Wednesday, August 24, 2011

Darren Millar eisiau bod yn farnwr, erlynydd, ynad heddwch ac AS yn ogystal ag AC

Mae'n ddiddorol nodi bod Aelod Cynulliad Toriaidd Gorllewin Clwyd, Darren Millar yn hynod awyddus i fynegi'r gred y dylai llys ynadon Caernarfon fod wedi bod yn fwy llawdrwm o lawer ar David Glyn Jones yn dilyn ei ymgais byrhoedlog ond boncyrs i greu terfysg ym Mangor.

Rwan mae pob barnwr, neu ynad heddwch yn dilyn canllawiau clir iawn pan maent yn dedfrydu.  Roedd David Jones wedi ei gyhuddo o dorri'r Ddeddf Cyfathrebu.  Gallwch weld y canllawiau dedfrydu y byddai'r ynadon wedi eu dilyn yng nghyd destun y ddeddf honno yma. (ewch i t 42). Os ewch ati i wneud yr un ymarferiad ag y gwnaeth yr ynadon, byddwch yn cael dedfryd yn yr amrediad 12 i 18 wythnos, gyda dadl go lew am roi'r lleiafswm.  Nid dyna wnaethon nhw - aethant am yr uchafswm - fel y byddai llawer ohonom wedi ei wneud yn y sefyllfa arbennig yma.



Rwan, 'dwi ddim eisiau dweud yr amlwg, ond mae'r gyfundrefn gyfreithiol yng Nghymru yn un gweddol syml - mae'r Cynulliad yn deddfu ar faterion Cymreig, mae San Steffan yn deddfu ar faterion Prydeinig, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cyhuddo (neu yn peidio a chyhuddo) yng ngoleuni ei ddealltwriaeth o'r gyfraith, ac mae'r llysoedd yn dyfarnu euogrwydd ac yn dedfrydu.

Gan nad ydi pwerau cyfiawnder wedi eu datganoli, cymharol fach ydi rol Darren yn hyn oll.  Ond eto mae'n 'siomedig' yn y ddedfryd ac yn credu y dylid bod wedi 'gwneud esiampl' o David Jones.  Mewn geiriau eraill mae'n credu y dylai Ynadon Caernarfon fod wedi anwybyddu'r canllawiau dedfrydu - rhywbeth fyddai'n tanseilio tegwch y gyfundrefn dedfrydu.

Os ydi Darren yn teimlo'n wirioneddol gryf am y mater, y peth gorau y gall ei wneud ydi lobio'r gweinidog cyfiawnder yn San Steffan i newid y Ddeddf Cyfathrebu - er pe byddai cynlluniau diweddar hwnnw i haneru'r ddedfryd os ydi troseddwr yn pledio yn euog wedi eu gwireddu, byddai David Jones a'i draed yn rhydd ymhell cyn 'Dolig. 

1 comment:

Dyfed said...

Nid DM ydi'r unig wleidydd i wneud sylw am y dedfrydu diweddar fu ar bobl yn cadw reiat a nid fo fydd yr ola mwn. Mae chwarae'r gêm wleidyddol mor hawdd mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Mae YH nid yn unig yn gorfod dilyn canllawiau (heblaw fod rhesymau dilys pam na ddylid) maent hefyd yn gorfod gwrando ar yr hyn sydd wedi ei ddweud yn y llys - ar ran ac yn erbyn y diffynnydd. A chaiff rhywun ei synnu weithiau pa ffeithiau ddaw allan mewn achos. Er fod y canllawiau yr un rhai ym mohob achos - nid yw pob achos yr fath a'i gilydd.

Nid mater bach ydi carcharu rhywun - beth bynnag bo'r haeddiant - ac mae'n gwbl angenrheidiol bod yn y llys i wrando'r holl ffeithiau cyn gwneud hynny - a chyn pasio barn ar y mater wedyn.