Friday, July 01, 2011

Streic anfoesol?

Mae rhywbeth digri o ddi niwed am haeriad Guto Bebb bod streiciau diweddar rhai o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr cyhoeddus yn ymylu ar fod yn anfoesol.

'Dydw i ddim yn ddiwynydd na'n foesegwr, ond mi fyddai dyn yn meddwl y gallai gweithred fod yn un foesol, anfoesol neu'n un nad oes iddi oblygiadau moesol y naill ffordd na'r llall.  Mae cymysgu'r uchod trwy awgrymu bod gweithred yn foesol ond yn ymylu ar fod yn anfoesol, neu'n un nad oes iddi oblygiadau moesol ond sydd bron yn foesol yn ffordd benigamp o greu niwl a myrllwch.  Ac mae yna rhywbeth annwyl o Gymreig am fynd ati i greu niwl a myrllwch, ac mae yna rhywbeth llai annwyl ond digon Cymreig am foesoli a gwleidydda ar yr un pryd.

Ta waeth, mae'r syniad bod streicio yn ddrwg  neu'n ymylu ar fod yn ddrwg ynddo'i hun yn gysyniad diddorol, a chwbl wallus. Dyma pam.

Thesis Guto ydi bod aelodau undebau cyhoeddus yn gymharol freintiedig o gymharu a gweithwyr y sector breifat, ac felly bod amheuaeth moesol ynglyn a'r streic.  'Dwi am adael o'r neilltu'r ffaith bod y canfyddiad bod gweithwyr y sector gyhoeddus yn gyfoethog, tra bod gweithwyr y sector breifat yn dlawd, yn or symleiddiad dybryd (a bod yn garedig).  Ond mae'r gred bod gweithred gan unigolyn neu grwp o unigolion i amddiffyn eu buddiannau eu hunain mewn rhyw ffordd yn foesol amheus yn broblematig - yn arbennig felly i rhywun sydd ar y Dde yn wleidyddol.   Mae'r canfyddiad bod unigolion yn naturiol yn gweithredu er eu lles eu hunain, a bod peidio ag ymyrryd gormod ar hynny yn y pen draw er lles pawb yn greiddiol i ddealltwriaeth y Dde o'r ffordd mae economiau yn tyfu ac yn ffynnu.

Mae felly'n afresymegol i ddadlau bod amheuaeth moesol ynglyn a phobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus yn gweithredu'n dorfol i amddiffyn eu buddiannau eu hunain, tra'n cymryd bod pobl sy'n gweithredu felly yn y sector breifat yn gwneud rhywbeth da.  Yr un reddf yn union sy'n gyrru gweithredoedd undebau llafur, enterprenariaid unigol a chwmniau preifat - y reddf i gynnal a gwella safon byw, ac amddiffyn y dulliau lle gellir gwneud hynny.  Y gwahaniaeth ydi'r amgylchiadau lle gweithredir ar y reddf honno - dim arall. 

Yn groes i'r hyn mae Guto yn ei awgrymu 'does yna ddim yn ei hanfod yn wahanol rhwng yr hyn mae undebau sector gyhoeddus yn ei wneud heddiw a'r hyn a wnaed gan undebau gweithwyr chwarel yn y gorffennol.  Nid streicio er mwyn amddiffyn buddiannau pobl dlawd yn gyffredinol oedd chwarelwyr y Penrhyn, ond ymateb i fygythiad gan y cyflogwyr i'w buddiannau eu hunain.  Dyna sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o streiciau o ddigon.  Mae'n bosibl dadlau bod y bygythiad i fuddiannau chwarelwyr yn 1900 yn fwy niweidiol na'r un i fuddiannau gweithwyr cyhoeddus heddiw, ond mater o raddau a chanfyddiad o raddau ydi hynny yn y pen draw.

Mae'n bosibl beirniadu'r sector gyhoeddus trwy honni ei bod yn aneffeithiol er enghraifft, fel mae'n bosibl beirniadu'r sector breifat am greu anhegwch.  Ond mae beirniadu pobl sy'n gweithio mewn un sector ar sail moesol am amddiffyn eu buddiannau eu hunain yn _ _ _ wel - wirion.

6 comments:

Un o Eryri said...

Yr hyn sydd yn anfoesol yw polisiau Guto Bebb a'r Blaid Geidwadol. Faint o fobl sydd wedi gweithio yn galed ar yd eu bywydau, ac sydd sydd nawr yn gweld eu bywydau yn cael ei ddinistro gan y poisiau yma. Sawl teulu fydd yn cael ei chwalu o ganlyniad i'r polisiau Ceidwadol o doriadau sydd yn arwain i ddiffyg gwasanaethau a diffyg swyddi. Ni ddylsai Guto edrych ddim pellach na'r drych yn ei ystafell folchi i weld diffiniad clir iawn o anfoesoldeb

Anonymous said...

