Monday, August 22, 2011

Cameron yn gofyn am gyfeiriadau gan ddyn dall

 'Dwi ddim yn un sydd a rhyw ddiddordeb mawr fel rheol mewn materion sy'n ymwneud a chyfraith a threfn, ond fedra i ddim gwrthsefyll y demtasiwn i gael un golwg bach arall ar syniad rhyfeddol David Cameron i fynd  i America o pob man i chwilio am atebion i'r problemau tor cyfraith sydd wedi ymddangos ar strydoedd dinasoedd mawr Lloegr yn ddiweddar.  Mae America yn ymylu ar fod yn unigryw i'r graddau eu bod efo record hir o gosbi'n llymach ac yn llymach tra'n methu mynd i'r afael  a thor cyfraith.  Cymerer y cyfraddau o'r boblogaeth sydd mewn carchar er enghraifft.


O pob 100,000 o bobl mae 738 mewn carchar yn Unol Daleithau'r America. Felly ar unrhyw amser mae 1% o oedolion y wlad mewn carchar - a bron i 2% o oedolion gwrywaidd.  Roedd cost yr holl gloi yn $75 biliwn yn 2008. Y cyfartaledd rhyng cenedlaethol ydi 166 o pob can mil.. Gwledydd eraill gyda chyfraddau uchel ydi'r Ffederasiwn Rwsiaidd (607) a Chiwba (487).  145 ydi'r gyfradd yng Nghymru a Lloegr uwch nag Iwerddon (78) ac India (31) ond is na Brasil (191) a'r Ariannin (148).  Gellir gweld y rhestr cyflawn yma a gellir cael dadansoddiad o gost effeithlonder y gyfundrefn garcharu yn America yma.




Mae America hefyd yn dienyddio mwy o garcharorion na bron i neb arall, China, Iran, Gogledd Korea a Yemen ydi'r unig wledydd sy'n lladd mwy o'u carcharorion.  

Byddai rhywun yn disgwyl y byddai'r parodrwydd yma i roi drwg weithredwyr yn y carchar (neu eu lladd) yn cael effaith arwyddocaol ar gyfraddau tor cyfraith y wlad - ond 'does yna ddim llawer o dystiolaeth o hynny.  Er enghraifft yn 1960 roedd yna 226,344 o Americanwyr mewn carchar, ac erbyn 2008 roedd y ffigwr yn 1,518,559. By cynnydd hefyd yn y cyfraddau tor cyfraith tros y cyfnod -  tua treblu wnaeth hwnnw.

Mae cymharu'r cyfraddau tor cyfraith hefyd yn ddigon dadlennol.  O edrych ar dor cyfraith difrifol iawn - llofruddiaeth er enghraifft,  Mecsico sy'n 'arwain' y Byd gyda 10.9 llofruddiaeth am pob 100,000 o bobl gydag America yn ail gyda chyfradd o 5.9 am pob 100,000 o bobl. Twrci ydi'r unig wlad arall sy'n dod yn agos at y cyfraddau hyn.  Mae'n debyg mai'r rheswm am y gyfradd uchel yn Mecsico ydi ei lleoliad daearyddol anffodus - mae'r wlad wedi ei lleoli rhwng marchnadoedd cyffuriau anferth yr UDA a chynhyrchwyr cyffuriau yn Ne America.  Mae America yn bumed yn y Byd o ran trais (rape), yn seithfed o ran lladrad (mae Cymru a Lloegr yn chweched), ac mae ymhell 'ar y blaen' o ran ymosodiadau corfforol difrifol (281.6 am pob 100,000 o bobl).

Rwan - ag ystyried hyn oll byddai dyn yn meddwl y byddai David Cameron eisiau edrych i gyfeiriad gwlad sydd a chyfraddau tor cyfraith isel - Japan, Nepal neu hyd yn oed India o bosibl. Neu os nad ydi o am fynd rhy bell beth am wledydd cymharol debyg i'r DU sydd a chyfraddau tor cyfraith isel - Sbaen neu Denmarc er enghraifft?  Ond na - mae'n edrych i gyfeiriad y wlad  lleiaf effeithiol a'r  lleiaf rhesymegol yn y Byd o ran ei hymateb i dor cyfraith.

Mae'n anodd gwybod os i chwerthin 'ta chrio weithiau.  

No comments: