Saturday, July 23, 2011

Gair o blaid y wasg

Wrth ystyried digwyddiadau’r dyddiau diwethaf yn Portcullis House mae’n hawdd anghofio bod nifer o’n sefydliadau ‘cenedlaethol’ wedi cael eu hunain o dan y lach tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – y banciau, San Steffan ac rwan y wasg – a’r heddlu a gwleidyddion unwaith eto erbyn meddwl. Cafodd y cyfryw sefydliadau oll eu hunain mewn trybeini ymhellach yn y gorffennol – ond dyma’r tro cyntaf iddynt  gael eu hunain mewn trybeini o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd..


Mae’r ffaith bod bancwyr, heddweision, newyddiadurwyr papur newydd a gwleidyddion proffesiynol ymysg y mwyaf tebygol i gymryd eu hunain o ddifri yn yn rhoi rhyw ogwydd ysgafn i’r holl sgandalau – mor ddifrifol ag ydynt mewn gwirionedd. Does yna ddim llawer o bethau mwy digri wedi dod o ddigwyddiadau’r dyddiau diwethaf nag ystumio hunan bwysig a hunan gyfiawn Keith Vaz – gweler ei hanes yn ystod y sgandal ddiwethaf yma

Yn ychwanegol at hynny, mae'n anodd iawn gen i gredu bod y ffaith bod papurau newydd yn hacio ffonau o syndod i lawer o'r sawl sy'n ysgwyd eu pennau, twt twtian a ffugio sioc ar y tonfeddi ar hyn o bryd.  Mae technoleg hacio yn hysbys ers blynyddoedd, ac mae straeon am bapurau newydd yn defnyddio'r dechnoleg honno hefyd mewn cylchrediad ers blynyddoedd.



Er mor wahanol y sgandalau ar un olwg, mae yna lawer sy’n gyffredin rhyngddynt – ac felly mae yna wersi cyffredinol i’w dysgu. Mae pob sgandal yn cyfuno sefydliadau uchel eu parch, diffyg rheolaeth a goruwchwyliaeth oddi mewn i'r sefydliadau hynny, canfyddiad nad ydi troseddwr yn debygol o gael ei ganfod na’i gosbi a chymhelliad ariannol cryf i dwyllo. Lle ceir y cyfuniad yna, mae’n ymddangos bod aelodau seneddol, heddweision, newyddiadurwyr, bancwyr a phob grwp arall o bosibl, mor debygol o dwyllo a charcharor sydd yn Walton oherwydd twyll sy'n cymryd rhan mewn gyrfa chwist gyda'i gyd garcharorion. Mae'n dilyn felly lle ceir y cyfuniad yma mae’n debygol bod pob sefydliad bron yn agored i lygredd.

Yr ail wers i’w chymryd ydi hon – mae’r papurau newydd wedi bod yn elfen flaenllaw ym mhob sgandal. Rhai o’r papurau newydd ydi prif wrthrychau’r sgandal gyfredol, ond mae’r wasg wedi bod yn allweddol yn natgeliad rhai o’r sgandalau eraill hefyd.
.
Tour de force mewn newyddiaduriaeth ymchwiliol gan y Telegraph ddaeth a sgandal treuliau aelodau seneddol i’r amlwg, newyddiadurwyr sydd wedi cadw llygad barcyd ar driciau’r bancwyr yn dilyn eu sgandalau nhw, a dycnwch a phenderfyniad newyddiadurwyr y Guardian ddaeth a News International i’w liniau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yn wir mae newyddiadurwyr News International wedi gwneud gwaith gwerthfawr i wneud y pwerus yn atebol  (yn ogystal a llawer o waith llai gwerthfawr wrth gwrs).

Mae'n amlwg bod y diffyg goruwchwyliaeth a geir ar hyn o bryd yn anghynaladwy, ac mae'n rhaid newid.  Ond mae'r un mor amlwg  bod yna  berygl gwirioneddol y gwnaiff camau rhy frwdfrydig i liniaru ar hawliau’r wasg fwy o ddrwg nag o les o ran sicrhau atebolrwydd sefydliadau. Mae’r ffaith bod y cyfryngau print yn aml yn wleidyddol ac unochrog iawn, gyda’u agendau a’u obsesiynau eu hunain yn eu gwneud yn fwy gwerthfawr o lawer na chyfryngau honedig di duedd y tonfeddi radio a theledu yn y cyswlltyma.

Os byth y byddwn yn cael ein hunain yn ddibynol ar y Bib am y ffurf ar newyddiaduraeth dewr ac ymchwiliol sy’n dal sefydliadau ac unigolion pwerus yn atebol, yna bydd y cyfryw sefydliadau ac unigolion yn hynod hapus...

No comments: