniad addysgol - ond does gan Huw ddim mewath o dystiolaeth bod hynny'n bosibl heb fynd i'r afael efo tlodi ei hun - ac os oes un peth mae Llafur yng Nghymru yn gyson ynglyn a fo, methiant i wneud hynny.

Mae'r gyfundrefn addysg yn y Ffindir yn eithaf digyfnewid.
Mae'r gyfundrefn addysg yng Nghymru mewn cyflwr o newid parhaus - ac mae hynny yn arbennig o wir ers i blaid Huw gael gafael arni.  Ceir fersiynau gwahanol o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, Fframweithiau a Strategaethau Rhif a Llythrennedd, Cynlluniau Ysgolion Gwyrdd ac Ysgolion Iach, Cyfnod Sylfaen, Fframwaith Sgiliau, gwahanol gyfundrefnau profi ac asesu, Cynlluniau Addysg Bersonol ac ati.  Fel mae ysgolion yn gorffen cynllunio i ddarparu ar gyfer un blaengaredd mae un arall yn cymryd ei lle, ac weithiau yn ei disodli.  Does yna ddim oll yn cael cyfle i wreiddio nag angori - mae pob dim yn newid trwy'r amser, ac mae cynllunio ar gyfer newid yn sugno llawer iawn o'r amser cynllunio sydd ar gael i ysgolion.  Mae edrych ar y gyfundrefn addysg yng Nghymru braidd fel edrych ar gem fideo - un sy'n symud yn gyflym iawn.  Byddai Permanent Panic yn enw gwych i'r gem honno.

Dydi plant yn y Ffindir ddim yn cael eu profi nes eu bod ymhell yn eu harddegau.  Un prawf safonedig mae plant yn ei wynebu - pan maent yn 16.

Mae plant yng Nghymru yn cael eu hasesu neu eu profi yn barhaus.  Maent yn cael eu hasesu yn gyntaf pan maent yn dod i'r ysgol yn dair oed, ac maent yn cael eu hasesu yn rheolaidd.  Maent yn cael eu hasesu yn ffurfiol pan maent yn 7, 11 a 14 ac maent yn derbyn profion statudol pob blwyddyn ar ol iddynt fod yn chwech.  Cant eu arholi yn flynyddol o 11 ymlaen.  Mae deilliannau'r profion yn cael eu defnyddio i gymharu a bandio ysgolion, ac o ganlyniad mae cymhelliant cryf i ysgolion addysgu i bwrpas cael plant i lwyddo mewn profion yn annad dim arall.  Mae'r holl brofi ac asesu yn creu mynyddoedd o ddata sy'n cael ei gadw'n ganolog, a'i ddefnyddio i gymharu ysgolion.  Mae ysgolion yn cael eu hasesu yn rhannol ar eu gallu i ddehongli'r mynyddoedd o ddata - felly mae cryn dipyn o amser ac ynni yn cael ei ddefnyddio yn palu i mewn i'r mynydd a dod o hyd i rhywbeth cadarnhaol yno..

Cyflwynwyd cyfundrefn brofi newydd yng Nghymru eleni yn sgil y methiant enwog ym mhrofion rhyngwladol Pisa ychydig flynyddoedd yn ol.  Roedd yr hen gyfundrefn TASAU wedi eu taflu i'r bin sbwriael gan Jane Davidson ychydig flynyddoedd yng nghynt.  Mae'r profion newydd yn ffocysu mwy o lawer ar sgiliau penodol  llythrennedd a rhifedd na'r hen rai.  Mae profion Pisa yn profi dealltwriaeth o gysyniadau.  Dydi'r profion sy'n ymateb i fethiant Pisa ddim yn chwilio am yr hyn mae Pisa'n chwilio amdano -  felly fydd y profion  ddim yn cyfranu at wella'r canlyniadau gwael maent wedi eu creu o'u herwydd.

Pedair awr y diwrnod mae athrawon yn ei dreulio'n addysgu.
Pump awr neu bump a hanner yng Nghymru + yn aml iawn ddyletswydd iard a dyletswydd goruwchwylio cinio.  Gan nad oes llawer o gymorthyddion yn unman ag eithrio'r Cyfnod Sylfaen mae'r bobl yma'n aml yn gyfrifol am lu o fan dasgau eraill - ffotocopio, addurno dosbarthiadau, hel pres ac ati.

Mae pob athro yn cael 2 awr o hyfforddiant mewn swydd yr wythnos.
Yng Nghymru mae hyfforddiant mewn swydd - fel pob dim arall - mewn cyfnod o newid radicalaidd. O ganlyniad mae'n flynyddoedd ers i rai athrawon dderbyn hyfforddiant.