Fel gweithiwr cyhoeddus gallaf (just abowt) weld pam bod yn rhaid derbyn rhewi cyflogau am 'chydig. Gellir dadlau hefyd bod amodau byw wedi gwella bywyd pensiynwyr ac y bod felly angen, pro rata, i bawb weithio 'chydig hwy cyn ymddeol.

Be sy'n anfoesol ydi bod cynllun pensiwn y mae rhywun wedi ei dalu iddo dros flynyddoedd, oedd yn addo rhywbeth ar y diwedd, bellach ddim am wneud hynny. Symud y postiau gol dri chwarter ffordd drwy'r gem sy'n anfoesol.

Guto Bebb said...

Yr hyn sy'n anfoesol yw spin arferol Cai. Mae streic dros hawl i ddisgwyl bod trethdalwr sy'n debygol o ymddeol yn 68 i fod i dalu er mwyn i weithwyr sector gyhoeddus ymddeol yn 60 yn weithred anfoesol. Ffaith.

O ran y ddau gyfranwr dewr ond di-enw - lol. LLe mae'r arian Mr Un o Eryri? O ran Mr di-enw, ffeithiol anghywir (typical). does dim newid i'r hyn y mae dy gytundeb hyd yma wedi ei hawlio ond fe fydd newid i'r dyfodol. Wrth gwrs, fe fydd y trefniadau'n parhau yn well na dim oll sydd ar gael i staff nad ydynt o fewn y sector gyhoeddus.

Mae datblygiad yr undebau llafur i fod yn fudiad dros hawliau y dosbarth canol yn fater rhyfeddol a gwirion di gwadu anfoesoldeb dy safbwynt Cai. ond wrth gwrs, fel prifathro ti'n elwa'n go dda o'r drefn fel y mae'n bodoli yn dwyt?

Cai Larsen said...

Twt, twt Guto - mynd yn bersonol fel arfer. Fel mae'n digwydd bydd effaith cynlluniau dy fets ar rhywun fy oed i yn llawer, llawer llai na'r effaith ar bobl ychydig flynyddoedd yn ieuengach - nid bod hynny fawr ddim i'w wneud efo pwynt blogiad sy'n dadlau bod unigolion a grwpiau yn y farchnad lafur yn tueddu i weithredu er mwyn eu buddiannau eu hunain.

'Dwi'n sylwi dy fod eto yn cymysgu rhwng dy farn dy hun, dy foesoldeb personol a ffaith. 'Dwyt ti fawr gwell yn hynny o beth na'r bobl hynny sy'n meddwl bod cyflogau pawb ond amdanyn nhw eu hunain yn anfoesol o uchel - pobl sy'n defnyddio'r term anfoesol mewn gwirionedd oherwydd nad ydynt yn deall sut mae'r farchnad lafur yn gweithio.

Un o Eryri said...

Trwy dy ymateb sarhaus at berson di-enw Guto, mae dy gymeriad yn dod drwodd yn glir iawn. Mae rhai rhesymau pendant iawn dros fod yn ddi-enw, ond nid yw hynny yn dweud nad oes gennym farn.

Ti'n gofyn o lle mae'r arian i fod i ddod? Os buasai Llywodraeth yn codi digon o dreth incwm buasai digon o arian ar gael. Ar ben hynny efallai y buasai'r wlad yn arbed llawer iawn o arian os buasai dy Brydain Fawr gogoneddus di yn sylweddoli nad ei lle hi yw ymyrryd ymhobman. Faint o arian sydd wedi ei wario ar fomio Libya hyd yn hyn?

Paid a trio rhoi gwers i neb ar foesoldeb Guto. 'Rwyt yn fethiant llwyr ar y pwnc

Anonymous said...

Tybed ydi Guto yn credu fod cyflogau mawr y ddinas a'r taliadau bonws yn anfoesol heb son am y rhyddhad treth mae rhai o'r bobl yma yn ei dderbyn sy'n eu galluogi i ymddeol yn ei 40au.

Dwi yn meddwl fod rhywun wedi nodi wythnos diwethaf fod athro yn debygol o gael pensiwn o £10,000 y flwyddyn ar ol gweithio 25 mlynedd tra bod aelod seneddol yn debygol o gael £23,000 ar ol gweithio 13 mlynedd. Gobeithio y bydd Guto yr un mor frwdfrydig dros ddiwygio ei gyfraniadau pensiwn ei hunan dyna fyddai'r peth moesol i'w wneud