Saturday, April 13, 2013

Y cynhebrwng drytaf yn hanes y DU


Bu Jim Callaghan farw ar Fawrth 26 2002 yn 93 oed, un diwrnod ar ddeg wedi marwolaeth ei wraig, y prif weinidog a fu fyw hiraf yn hanes y DU.  Cafodd ei amlosgi a gwasgarwyd ei lwch yn Ysbyty Great Ormrod Street lle bu ei wraig yn gadeirydd y bwrdd llywodraethu am flynyddoedd.  Mewn capel Methodistaidd ar Ynys Scilly y cynhalwyd cynhebrwng Harold Wilson, ac yno mae wedi ei gladdu.  Roedd yna fwy o sioe ynglyn a chynhebrwng Ted Heath - daeth 1,500 o bobl i'r gwasanaeth yn yr amlosgfa a chladdwyd ei lwch yn Eglwys Gadeiriol Salisbury.  Trefniadau preifat oedd y cynhebryngau hyn, fel bron i pob cynhebrwng..  Bydd cynhebrwng Mrs Thatcher yn wahanol, bydd yn eironig ddigon yn digwyddiad anferth a chostus fydd yn cael ei ariannu bron yn llwyr gan y trethdalwr.

 Fel roedd yr hysteria torfol a gerddodd y DU yn sgil marwolaeth Diana Spencer yn 1997 yn cyrraedd ei binacl llwyddodd teulu Mrs Windsor wneud eu hunain yn destun dirmyg a chasineb am gyfnod trwy wrthod hedfan y faner ar hanner mast uwchben eu cartref yn Llundain.  Roedd y faner ar hanner mast o fewn awr i Mrs Thatcher farw yr wythnos diwethaf. Yr wythnos nesaf bydd arch Mrs Thatcher yn cael eu gludo trwy Llundain i Eglwys Gadeiriol St Paul's gyda chymorth hyd at 700 o filwyr i'w osod  o flaen casgliad rhyfedd o selebs, gwleidyddion, tramorwyr 'pwysig' a phobl oedd yn rhan o'i bywyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.  Oherwydd bod y ddynas mor gynhenus yn ystod ei bywyd bydd miloedd o heddlu yn gorfod sicrhau trefn cyhoeddus ar strydoedd Llundain yn ystod y digwyddiad. Dydan ni ddim yn cael gwybod manylion y gost hyd yn hyn - ond £8m i £10m ydi'r ffigwr sy'n cael ei wyntyllu gan y wasg.

Yn 1965 cafodd Winston Churchill gynhebrwng gwladol llawn ar gost o £168,000 - neu £2.75m mewn pres heddiw.  £5m oedd cost digwyddiad Diana Spencer yn 1997 - £7.7m heddiw a £5.9m oedd cost claddu mam Mrs Windsor yn 2002 - £8.16m mewn pres heddiw.  Mae'n debyg felly mai cynhebrwng Mrs Thatcher fydd yr un drytaf yn hanes y DU.

 A dyna ni - mi'r ydan ni mewn cyfnod  o wasgafa economaidd  yn ol y llywodraeth - gwasgafa sydd wedi sicrhau bod incwm y rhan fwyaf o bobl wedi syrthio mewn termau real am flynyddoedd.   Mae yna gyn brif weinidog wedi marw ddim ymhell o chwarter canrif wedi iddi ymddiswyddo fel prif weinidog oherwydd na allai sicrhau cefnogaeth hyd yn oed aelodau seneddol ei phlaid ei hun, prif weinidog sydd yn cael ei chasau gan gydrannau sylweddol o boblogaeth y DU i raddau nad  oes yr un prif weinidog arall wedi ei gasau yn hanes y DU.  Mae'r llywodraeth yn dod i gasgliad mai dyma'r amgylchiadau perffaith i drefnu'r cynhebrwng drytaf yn hanes y DU - math o gynhebrwng sydd wedi ei seilio ar gonfensiynau ymerodrol Oes Fictoria - oes sydd mewn aml i ffordd yn hollol estron i ni bellach. Ymateb adran sylweddol o'r wasg ydi cwyno nad ydi'r sbloets ddim hyd yn oed yn fwy rhwysgfawr a gwastraffus.  Dydi'r gair anhygoel ddim digon cryf rhywsut.

No comments: