Tuesday, July 05, 2011

Cynghorydd Llais Gwynedd yn ymddiswyddo - eto fyth

Deallaf bod y Cynghorydd Llais Gwynedd tros Diffwys a Maenofferen, Richard Owen Lloyd Jones, newydd ymddiswyddo.  Dyma'r trydydd cynghorydd Llais Gwynedd i wneud hynny ers etholiadau'r cyngor yn 2007 - mae hyn yn tua pumed o'u cynrychiolaeth tros y cyfnod.  Trwy gyd ddigwyddiad mae'r holl ymddiswyddiadau wedi digwydd yn ardal Blaenau Ffestiniog.

Mae'n rhesymol casglu bod moral yn hynod isel ymysg aelodau'r grwp yn dilyn eu perfformiad trychinebus yn yr unig etholaeth iddynt sefyll ynddi yn etholiadau'r Cynulliad eleni, Meirion Dwyfor - daethant yn drydydd y tu ol i'r Tori.  Adlewyrchiad o'r chwalfa ydi'r ffaith iddynt fethu hyd yn oed ddod o hyd i ymgeisydd yn is etholiad diweddar Arllechwedd, a 'does ganddyn nhw ddim ymgeisydd ar gyfer is etholiad Glyder chwaith. 

Ar nodyn arall mae'n ffaith rhyfeddol y bydd, maes o law, bedair is etholiad wedi eu cynnal yn nwy o wardiau Blaenau Ffestiniog ers etholiadau 2007.  Roedd un yn dilyn marwolaeth Ernest Williams yn ystod ymgyrch 2007, a'r lleill yn dilyn ymddiswyddiadau cynghorwyr Llais Gwynedd. 

4 comments:

Un o Eryri said...

Hen bryd i'r gweddill ymddiswyddo hefyd. Gobeithio bydd etholwyr Blaenau yn ddoethach yn ei dewis y tro nesaf, a dewis Cynghorydd gyda agenda positif dros Blaenau a Gwynedd, yn hytrach na'r agwedd bersonol a negyddol gan aelodau LL. G.

Un o Blaena said...

Ia, mae eu hantics yn go despret ac yn ymylu ar y chwerthinllyd. Ond wnaiff hoiti-toitis Plaid 'Cymru' heb a hefru mor hunangyfiawn - rydach chi'n dod drosodd yn rel nawddoglud ac uchel-ael. Synnu dim chwaith, sganddoch chi ddim gwaelod mwy na su gan Llais.
A watsiwch eich tôn wrth siarad lawr i 'etholwyr Blaena' i 'fod yn ddoethach tro nesa', a ballu. Ma Plaid wedi anghofio Blaenau, cofiwch hynny.
Chydig o barch at yr etholwyr syd disio - mi wnaethont eu penderfyniad ar sail deallus a chydwybodol. Rhaid i Plaid gydnabod mai nhw ydi'r bai fod sothach fel Llais Gwynedd yn bodoli.

Anonymous said...

Dim byd gan Cyng.Aeron Jones i ddweud am hyn? Mae o mor barod i son am Gyngor Gwynedd ac isetholiadau fel arfer. Ar ôl colli News of the World, roeddwn i'n dibynnu arno fo i ledaenu newyddion diduedd call :)

Cai Larsen said...

Hwyrach bod ganddo fo bethau eraill ar ei feddwl ar hyn o bryd.