Dydi ysgolion yn y Ffindir ddim yn cael eu harolygu (er eu bod yn atebol i awdurdodau lleol)
Mae ysgolion yng Nghymru yn cael eu harolygu gan ESTYN, maent hefyd yn atebol i awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a chyrff llywodraethu.  Mae'r awdurdodau lleol a'r consortia o'r farn mai eu prif ddyletswydd ydi herio ysgolion - oherwydd mai dyna a ddywedir wrthynt gan ESTYN.  Daeth  ESTYN i'r casgliad yma oherwydd bod modelau o fyd busnes (wyddoch chi gwerthu bwyd ci, sefydlu rhwydwaith o salons torheulo a 'ballu) wedi treiddio i'r byd addysg.   Maent hefyd o'r farn mai herio ysgolion ydi prif rol y cyrff llywodraethu ac mai herio athrawon a chymorthyddion ydi prif rol uwch dimau rheoli.

 Felly ceir y canfyddiad cwbl bisar trwy'r holl gyfundrefn addysg Gymreig bod unigolion a sefydliadau sydd yn dysgu plant yn gweithio orau pan mae pawb yn herio ac yn cael eu herio, pan mae pawb yn gweithio o dan bwysau sylweddol, pawb yn ofn am ei fywyd gwneud rhywbeth o'i le. Dydi'r ffaith cwbl amlwg ei bod yn haws addysgu plant pan mae'r sawl sy'n gorfod gwneud yr addysgu yn hapus, yn frwdfrydig, yn gadarnhaol a ddim yn byw mewn ofn ddim yn rhan o ddealltwriaeth y sefydliad addysgol yng Nghymru o'r ffordd mae pethau'n gweithio. Y canlyniad ydi cyfundrefn lle mae neidio trwy gylchoedd yn bwysicach na bod yn effeithiol, system lle mae ofn gwneud camgymeriad yn gor bwyso'r cymhelliad i dorri tir newydd.

Rwan, wnes i ddim gweld y rhaglen ddiweddar am y boi aeth o Friars i'r Ffindir - ond 'dwi'n rhyw ddeall mai un o brif gasgliadau'r rhaglen oedd y byddai'n rhaid mewnforio'r holl fodel o'r Ffindir yn hytrach na rhannau ohono i wneud i'r gyfundrefn weithio yng Nghymru.  Dichon bod hynny'n wir - ond byddai rhywun yn meddwl y byddai gweithio tuag at fodel sy'n rhoi synnwyr cyffredin a seicoleg dynol yng nghanol y ffordd mae'n gweithredu yn hytrach nag un sy'n cael ei yrru gan banig parhaol a chanfyddiad mai'r ffordd o ddysgu plant yn well ydi trwy osod llwyth o strwythurau mewn lle sydd a'u gwreiddiau ym myd busnes. Mae gen i ofn ein bod ni'n symud i'r cyfeiriad cwbl groes i'r un y dylid ei ddilyn.

3 comments:

Meic Owen said...

Hefyd mae plant y Ffindir yn gadael ysgol yn medru aml o ieithoedd. Yng Nghymru mwyafrif yn gadael ysgol ond medru'r Saesneg. Ffars llwyr.

Anonymous said...

Pan oedden ni yn blantos erstalwm mi oedden ni yn medru darllen a sgwennu cyn mynd i'r ysgol yn bedair oed. Mae yna gyfrifoldeb ar y cartref hefyd, yn fy marn i. Heddiw mae dau riant yn gweithio a neb efo amser i wneud pethau pwysig efo plant. Dwi'n teimlo fod ein cymdeithas yn rhannol gyfrifol am y canlyniadau welwn ni heddiw. Does gan plant heddiw ddim syniad am enwau adar nag enwau planhigion a choed na chwaith enwau'r mynyddoedd. Mi oedd yr addysg yma gawsom adref yn bwysig.

Anonymous said...

Meddai Vaughan Roderick are ei flog: "Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod 'na gryn dipyn o gonsensws ynghylch beth sydd angen gwneud, a chefnogaeth drawsbleidiol i nifer o'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Gweinidog Addysg diwethaf Leighton Andrews. Yr hyn mae'r gwrthbleidiau yn ei amau yw gallu'r Llywodraeth i wireddu'r newidiadau hynny." Paham mae'n yn amau gallu'r Llywodraeth Lafur i wireddu'r newidiadau hyn? Wyt ti'n gwybod? Oes rhywbeth sy'n arbennig am y Blaid Lafur sy'n eu gwneud yn annalluog i wireddu beth sydd angen? Ymyrraeth efallai o Lundain ynteu beth?