Tuesday, March 19, 2013

Sesiynau holi'r Prif Weinidog

Mae Vaughan Roderick yn hollol gywir i nodi nad ydi sesiynau holi'r Prif Weinidog yn y Cynulliad yn gweithio yn arbennig o dda, ac mai un o'r  prif resymau am hynny ydi strwythur y sesiynnau hynny -  aelodau yn darllen eu cwestiynau yn gloff, aelodau ddim yn dangos iot o ddiddordeb yn yr hyn sy'n mynd ymlaen, a dim digon o gwestiynau atodol i arweinwyr y gwrth bleidiau fynd i'r afael efo 'atebion' Carwyn Jones.

Ond efallai na fyddai Vaughan yn meindio i mi wneud awgrym  pellach.  Byddai yn gwneud Byd o les petai'r Llywydd yn dweud wrth Carwyn Jones am ateb y blydi cwestiwn pob tro mae'n dechrau rwdlan am David Cameron, George Osborne neu unrhyw beth arall sy'n digwydd yn San Steffan.

2 comments:

Hogyn o Rachub said...

Tydw i'm yn meddwl imi unwaith glywed Carwyn Jones yn ateb cwestiwn gan un o aelodau'r gwrthbleidiau erioed. Ma'r holl beth yn ffars.

Ian Phillips said...

Mae'r aelodau yn dangos difaterwch tuag at aelodau eraill ymhob sesiwn cwestiynau. Mae'r lle yn farwaidd. Byddai tipyn bach o weiddi neu chwerthin yn help - unrhyw beth i feithrin ychydig o fywyd i'r gweithgareddau