Monday, March 01, 2010

Dau gwestiwn bach i'r Bib

Tra ei bod yn ddiddorol ac yn galonogol nodi bod y ganran o'r etholwyr sydd eisiau pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad yn cynyddu, mae gen i gwestiwn bach i'r Bib - pam - a chithau'n cynnal arolwg beth bynnag wnaethoch chi ddim holi beth ydi bwriad pleidleisio pobl yn yr Etholiad Cyffredinol? Go brin y byddai wedi ychwanegu fawr ddim at gost yr ymarferiad, ac mae ambell un efo diddordeb yn y tirwedd etholiadol yng Nghymru a ninnau mor agos at Etholiad Cyffredinol.

Yr ail gwestiwn ydi hwn - pam goblyn gwneud eich Vox pop ar y Post Cyntaf ynglyn a'r mater yng Nghreigiau o pob man? 'Dwi ddim yn amau bod un neu ddau o'r sawl sy'n gweithio i'r Bib o dan yr argraff bod y ward yma, sydd ymysg y cyfoethocaf yng Nghymru, yn nodweddiadol o weddill y wlad, ond does yna fawr o neb arall yn llafurio o dan yr un camargraff.

7 comments:

Vaughan said...

Dyw'r BBC ddim wedi comisiynu arolygon o fwriadau pleidleisio ers dros ddegawd. Polisi nid cost yw'r rheswm. Y broblem, os cofiaf yn iawn, oedd bod arolygon y BBC rhywsut yn cael eu hystyried yn fwy "awdurdodol" na rhai eraill a bod pethau fel "BBC predicts victory for..."yn ymddangos ym mhropaganda'r pleidiau.

Anonymous said...

".....beth ydi bwriad pleidleisio pobl yn yr Etholiad Cyffredinol?" Tebyg iawn byddai canlyniad cwestiwn felly yn debyg iawn i'r rhai Ewropeaidd....a gan fod y Bib yn llawn 'lefties' byddai hynny ddim yn derbyn llawer o groeso ganddynt.

Cai Larsen said...

Anhysbys - Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fyddai canlyniad y pol yn ymdebygu mewn unrhyw ffordd i ganlyniad etholiadau Ewrop.

Vaughan - Mae'r syniad bod pol sydd wedi ei gomisynu gan y Bib yn fwy awdurdodol nag un a gomisiynwyd gan rhywun arall yn amlwg yn ffug - y cwmni sy'n gwneud y polio ydi'r ffactor pwysig. Er hynny dwi'n derbyn bod canfyddiad a realiti yn faterion gwahanol.

Ond, wedi dweud hynny, onid yw'r un ddadl yn dal am y refferendwm? Dwi'n siwr y bydd yr ochr Ia yn gwneud defnydd o'r arolwg hwn.

Anonymous said...

menaiblog said...

"Anhysbys - Mae yna rhywbeth yn dweud wrthyf na fyddai canlyniad y pol yn ymdebygu mewn unrhyw ffordd i ganlyniad etholiadau Ewrop."

Pam?

Cai Larsen said...

Polio diweddar gyfaill.

Anonymous said...

Menaiblog,

Ydy pobl Cymru yn meddwl fod Brown wedi gwneud job dda gyda'r economi? Dwi'n methu deall pam dylent fod a gymaint o ffydd ynddo......

Cai Larsen said...

Ydyn yn ol arolwg heddiw