Saturday, September 13, 2014

Caeredin a Glasgow p'nawn ma

Peidiwch a disgwyl gweld y delweddau yma ar y BBC

Disgwyliwch bedwar diwrnod o hysteria

Disgwyliwch banig lloerig, hysteraidd gan y sefydliad Prydeinig tros y dyddiau nesaf.


Diweddariad - dau bol arall y naill yn rhoi Na 6% ar y blaen a'r llall yn eu rhoi 1% ar y blaen.

Thursday, September 11, 2014

Yr ymerodraeth (Lafur) yn taro'n ol _ _ _

_ _ ac yn cael eu dilyn o gwmpas gan foi sydd wedi dod o hyd i ffordd hynod wreiddiol o wneud niwsans ohono'i hun.



Yr hogiau ar drip i'r Alban

Rhyw deimlo y dyliwn rannu'r llun hyfryd yma efo chi.  Neis iawn gweld cynrychiolaeth Gymreig dda yn y pared idiotaidd o aelodau seneddol Llafur o gwmpas canol Glasgow heddiw.  Gwneud i ddyn deimlo'n falch o fod yn Gymro.

Wednesday, September 10, 2014

Mynd i'r Alban i fyllio

Mae'r papurau wedi mynd yn dw lali am yr Alban ers tro wrth gwrs - does ond eisiau edrych ar fwy neu lai unrhyw un - o'r Mail i'r Guardian i weld y sterics, y myllio a'r rwdlan afresymegol.  Ond mae prif wleidyddion Lloegr (a Chymru) yn colli eu pwyll yn dilyn cyhoeddi cwpl o bolau piniwn anffafriol o'u safbwynt nhw yn  ystod y dyddiau diwethaf.

Dyna i chi David Cameron - ymddengys ei fod bellach o blaid rhywbeth sydd ddim yn rhy bell o Devo Max er iddo wrthod gadael i hynny fynd ar y papur pleidleisio, ac iddo daeru du'n wyn flwyddyn a hanner yn ol na fyddai'r Alban yn cael y fath ddarpariaeth, hyd yn oed petai'n pleidleisio tros hynny mewn refferendwm.  Mae o hefyd wedi ploncio Saltire ar ben ei dy - yn union fel mae llawer o gefnogwyr yr ymdrech Ia yn yr Alban yn ei wneud - er mai eu crogi o'u fflatiau mae'r rheiny erbyn meddwl. Ychydig wythnosau yn ol doedd ganddo ddim hyd yn oed ddigon o ddiddordeb yn y refferendwm i wylio'r dadleuon teledu rhwng Salmond a Darling.

Ac wedyn mae gennym Ed Milliband - mae hwnnw bellach yn caru'r Alban i'r fath raddau mae eisiau gweld ei baner yn cahwfan uwchben trefi Lloegr, er ei fod tros y penwythnos wrthi'n bygwth anfon y fyddin i'r ffin pe bai'r Alban yn ennill annibyniaeth.  Mae o, Cameron a Clegg wedi gohirio eu sesiwn wythnosol o fyllio a thantro ar ei gilydd er mwyn ei heglu hi am yr Alban i egluro i drigolion y wlad honno pam mai nhw eu hunain ydi'r bobl orau i reoli eu bywydau. Mi fyddan nhw mewn cwmni da - mae Nigel Farage a miloedd o aelodau'r Urdd Oren ar y ffordd o Ogledd Iwerddon i'r un pwrpas.

Yn y cyfamser mae Gordon Brown wedi argyhoeddi ei hun ei fod o'n brif weinidog unwaith eto gan fynd ar yr awyr i addo y lleuad, y ser a'r llynoedd i'r Alban tros y blynyddoedd nesaf, er ei fod eisoes wedi dweud ei fod yn ymddiswyddo o San Steffan y flwyddyn nesaf a bod ymgeisydd Llafur wedi ei ddewis i gymryd ei le.  Yn wir mae wedi bod yn disgrifio ei hun fel 'cyn wleidydd' ers 2010.  Ac eto gwta bedair blynedd yn ol roedd mewn sefyllfa i roi unrhyw beth oedd eisiau i'r Alban, ond dewisodd beidio.

Mae ein prif weinidog cyfredol ni, Carwyn Jones yntau wedi gwneud ei ffordd i'r Alban i wasgaru ei weledigaeth lachar ymysg yr Albanwyr, ac o bosibl i gyfarth bygythiadau na all eu gwireddu hefyd. 

Mae JK Rowling hithau wrthi'n mynd trwy ei phethau y dylai Llafur ddweud rwan hyn eu bod am ganiatau Devo Max o gael eu hethol flwyddyn nesaf.  Mae rhan o'r £1 miliwn mae wedi ei roi eisoes i'r ymgyrch Na wedi ei roi i Saatchi & Saatchi fel tal am baratoi rhan o'r hysbysebion mwyaf trychinebus a gwrth gynhyrchiol yn hanes gwleidyddiaeth etholiadol. 

