Saturday, February 09, 2013

Llongyfarchiadau Albert

Anaml iawn y bydd Albert Owen yn ymddangos yn y cyfryngau 'cenedlaethol', ond mae'n dda gen i ddweud iddo wneud ei farc o'r diwedd - yn Private Eye.

 Yn ol y cylchgrawn mae Albert yn yr arfer o ymddwyn fel hogyn drwg mewn dosbarth anhrefnus  yn Holyhead High yn yr hen ddyddiau dedwydd.

Beth bynnag ein barn am wleidyddion Mon, mae'r ynys wedi ei chynrychioli efo urddas tros y blynyddoedd - Megan Lloyd George, Cledwyn, Ieuan Wyn (OK, OK dwi'n gwybod am Keith Best).  A rwan mae ganddyn nhw rhywun sy'n ymdebygu i fwnci bach sydd wedi cael chwystrelliad o adrenalin.  Trist iawn.



*Diolch i Llyr ab Alwyn am y llun.

1 comment:

Anonymous said...

Paid a beirniadu safon aruchel ymddygiad disgyblion y 'County' . Os oedd gwendid o gwbl, dioddefai'r disgyblion o ddiffyg parch at awdurdod a oedd yn deillio o addysg wael yn y sector cynradd.
A oes awgrym fod y Br Owen yn 'Flinedig ac emosiynol' ? . Mae'r erthygl yn gwneud iddo swnian yn fwy rhugl ac addysgiedig nac arfer, cofiwch.