Sunday, December 22, 2013

'Rheswm' arall i Albanwyr bleidleisio Na

Hmm - y 'rheswm' diweddaraf i beidio a phleidleisio tros annibyniaeth i'r Alban ydi y byddai gwladwriaeth annibynnol yn yr Alban yn 'troi'r DU gasgliad o lwythau unig mewn Byd peryglus ac ymysodol'. Dyna mae'r hanesydd Linda Colley yn ei honni yn Sunday Times heddiw beth bynnag.  Mae hefyd o'r farn mai gwrth Seisnigrwydd sy'n gyrru'r ymgyrch tros annibyniaeth yn yr Alban.

Gallwn ychwanegu'r 'rheswm' yma at y domen o 'resymau' mwyfwy apocolyptaidd sydd wedi eu cyflwyno gan wrthwynebwyr hawliau cyfartal i'r Alban - byddai'n rhaid i Loegr fomio meysydd awyr  yr Alban, byddai'r wlad yn cael ei chwalu'n economaidd gan y rheidrwydd i dalu rhyw ddyledion neu'i gilydd, byddai ciwiau anferth o bobl wrth y ffin yn gafael yn dyn yn eu pasports, y byddai hanner miliwn o bobl yn gadael yr wlad yn y fan a'r lle, y byddai prisiau bob dim yn saethu trwy'r to, y byddai pawb yn cael eu troi'n dramorwyr, na fyddai'n bosibl i'r wlad gael benthyciadau, y byddai'r wlad yn gwbl ddi amddiffyn, y byddai terfysgwyr o bedwar ban Byd yn heidio yno, y byddai'n rhaid gadael yr Undeb Ewropiaidd, y Gymanwlad, NATO a'r Cenhedloedd Unedig, na fyddai syniadau a blaengaredd yn gallu croesi'r ffon, y byddai yna lywodraeth Doriaidd yn Lloegr am weddill amser ac ati, ac ati.

Mae'n adrodd cyfrolau am seiliau deallusol yr achos unoliaethol bod eu hymgyrch wedi ei seilio ar gyfres o fygythiadau hysteraidd yn hytrach nag ar ddadl gyson a synhwyrol sy'n rhoi cig a gwaed ar y cysyniad anarferol ei bod yn well i wledydd gwahanol fod yn rhan o'r un gwladwriaeth.




No comments: