Sunday, March 28, 2010

Chwaneg o sterics o Dre'r Sosban

Rydym wedi nodi eisoes bod yna rhywbeth digon hysteraidd am ohebiaeth gwleidyddol Aelod Seneddol Llanelli yn ddiweddar. 'Dydi cyhuddo plaid wleidyddol o frad cenedlaethol ar sail celwydd mae rhywun wedi ei wneud i fyny ei hun (Plaid Cymru MPs openly admit that they would work with the Tories. I see that as a betrayal of the people of Wales) ddim yn arwydd o rhywun sydd mewn rheolaeth llwyr o'i theimladau.

Mae'r ohebiaeth isod yn awgrymu bod yr hysteria wedi cyrraedd y fath binacl nes bod Nia'n cyfogi. Yr hyn sy'n gwneud i Nia deimlo'n gyfoglyd ydi bod 'Plaid Cymru'n codi bwganod ac yn codi ofn ymhlith y mwyaf bregus yn ein cymdeithas'. Yr hyn sydd ganddi mewn golwg ydi bod y Blaid yn lleol ac yn genedlaethol wedi mynegi pryder ynglyn a dyfodol Lwfans Byw i'r Anabl - neu'r DLA a lwfans arall y Lwfans Gofal (Attendance Allowance). Mae lwfansau o'r fath yn hanfodol i lawer o bobl yn rhai o'n hardaloedd tlotaf - llefydd fel Llanelli (lle mae 4,000 yn derbyn y naill lwfans ac 8,000 yn derbyn y llall).

Dyma'r ffeithiau - heb y sterics. Er bod iechyd wedi ei ddatganoli i Gaerdydd, mater sydd o dan reolaeth San Steffan ydi'r gyfundrefn lwfansau a budd daliadau. Mae Papur Gwyrdd a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan lywodraeth Llundain yn argymell newid y drefn a thalu'r budd daliadau hyn i gynghorau lleol yn y lle cyntaf yn hytrach nag yn uniongyrchol i'r anabl a'u gofalwyr. Ymhlyg yn y penderfyniad hwn wrth gwrs mae'r gred sy'n nodweddu Llafur - hen a newydd - bod man fiwrocratiaid a chynghorwyr yn gwybod yn well na phobl gyffredin sut y dylent wario eu hadnoddau prin.

'Rwan efallai nad ydi Nia yn ystyried hyn yn broblem. Os felly efallai na fyddai ganddi wrthwynebiad petai ei chyflog swmpus hi a'i holl lwfansau yn ei chyrraedd yn anuniongyrchol - ar ol i Meriel Gravelle a Mark James gael eu bachau ar y job lot yn gyntaf.



1 comment:

Anonymous said...

(Plaid Cymru MPs openly admit that they would work with the Tories. I see that as a betrayal of the people of Wales)

Adlais o eiriau tebyg gan Aneurin Bevan

Bellach, yn ol Llafur mae coleddu barn gwleidyddol yn gyfystyr a brad.

Rhywbeth tebyg i gyfeiriad at "the enemy within". Rhyw ast arall dywedodd hynny ontife?