Wednesday, August 31, 2011

Gwariant ar gyffuriau cancr newydd yng Nghymru

Mae'n ddiddorol nodi bod Golwg360 yn cysylltu ymysodiad y Toriaid ar y gwariant uchel ar brescripsiwns yng Nghymru ag adroddiad gan elusen sy'n galw ei hun yn  Sefydliad y Canserau Anghyffredin (RCF - Rare Cancers Foundation). 

Mae'r adroddiad hwnnw yn honni bod bwlch anferth mewn  mynediad i gyffuriau newydd rhwng pobl sy'n byw yng Nghymru a'r Alban o gymharu a Lloegr.  Yn ol yr RCF mae cleifion yng Nghymru yn bump gwaith llai tebygol o gael mynediad i gyffuriau newydd na rhai yn Lloegr, ac mae Albanwyr yn dair gwaith llai tebygol o gael mynediad iddynt.


'Does gen i ddim problem efo sylwadau Darren Millar fel y cyfryw - mae'n gwbl briodol bod dadl wleidyddol yn mynd rhagddi ynglyn a'r ffyrdd gorau o wario'r cyllid sydd ar gael i ni.  Mae Golwg360 hefyd yn dyfynnu, Dr Chris Jones, cyfarwyddwr meddygol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru pan mae hwnnw'n honni - yn gywir - bod gwariant y pen ar drin cancr yn uwch yng Nghymru nag ydyw'n Lloegr.

Yr hyn nad ydi Golwg360 yn ei ddweud fodd bynnag ydi bod y Sefydliad y Canserau Anghyffredin yn gorff sy'n cael ei ariannu i raddau helaeth gan gwmniau cynhyrchu cyffuriau neu gwmniau iechyd preifat - mae 12 o'r 13 noddwr yn syrthio i'r categoriau hynny.  MacMillan ydi'r eithriad. Mae swm bach (£14,521) hefyd yn dod o goffrau Adran Iechyd Lloegr. Gellir gweld rhestr o'r cyfranwyr ar dudalen 14 o'r adroddiad.

Mae cyffuriau newydd o reidrwydd yn hynod ddrud - 'does neb yn siwr pa mor effeithiol ydynt am fod, ac o ganlyniad dydyn nhw ddim yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr.  Mae yna gwestiwn go iawn ynglyn a pha mor gost effeithiol ydi hi i awdurdodau iechyd wario'n drwm arnynt.  Y sefyllfa yng Nghymru ydi bod gwariant ar brescripsiwns yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, bod gwariant ar gancr hefyd yn uwch, ond bod gwario ar iechyd yn gyffredinol yn is, ac mae gwariant ar gyffuriau anarferol a newydd hefyd yn is.  Hynny yw, mae yna ddwy system iechyd wahanol efo blaenoriaethau gwahanol. Felly ddylai pethau fod mewn cyfundrefn ddatganoledig.

'Dydi barn elusen sydd i bob pwrpas ym mherchnogaeth cwmniau fyddai'n elwa o wireddu ei argymhellion ddim yn un y dylid rhoi gormod o sylw iddynt wrth flaenoriaethu gwariant ar iechyd yng Nghymru.

No comments: