Tuesday, February 12, 2013

De Mon

Cyn mynd ymlaen un problem i'w gwyntyllu.  Fel y gwyddoch dwi wedi bod yn cael llawer o fy ngwybodaeth o'r map rhyngweithiol.  Fedra i ddim egluro pam bod y rhan fwyaf o wardiau ym Mon yn ol ffigyrau diwedd Ionawr yn dangos cwymp mwy na'r un oedd wedi ei gofnodi tros yr holl ardal llywodraeth leol ychydig fisoedd ynghynt.  Os ydi rhywun yn gallu egluro hyn, byddai diddordeb gen i wybod am hynny.

Yn y cyfamser wele ffigyrau De Mon.  Lle nad yw'n amlwg yn lle mae'r ward (sydd yn wir yn amlach na pheidio ym Mon), dwi'n rhoi enw'r prif bentref.  2001 gyntaf, 2011 wedyn.

Rhosyr (Niwbwrch) - 63.3%\59.3%
Aberffraw - 62.1%\50%
Bodorgan - 72.5%\68.3%
Cadnant ( Porthaethwy) - 52.3%\47.4%
Tysilio (Rhwng Borth a Llandegfan ac i'r Gogledd)- 64.7%\59.2%
Cwm Cadnant (Llandegfan) - 56.3%\57.5%
Llanfihangel Ysgeifiog (Gaerwen) - 78.9%\75.8%
Beaumaris - 39.7%\39.5%
Pentraeth - 57.5%\54.8%
Llanidan  (Brynsiencyn) - 68.6%\65.1%
Braint (Llanfairpwll) - 76.8%\73.2%
Gwyngyll (Llanfairpwll) - 74.5%\70.5%
Llangoed - 54.9%\48.4%
Bodffordd (Llangefni/Bodffordd) - 85.2%\80.8%
Llanddyfnan (Capel Coch) - 69.9%\64.7%
Tudur (Llangefni) - 83.1%\80.7%
Cefni (Llangefni) - 82.9%\80.5%
Brynteg (Benllech) - 50.9%\48.7%
Llanbedrgoch (Benllech) - 45.9%\43.9%
Bryngwran - 76.6%\71.1%
Bodorgan - 78.5%\73.3%


  • Cwymp cyson bron ym mhob ward
  • Tair ward 80%+ ar ol - ond dim ond o drwch blewyn - yr unig rai y tu allan i Wynedd.
  • Perfedd dir 70%+ yn dal i sefyll ond o dan bwysau.
  • Cwymp trychinebus yn ardal Aberffraw.
  • Y Gymraeg yn dal ei thir yn rhai o'r ardaloedd mwy Seisnig.
  • Y Gymraeg yn gwneud yn well mewn trefi a phentrefi mawr - fel Gwynedd.


6 comments:

Hogyn o Rachub said...

Ar wefan Nomis (mae Ioan yn ei defnyddio) mae rhai o'r ystadegau yn wahanol

Aberffraw 60.4%
Tysilio 59.3%
Bodffordd 73.3%
Bryngwran 71.2%
Bodorgan 68.3%

Gan mwyaf mae'r uchod yn llai (ac eithrio Aberffraw) - ond dwi wir ddim yn gwybod pa set o ystadegau sy'n gywir neu fwyaf dibynadwy.

Serch hynny - oni fydd patrwm gogledd Môn yn sylweddol wahanol - wn i ddim sut y bu'r cwymp ar Fôn mor isel. Ddim y wardiau sy wedi newid...?

Cai Larsen said...

Wel, mi alli di ddefnyddio hon - http://www.neighbourhood.statistics.gov.uk/dissemination/LeadHome.do;jessionid=LGlFRbZH4sST2Pw34Gzb1YH9xphqG8mMJY3jLddd5CqzM8Fdv3V9!-1108115683!1360746759548?m=0&s=1360746759548&enc=1&nsjs=true&nsck=true&nssvg=false&nswid=981

Ti'n gorfod gweithio'r canrannau allan dy hun. Mae'r ffigwr Bodorgan yn cyd fynd a'r un ti yn ei dyfynu - ond mae cwpl o rai eraill dwi wedi eu gwirio'n gyflym yn cyd fynd efo'r map. Mae'n bosibl nad ydi ardaloedd cyfrifo y map yn union yr un peth a'r wardiau etholiadol pob tro.

Beth bynnag dydi'r patrymau yng Ngogledd Mon ddim yn sylweddol wahanol - sy'n ein gadael efo mymryn o ddirgelwch.

Ioan said...

Mae NomisWeb yn dweud:

LAs Pawb 3+ Gallu siarad Cymraeg
Ynys Mon 67,403 38,568
Gwynedd 117,789 77,000

Sy'n cytuno efo Excel sheet Syniadau o fis Tachwedd, ond yn nghytuno efo ambell i ddata o'r ONS. Un rheswn ydi bod ONS wethiau yn rhoi rhifau am bob oed (ddim pawb drost 3 fel sy'n arferol). Mi fasach chi'n synnu faint o blant 0-2 oed Gweynedd sy'n gallu Siarad, sgwenu, a darllen Cymraeg!!

Ioan said...

Mi wnaeth Ynys Mon ddisgyn 2.9% rhwng 2001 ac 2011. 23 Ward yn disgyn mwy, 17 yn disgyn llai (neu'n codi..).

Ar gyfartaledd mae'r wardiau efo cwymp llai yn wardiau mwy poblog.

Mi wnaeth pob ward yng Nghergybi ddisgyn fwy na'r cyfaertaledd ym Mon.

Fy mhenbleth fwyaf i ydi be ddigwyddodd ym Mhorth Amlwch: Drost 600 yn fwy yn gallu siarad Cymraeg, ond y % lawr 4%. Dwi'n cymeryd bod y ffiniau wedi newid!?

Anonymous said...

O ran amlwch mae gen i fras gof bod problem gyda cyfrifiad 2001

William Dolben said...

Do, mi ddiflannodd 1,000 o bobl

http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/north_west/3052279.stm