Sunday, January 10, 2010

Gwilym a'r Ombwdsman - cyngor gan Flogmenai

Chwi wyddoch fy mod wedi addo i Alwyn i geisio bod yn fwy cydymdeimladol efo gwleidyddion sy'n perthyn i'r pleidiau unoliaethol eleni, ac yn yr ysbryd hwnnw 'dwi am roi gair neu ddau o gyngor technegol i fy nghyd flogiwr ac aelod o un o bleidiau rhanbarthol y wlad, Gwilym Euros Roberts. Prosesau cwyno llywodraeth leol ydi'r pwnc dan sylw.

Yn ol blog Gwilym cafodd ei riportio i'r Ombwdsman llywodraeth leol gan arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards oherwydd bod Dyfed o'r farn iddo (hy Gwilym) ddweud celwydd amdano ar ei flog. Mi fyddwch yn gwybod mai priod waith yr Ombwdsman ydi ymchwilio i gwynion yn erbyn cynghorwyr gan gyd gynghorwyr, gan aelodau o'r cyhoedd neu gan syddogion. Mi fyddwch hefyd yn gwybod os ydych yn ddilynwyr cyson o flog Gwilym neu fy un i bod yr Ombwdsman eisoes yn ystyried cwyn yn ei erbyn gan un o swyddogion Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog.

'Dwi wedi mynegi barn am y mater mae Gwilym yn cael ei gyhuddo mewn perthynas a fo ar y blog yma eisoes, ond yn amlwg byddai'n amhriodol i mi wneud hynny eto 'rwan gan bod yr Ombwdsman wedi dechrau ystyried os yw am ymchwilio'n ffurfiol i'r sefyllfa. Nid mater i mi ydi ceisio gwneud gwaith yr Ombwdsman ar ei ran.

'Rwan mae Gwilym ei hun yn tynnu sylw at y ffaith ei fod o flaen yr Ombwdsman unwaith eto ar ei flog, ond mae'n gwneud hynny mewn modd sy'n awgrymu'n gryf nad yw'n llawn ddeall y broses o gwyno'n fewnol yng Nghyngor Gwynedd na'r drefn allanol o gwyno i'r Ombwdsman chwaith. 'Dwi am gynnig ychydig o gyngor iddo yn y gobaith ei fod yn ymddwyn yn unol a'r cyngor hwnnw er mwyn osgoi cael ei hun mewn dwr poeth pellach.

Un o'r pwyntiau mae Gwilym yn ei godi ydi y dylid bod wedi delio efo'r gwyn yn fewnol yn y Cyngor. Yn anffodus 'does yna ddim mecanwaith ar hyn o bryd i gynghorydd wneud cwyn ynglyn a chynghorydd arall i'r Pwyllgor Safonau - mae hyn yn wendid yn y system, ond mae hefyd yn ffaith. Os oes yna gynghorydd efo cwyn am un arall, yr Ombwdsman ydi'r unig le y gellir mynd a'r gwyn. Ymddengys nad ydi Gwilym yn deall trefn gwyno'r cyngor mae'n aelod o'i bwrdd.

Mater cymharol fach ydi hynny yn y bon - mae ymateb Gwilym i broses ffurfiol cwyno allanol yn bwysicach. Fel efo unrhyw broses ffurfiol mae gan bawb eu rol - yr Ombwdsman, y sawl sy'n gwneud cwyn, y sawl mae cwyn wedi ei wneud yn ei erbyn ac unrhyw un arall sydd a gwybodaeth berthnasol ynglyn a'r mater. Rol yr Ombwdsman ydi dod i gasgliadau ynglyn a dilysrwydd y gwyn a pha gamau i'w cymryd os ydi'r gwyn honno yn un ddilys - nid rol y cwynwr na'r sawl y gwneir cwyn yn ei erbyn ydi honno.

Yn ei flogiad mae Gwilym yn ceisio gwneud gwaith yr Ombwdsman ar ei ran (sef ei gael o ei hun yn ddi euog o ymddygiad amhriodol). Ymhellach mae'n llafurio o dan yr argraff ei bod yn syniad da i ail adrodd yr honiad sydd wedi ei chyfeirio at yr Ombwdsman - mae'n gwneud hynny yn gwbl ddi amwys ar ei flog.

Rwan mae'n gwbl briodol i Gwilym nodi ei fod wedi ei gyfeirio at yr Ombwdsman, mae hefyd yn gwbl briodol iddo amddiffyn ei hun - wrth yr Ombwdsman. 'Dydi hi ddim yn briodol iddo hawlio rol yr Ombwdsman yn y broses, a gwneud hynny'n gyhoeddus. 'Dydi hi ddim yn briodol chwaith iddo ail adrodd ei honiad hyd ei fod yn gwybod nad oedd yn amhriodol yng ngolwg yr Ombwdsman.

Gellid yn hawdd gymryd blogiad Gwilym fel ymysodiad ar y broses ei hun yn ogystal ag ar statws yr Ombwdsman. Mae yna rym statud y tu cefn i swydd yr Ombwdsman (Deddf Llywodraeth Leol 1974), ac i'r broses gwyno yn ei chyfanrwydd. Mae'n syndod o'r eithaf bod rhywun sy'n gobeithio adeiladu gyrfa wleidyddol iddo'i hun yn mentro cael ei weld yn amharchu, ac yn wir yn dawnsio ar brosesau ffurfiol ac ar gomiwsynydd llywodraethol.

12 comments:

GWILYM EUROS ROBERTS said...

