Sunday, March 17, 2013

Carwyn Jones ac Aelodau Seneddol San Steffan

Os ydi'r Western Mail i'w gredu mae Carwyn Jones wedi cael amser caled gan Aelodau Seneddol ei blaid oherwydd iddo ddweud wrth Gomisiwn Silk ei fod eisiau datganoli pwerau sy'n ymwneud a'r gyfundrefn gyfreithiol i Gymru heb gael yr OK ganddyn nhw.  Yn wir mae'n ymddangos eu bod wedi perswadio Ed Miliband i ddweud na fydd mwy o ddatganoli 'yn flaenoriaeth' i'r llywodraeth Llafur nesaf yn ei dymor cyntaf - hy wneith o ddim digwydd.

Mae'r stori yma yn hen stori mewn gwirionedd - Llafur yn cynllunio datganoli yng Nghymru am resymau sy'n ymwneud a gwleidyddiaeth mewnol y Blaid Lafur yn hytrach nag er mwyn gwneud i ddatganoli weithio yn effeithiol.   Mae llawer o'r gwendidau yn y gyfundrefn ddatganoli yng Nghymru yn deillio yn uniongyrchol o'r ffaith bod Llafur yn ystyried eu buddiannau ei hun yn bwysicach na chael system lywodraethu effeithiol yng Nghymru.

Mae'n rhan o hen stori arall hefyd - yn y pen draw mae barn y Blaid Lafur yn Llundain yn gor bwyso barn y Blaid Lafur yng Nghymru.  Rhith ydi'r gred fod y Blaid Lafur Gymreig yn endid annibynnol.  Mi gaiff Carwyn Jones ddod i unrhyw benderfyniad mae o ei eisiau - cyn belled nad yw hynny'n groes i farn ei feistri yn San Steffan.

No comments: