Saturday, March 27, 2010

Mwy o ganlyniadau gwael i'r Toriaid

Mae'r etholiad sydd yn gyflym agosau yn un digon rhyfedd. 'Dwi'n ddigon hen i gofio ddwy etholiad cyffredinol diwethaf pan cafodd grym ei drosglwyddo rhwng y pleidiau unoliaethol mawr - y naill yn 79 pan gafodd Llafur Callahagn ei guro gan Doriaid Thatcher, ac yn 97 pan sgubwyd Blair i 10 Downing Street.

Ar y ddau achlysur yna roedd yna ymdeimlad amlwg o lif cryf y tu ol i'r blaid a enilliodd. Roeddwn yn meddwl am hynny y bore 'ma wrth edrych ar ganlyniadau is etholiadau lleol nos Iau. Dyma'r canlyniadau (wedi eu copio a'u pastio o'r wefan yma):

Mid Suffolk DC, Haughley and Wetherden

Green 444 (61.0;+45.4), Con 176 (24.2;-20.9), Lib Dem 51 (7.0;-32.4), Lab 32 (4.4;+4.4), UKIP 25 (3.4;+3.4)
Majority 268. Turnout 41.57%. Green gain from Con. Percentage change is since May 2007.

Bracknell TC, Old Bracknell Town

Lab 380 (41.9), Con 370 (40.8), Lib Dem 107 (11.8), Green 49 (5.4)
Majority 10. Turnout 22.4%. Lab gain from Con.

Colwyn Bay TC, Glyn

Lab 150 (31.8), Plaid 121 (25.6), Lib Dem 78 (16.5), Ind 62 (13.1), BNP 35 (7.4), Ind 26 (5.5)
Majority 29. Turnout 15.5%. Lab gain from Ind.

Nailsworth TC

Ind 661 (40.6), Lib Dem 531 (32.6), Ind 436 (26.8)
Majorities 225 / 95. Turnout 21.2%.


Dau ganlyniad siomedig i'r Toriaid a dwy ornest lle nad oedd ganddynt hyd yn oed ymgeisydd. Mae hyn yn rhan o batrwm ehangach - maent yn cael canlyniadau siomedig (rhai yn llawer, llawer mwy siomedig na'r rhain) yn rheolaidd ar nosweithiau Iau.

Mae'r rheswm yn eithaf syml - fel ambell i dim pel droed maent wedi brigo (os mai dyna'r term Cymraeg am peaked) yn rhy gynnar, ac maent eisoes ar y ffordd i lawr yr allt cyn cael eu hethol. Felly os byddant mewn llywodraeth fis nesaf, byddant eisoes wedi hen fynd heibio uchafbwynt eu poblogrwydd, a byddant yn wynebu penderfyniadau anodd a mis mel hynod o fyr efo'r etholwyr.

Mi fydd hyn yn newyddion drwg i'r sawl fydd yn sefyll trostynt yn etholiadau'r Cynulliad (a Senedd yr Alban) y flwyddyn nesaf. Gallai'r etholiadau hynny brofi i fod yn rhai hynod o anymunol iddynt.

2 comments:

Anonymous said...

Gawn ni weld washi..tydi canlyniadau dy griw di ddim yn edrych mor galanogol..cadw'n ddistaw 'swn i'n ei wneud rwan 'swn i'n chdi ac yna tud nol ar ol yr Etholiad i ni gael cymharu canlyniadau ;-))..Phil Edwards i orffen yn 3ydd yn Aberconwy, Albert i gadw Ynys Mon,Lib Dems i gadw Ceredigion a dy ffrind Nia i gadw Llanelli sydd yn eich gadael chi mwy neu lai lle 'da chi'n barod...whoops!
Amser a ddengys be ddigwyddith yn Etholiadau'r Cynulliad...dim ond prifthro dwl efo pythefnos o wyliau o'i flaen fyddai'n darogan canlyniad etholiad dros flwyddyn cyn i'r etholiad hynny gael ei gynnal.

Cai Larsen said...

Diolch am y sylwadau treiddgar.

Diddorol dy fod yn mynegi cefnogaeth i pob un o'r tair blaid unoliaethol. Mae yna rhywbeth yn gyfarwydd yma yng Ngwynedd am y math yna o wleidyddiaeth.