Cai - Diolch yn fawr i ti am y Cyngor.
Chydig o bwyntiau...dwi ddim yn cyfeirio yn uniongyrchol at yr Ombwdsmon yn fy mlogiad diweddaraf h.y. fdwi ddim yn ceisio dweud wrthynt be i wneud.
Byddaf yn naturiol yn cydymffurfio'n llwyr gyda'r Ombwdsmon yn eu hymchwyliad er fy mod yn dal i lynu wrth fy sylwadau gwreiddiol a wnes i ei ail-adrodd eto ddoe gan fod y ffeithiau yn siarad dros eu hunain.

Cai Larsen said...

A wel - 'dwi wedi trio.

Alwyn ap Huw said...

Unwaith eto, mae ymateb y Blaid i sylwadau gan aelod o Lais Gwynedd yn dangos diffyg crebwyll gwleidyddol arswydus!

Hyd yn oed petai'r ombwdsman yn canfod o blaid Dyfed ac yn erbyn Gwilym, yr ymateb ar lawr gwlad bydd bod Gwilym yn cael ei gosbi gan yr awdurdodau oherwydd iddo ddweud be di be; bod y sefydliad yn ein herbyn ni a bod Gwîl yn fodlon sefyll fynnu i'r sefydliad er gwaetha'r gost.

Bod gan Llais Gwynedd Merthyron dewr, tra fo'r Blaid, fel Nero gynt, yn erlyn y rhai sydd yn sefyll dros gyfiawnder ac yn creu merthyron ohonynt.

Os yw sylwadau Gwilym, parthed ysgolion meithrin yn gyfeiliornus, yr hyn sydd ei angen yw ymgyrch gwleidyddol gryf gan Plaid Cymru yng Ngwynedd i gyfiawnhau, cadarnhau a chael cefnogaeth y bobl tu cefn i'r polisi, a dangos bod gwrthwynebiad LlG yn ffaeledig.

Mae gweiddi na, na, na, na, na dwi mynd i ddweud wrth Dadi (neu'r ombwdsman), nid yn unig yn ymddangos yn blentynnaidd, ond mae’n ymddangos fel agwedd plentyn sy'n gwybod ei fod wedi colli'r ffrae!

Cai Larsen said...

Y broblem ydi hyn 'dwi'n meddwl Alwyn - mae yna gyfres o honiadau wedi eu gwneud gan gwahanol gynghorwyr am DE - i'r graddau y byddai'n hawdd credu (yn gam neu'n gymwys) bod ymgyrch bardduo yn cael ei chynnal yn ei erbyn.

Does yna ddim mecanwaith mewnol ar hyn o bryd i ddelio efo'r sefyllfa'n uniongyrchol, felly gellir caniatau i bethau fynd rhagddynt, neu gymryd yr unig gwrs posibl o ymateb i'r sefyllfa.

Cai Larsen said...
This comment has been removed by the author.
GWILYM EUROS ROBERTS said...

Dim problem o gwbwl, dwi'n parchu'r ffaith gan mai dy flog di ydi hwn.Er mae'n anodd genyf gredu mod i wedi 'sgrifennu unrhywbeth nad oes gennyf dystiolaeth gadarn i'w gefogi ond diolch i ti fodd bynnag.

Cai Larsen said...

Gwilym - ti wedi gadael neges yma a 'dwi wedi ei gwrthod.

Anaml iawn y byddaf yn gwneud hynny, ond roedd yna gymal a allai fod yn enllibus (nid yn fy erbyn i wrth gwrs) a fi sydd yn y pen draw yn gyfrifol am yr hyn sy'n ymddangos ar y blog.

'Dwi ddim yn dweud i sicrwydd ei fod yn enllibus, ond 'dwi wedi siarad efo rhywun sy'n deall y pethau 'ma ac mae'n awgrymu nad ydw i'n cyhoeddi'r cymal.

Mi feddyliais am olygu'r neges a symud y cymal, ond fyddai hynny ddim yn deg efo chdi, byddai'n newid ystyr yr hyn roeddet yn ei ddweud - felly mae'r neges wedi ei dileu mae gen i ofn.

Sori, gobeithio na fydd rhaid i mi wneud hyn eto..

Cai Larsen said...

Diolch.

Mi wnawn ni adael y mater yn y fan yna felly.

Cwm Rhondda said...

Fi'n cytuno da Alwyn, mae agwedd Dyfrig Edwards braidd yn blentynaidd a dweud y lleiaf, os mai be sy ar flog Gwilym yw datganiad Plaid, tydi arian MYM ddim yn ddiogel, sa Dyfrig Edwards yn rhoi dadl mlaen mai ef sy'n gywir sa fe i weld wedyn yn ddipyn mwy o foi na be syn cael eu gyfleu drwy gwyno cwyno a chwyno.

Anonymous said...

efallai y dylai Cai Laresen ganolbwyntio ar fod yn brifathro a gadael busnes cyngor gwynedd i'r cynghorwyr? Os ydy Dyfed ewdi dweud celwydd, rhag ei gywilydd. Dal ati Gwilym Euros [ fel y gwyr pawb, mae cyngor gwynedd yn drewi - a neith Febreeze yn unig ddim cael gwared ohono.

Anonymous said...

efallai y dylai Cai Laresen ganolbwyntio ar fod yn brifathro a gadael busnes cyngor gwynedd i'r cynghorwyr? Os ydy Dyfed ewdi dweud celwydd, rhag ei gywilydd. Dal ati Gwilym Euros [ fel y gwyr pawb, mae cyngor gwynedd yn drewi - a neith Febreeze yn unig ddim cael gwared ohono.

Cai Larsen said...

Os ydw i eisiau cyngor ynglyn a beth i wneud efo fy amser hamdden fy nghyfaill di enw, mi ofynaf amdano.

Mae'n ddiddorol dy fod o'r farn nad oes gan aelodau'r cyhoedd ddim busnes i fod a barn ynglyn a materion y cyngor - mae bron fel petaet yn gynghorydd dy hun.