Thursday, April 11, 2013

Marwolaeth Thatcher a pharadocs y polau piniwn

Dydw i ddim wedi trafferthu son am farwolaeth Margaret Thatcher am reswm eithaf syml -- fedra i ddim meddwl am ddim byd cadarnhaol i'w ddweud am y ddynas, ond 'dwi hefyd yn anghyfforddus yn lladd ar rhywun sydd newydd farw.

Serch hynny efallai ei bod werth nodi i'r Toriaid gael eu sgor isaf erioed ym mhol dyddiol diweddaraf YouGov.  Yn ol y pol (Prydain gyfan) mae Llafur ar 42%, y Toriaid ar 28%, y Lib Dems ar 12% ac UKIP ar 11%.  Petai hyn yn cael ei wireddu mewn etholiad cyffredinol byddai'r Toriaid yn gwneud yn waeth nag y gwnaethant yng nghyflafan 1997 gan ( yn ol pob tebyg) golli pob sedd yng Nghymru ag eithrio un Glyn Davies ym Maldwyn.

Mae'n ddiddorol bod y polio pleidiol mor sal i'r Toriaid tra bod y polio ynglyn a Thatcher yn awgrymu bod canran go uchel o'r cyhoedd yn llyncu nonsens y cyfryngau ei bod yn un o brif weinidogion mwyaf y ganrif ddiwethaf.  Mae'n siwr bod y paradocs yma yn boendod i arweinyddiaeth y Toriaid - mae'n debyg eu bod wedi disgwyl ffigyrau polio gwell yn sgil yr holl gyhoeddusrwydd crafllyd gan y cyfryngau torfol.

Efallai mai'r ateb i'r paradocs ydi bod pob math o gyn weinidogion a gwleidyddion Toriaidd eraill o'r gorffennol wedi ymddangos ar ein sgriniau teledu yn ddi derfyn.  Does yna ddim byd gwell na'r criw yma i atgoffa pawb o'r hyn ydi'r Toriaid mewn gwirionedd. 

No comments: