Sunday, February 10, 2013

Bangor

Un gair bach arall am y tablau yn y blogiad diwethaf sy'n cymharu grwpiau oedran Gwynedd a Chaerfyrddin.

Ceir patrwm amlwg wrth gymharu'r grwp 3-16 a'r un 65+.  Mae'r ganran yng Ngwynedd ymysg y plant fel rheol yn llawer uwch nag ydyw ymysg y pensiynwyr, ac mae hynny yn arbennig o wir mewn rhai ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn wanach - De Meirion er enghraifft.  Yn wir yn rhai o'r lleoedd hyn (Abermaw, Tywyn, Llangelynin er enghraifft) mae'r ganran plant dair gwaith yn uwch na'r un 65+.

Mae'r un patrwm i'w weld yn rhannau o Sir Gaerfyrddin - yn arbennig felly yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn weddol gryf beth bynnag.  Ond mae yna ddigon o lefydd yn Sir Gaerfyrddin lle mae canrannau'r plant yn debyg, neu'n is na rhai'r pensiynwyr.  Mae hyn yn arbennig o wir ochrau Llanelli ac yn nhref Caerfyrddin.

Ond mae yna ran o Wynedd lle ceir patrwm tebyg i un ardaloedd llai Cymreig Sir Caerfyrddin - sef dinas Bangor.  Rhaid nodi yma bod canrannau Bangor yn weddol barchus wrth ymyl rhai ochrau Llanelli, ac nad oes yna'r unman lle ceir canran uwch o bensiynwyr na phlant ym Mangor.  Os nad ydych chi yn fy nghredu, cymharwch yr 8 ward sydd ar waelod tabl Gwynedd - sydd i gyd ochrau Bangor - a'r ddwy sydd nesaf i fyny - dwy dref Seisnig yn Ne Meirion.

Mae'r ffordd mae addysg wedi ei drefnu ym Mangor yn fwy nodweddiadol o'r ffordd y caiff ei drefnu yn Sir Gaerfyrddin na gweddill Gwynedd.  Mae'r gyfundrefn addysg yn dylanwadu yn uniongyrchol ar blant mewn ffordd nad oes unrhyw beth yn effeithio ar unrhyw grwp oedran arall.  Os ydi Cyngor Gwynedd eisiau atgyfnerthu'r Gymraeg yng Ngwynedd, ffordd hawdd ac uniongyrchol o wneud hynny ydi trwy atgyfnerthu a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ym Mangor.

2 comments:

Anonymous said...

Yn wir. Mae Friars I raddau helaeth, fel Holyhead High yn ysgol blatantly Saesneg heb ddim embaras am y peth,ac o gysidro effaith Bangor ar de Mon a cyffuniau Bangor, mae'n angenrheidiol I Gyngor Gwynedd ddelio a'r 'fifth column' yma

Anonymous said...

Tybiwn i bod yr un peth yn wir o ran dylanwad Ysgol Penglais ar ardal Aberystwyth