Friday, March 01, 2013

Beth sydd gan Eastleigh i'w ddweud wrthym am Gymru

Ar un olwg ddim llawer - does yna ddim llawer o seddi cyfoethog sy'n ymylol rhwng y Lib Dems a'r Toriaid yng Nghymru.

Ond ac edrych tipyn yn fwy craff mae rhai o'r gwersi sydd wedi eu dysgu yn Lloegr yn berthnasol i Gymru hefyd:
  1. Ymddengys bod llawer o bobl yn cael cryn broblem pleidleisio i'r Toriaid - hyd yn oed pan roedd pethau yn mynd o'u plaid megis yn 2010.  Pan nad ydi amgylchiadau o'u plaid mae'r duedd yma'n mynd yn fwy trawiadol.
  2. Mae'r Toriaid yn agored iawn i golli pleidleisiau i UKIP.  Gallai hynny effeithio ar eu gobeithion o gadw y rhan fwyaf o'u seddi Cymreig.  Byddai gogwydd oddi wrth y Toriaid at Lafur yn ogystal a cholled pleidleisiau i UKIP yn farwol i'w gobeithion yn y bedair sedd a enillwyd gan Lafur yn 2010 (Gogledd Caerdydd, Aberconwy, Bro Morgannwg a De Penfro / Gorllewin Sir Gaerfyrddin).  
  3. Mor amhoblogaidd ag ydi'r Lib Dems mae yna lawer o bobl yn ei chael yn haws fotio iddyn nhw pan mai'r Toriaid ydi'r dewis amlwg arall.  Mae'r etholiad yma yn anarferol yn y ffaith bod y ddwy blaid oedd yn gyntaf ac yn ail mewn llywodraeth - dydi'r busnes 'is etholiad - pleidlais brotest' ddim yn gweithio.  Lle mai dewis Tori / Lib Dem fydd hi yn 2015 bydd y bleidlais Lib Dem yn anisgwyl o wydn.
  4. Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o seddi Lib Dem / Llafur yn siwr o gael eu colli, mae'n debygol bod cyfle da gan y Lib Dems i ddal y rhai Lib Dem / Toriaid.   Gweddol fach ydi mwyafrif Glyn Davies ym Maldwyn wrth gwrs - ac efallai nad ydi'r sedd yna mor saff i'r Toriaid a mae pawb wedi cymryd hyd yn hyn.  

2 comments:

Anonymous said...

Ydi UKIP yn mynd i fod yn rym newydd yng Nghymru yn denu y rhai hynny sydd yn wrth-Undeb Ewropeaidd ac yn wrth-cynulliad?

Cai Larsen said...

Wel, pe bydden nhw yn cael cymaint o bleidleisiau na maent yn ei bolio ar hyn o bryd mewn etholiad Cynulliad byddant yn cael seddi - ond - ac mae'n ond mawr - waeth i ni heb a darogan etholiad y Cynulliad. Erbyn hynny bydd y tirwedd yn wahanol - mi fydd yna lywodraeth Lafur yn San Steffan.