Sunday, April 07, 2013

Nid budd daliadau plant ydi'r broblem Mr Davies

Mi fydd darllenwyr rheolaidd y blog yma yn gwybod fy mod yn feirniadol o bryd i'w gilydd o Aelod Seneddol Maldwyn, Glyn Davies.  Y broblem efo Glyn ydi bod pob ystum o'i eiddo yn dweud yr un peth - edrychwch mor gymhedrol, mor gall, mor rhesymol ydw i - tra bod tystiolaeth o'i ragfarnau a'i ddiffyg cymedroldeb yn torri trwy'r rwdlan hunan gyfiawn - er ei waethaf.  Mae ei flogiad diweddaraf yn glasur.

Ymdrech ydi rhan o'r blogiad i ddangos mor rhesymol a chall ydi Glyn a'i deulu trwy eu cymharu yn ffafriol efo poster boy diweddaraf y Toriaid, Mick Philpott.  Mae Glyn yn nodi bod rhai o'i gyd aelodau seneddol Toriaidd eisiau cyfyngu budd daliadau plant i ddau blentyn yn unig cyn mynd ati i'n sicrhau ei fod o ( yn gymhedrol a rhesymol fel arfer) yn anghytuno.

Byddwch yn ymwybodol bod George Osborne - ymhlith eraill - wedi bod wrthi'n brysur yn ceisio cymryd mantais o'r ffaith i Mr Philpott losi chwech o'i un deg saith plentyn i farwolaeth i ddadlau bod angen diwygio'r gyfundrefn budd daliadau. Roedd Mr Philpott wrth gwrs wedi bod yn  tynnu ar y gyfundrefn budd daliadau  gyda'r un prysurdeb ag oedd wedi bod yn epilio.

Beth bynnag, daw Glyn a'i flogiad i ben efo'r sylw rhyfeddol yma.

Several of my parliamentary colleagues have called for a limit on child benefits for just two children. I don't support this. Its not the children's fault. And with so many men and women having children in multiple relationships it would not be possible to operate such a limit easily or fairly. But there is going to be a debate. Personally I think there may be diminishing levels of support as the number of dependent children increase. Whatever, its to be very controversial.  But I'm not at all sure the British political system is capable of holding it. It might all be just too 'difficult'. The country may have to actually go bust first.


Gan adael o'r neilltu y diffyg rhesymeg mae'r darn yn ei ddangos (yr awgrym y byddai'n bosibl plismona lleihau budd daliadau plant yn raddol ond y byddai'n amhosibl plismona eu dileu yn llwyr er enghraifft) mae'n ymddangos bod Glyn yn llafurio o dan yr argraff y gallai budd daliadau plant wneud y wlad fethdalu - o ddifri.

Beth am edrych ar ychydig o ffigyrau.  Yn 2011-2012 roedd gwariant cyhoeddus yn y DU yn £694.888bn. Cost budd daliadau plant oedd £12.22bn - 1.75% o'r cyfanswm.  Cymharer hyn efo cost pensiynau - £74.22bn, budd daliadau tai - £16.94bn, budd daliadau anabledd - £12.57bn.  Efallai y byddai cymhariaeth efo elfennau eraill o wariant y llywodraeth hefyd yn ddiddorol Gwasanaeth Iechyd (Lloegr) £106.659bn, Addysg (Lloegr), £56.26bn, 'Amddiffyn' - £37.24bn.

Ymhellach mae budd daliadau plant yn dra thebygol o leihau fel cyfran o wariant cyhoeddus tros y blynyddoedd nesaf - yn rhannol oherwydd newidiadau sydd eisoes wedi eu gwneud gan lywodraeth y DU, ac yn rhannol oherwydd newidiadau demograffig.  Fel y bydd y boblogaeth yn heneiddio bydd mwy o bwysau ar gyllidebau'r Gwasanaeth Iechyd a'r Adran Bensiynu.  Yn y meysydd yma y bydd yr her ariannu mawr tros y degawdau nesaf.  Dyna'r ddadl 'anodd' (chwedl Glyn). Ond mae yn poeni y bydd budd daliadau plant yn gwthio'r DU tros y dibyn cyllidol.  Wel naill ai hynny, neu fel George Osborne mae'n gwneud defnydd o'r ymateb cyhoeddus cwbl ddealladwy i ymddygiad a ffordd byw Mick Philpott i geisio ymosod ar amodau byw plant.

No comments: