Tuesday, March 02, 2010

Hwyl fawr Dr Paisley

Ymddengys na fydd yn sefyll eto - rhywbeth sy'n fater o ryddhad ar un wedd (bu'n ddylanwad negyddol ar wleidyddiaeth y Gogledd), ond bydd yn gwneud y byd gwleidyddol cymaint a hynny'n llai lliwgar.

Yr hyn nad ydwyf wedi ei glywed heddiw ydi son am y gwahaniaeth enfawr yn nhirwedd gwleidyddol Gogledd Iwerddon heddiw o gymharu a'r un oedd yn bodoli pan etholwyd Paisley yn gyntaf.



Mi gafodd y dyn ei ethol i San Steffan yn gyntaf ym 1970 mewn cyfnod pan roedd gan y traddodiad unoliaethol reolaeth llwyr ar pob agwedd o fywyd yng Ngogledd Iwerddon. Roeddynt yn rheoli y senedd leol (Stormont), pob cyngor ag eithrio dau neu dri a phob sedd seneddol ag eithrio West Belfast a Mid Ulster. Doedd dim grym o gwbl yn cael ei rannu mewn cyngor na Chynulliad a reolwyd gan yr unoliaethwyr. Yn etholiad 1970 pleidleisiodd 470,000 i'r pleidiau unoliaethol - tua 60% o'r cyfanswm. Roedd hyn yn tan gyfrifo'r oruwchafiaeth unoliaethol mewn gwirionedd gan bod y Northern Ireland Labour Party yn dennu pleidleisiau llawer o Brotestaniaid. Roedd etholiadau 1974 (roedd y rhyfel wedi sgubo'r pleidiau oedd yn apelio at y ddwy gymuned o'r neilltu) yn dangos y goruwchafiaeth etholiadol unoliaethol yn well - 63.5% o'r bleidlais.

Erbyn hyn 10 o'r deunaw sedd seneddol sydd yn eu meddiant, 14 o'r 26 cyngor a'u pleidlais wedi syrthio i llai na 50% yn y ddwy etholiad diwethaf (Ewrop a Chynulliad) iddynt eu hymladd. Maent hefyd yn gorfod rhannu grym gyda phobl o'r traddodiad cenedlaetholgar yn Stormont. Mae gyrfa wleidyddol Paisley wedi cyd redeg a newidiadau sylweddol a sylfaenol yn natur cymdeithas a gwleidyddiaeth Gogledd Iwerddon - mwy o newidiadau na sydd wedi digwydd mewn cyfnod cyffelyb ers canrifoedd yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r newidiadau hyn yn anathema i Paisley.

Mae'n dra phosibl y bydd yna fwy o bleidleiswyr cenedlaetholgar yn y Gogledd nag o rai unoliaethol o fewn deg i bymtheg mlynedd. Tybed os caiff Paisley fyw i weld hynny?

2 comments:

Anonymous said...

can you translate it into Indonesian please??

Anonymous said...

can you translate it into Indonesian please??