Mae hyd yn oed aelod seneddol Aberconwy, Guto Bebb wedi cymryd amser oddi wrth ei amrywiol frwydrau efo'i etholwyr, Hamas, Heddlu Gogledd Cymru,  y trydarfyd, y Gwyddelod, David Jones, pobl efo anhwylderau iechyd meddwl a'r Byd modern i ddisgrifio'r sefyllfa fel un 'ddifrifol' - er nad ydi o'n debygol o wneud ei ffordd i'r Gogledd pell efo Cameron, Farage a Milliband am wn i.  Mae ganddo  ddigon ar ei blat ar hyn o bryd.

A dyna chi - dau bol piniwn, a diffyg diddordeb llugoer yn cael ei drawsnewid banig lloerig mewn amrantiad.  Yn wir cymaint y panig nad oes neb wedi gofyn y cwestiwn amlwg - ydi llwyth o wleidyddion Seisnig - sy'n amhoblogaidd hyd yn oed yn eu gwlad eu hunain - yn rhedeg o gwmpas yn goch, chwyslyd ac ofnus yr olwg am newid meddwl unrhyw un?

                                            
                                                            Glasgow Gorbals


                                                       10 Downing Street

Monday, September 08, 2014

Pol TNS heno

Pol arall yn dangos nad oes dim oll rhwng y ddwy ochr.  Mae'r gogwydd i'r ochr Ia yn 8% ers y pol TNS diwethaf.  Mae symudiad felly yn un sylweddol iawn.

Sunday, September 07, 2014

Torri cytundeb?

Mae'n ymddangos bod George Osborne trwy gyhoeddi ei fod am roi mwy o bwerau i'r Alban yn drannoeth pleidlais Na wedi torri'r cytundeb rhwng llywodraeth yr Alban a Llywodraeth San Steffan yn 2012.  Mae'r cytundeb yn eithaf clir na ddylai'r naill lywodraeth na'r llall wneud cyhoeddiadau a allai effeithio ar y canlyniad yn ystod y 28 diwrnod cyn y refferendwm.  Deg diwrnod sydd i fynd o heddiw.


Government activity during the 28 days before the referendum29. It is customary for there to be a period before elections in the UK, during which Ministers and other public bodies refrain from publishing material that  would have a bearing on the election. Section 125 of PPERA sets out the restrictions that apply to Ministers and public bodies in the 28 days preceding referendums held under that Act. Both governments recognise the importance of respecting the 28-day period prior to a referendum, in the same way that both governments already respect each other’s pre-election period for Parliamentary elections.  The Scottish Government will set out details of restricted behaviour for Scottish Ministers and devolved public bodies in the Referendum Bill to be introduced into the Scottish Parliament. These details will be based on the restrictions set out in PPERA. The UK Government has committed to act according to the same PPERA-based rules during the 28 day period.

Pleidlais yr Alban a dyfodol Cymru

Mae yna rhywfaint - dim llawer ond rhywfaint - o drafodaeth wedi bod ar oblygiadau posibl pleidlais Ia i Gymru.  Efallai mai'r rheswm am y diffyg trafodaeth ydi bod pawb wedi cymryd hyd yn ddiweddar mai Na fydd canlyniad y refferendwm - yn rhannol oherwydd yr hyn mae'r polau piniwn a'r marchnadoedd betio yn ei awgrymu.  Dydi canlyniad felly ddim yn anhepgor o bell ffordd yn fy marn i, a dwi'n rhyw feddwl y byddai unrhyw un sydd wedi treulio amser yn yr Alban yn ddiweddar yn cytuno petaent yn onest.

Mae Ifan Morgan Jones yn gefnogol i annibyniaeth i'r Alban, ond nid yw'n gweld fawr o fantais o safbwynt Cymru.  Mae Simon Brooks bellach yn gefnogol hefyd, ond mae'n gweld peryglon i Gymru hefyd yng nghyd destun bod yn rhan o wladwriaeth  mwy Seisnig, ac yng nghyd destun datblygiad Seisnigrwydd llawer mwy ymwthgar na'r hyn a geir ar hyn o bryd.  Tra fy mod yn cytuno efo llawer o'r hyn mae Simon yn ei ddweud am ddwyieithrwydd a lle'r Gymraeg yn hunaniaeth sific Cymru ar hyn o bryd, dwi ddim mor siwr ei fod yn gywir ynglyn ag effaith ymadawiad yr Alban a'r DU.

Y peth cyntaf i'w ddweud ydi hyn.  Nid maint ydi'r peth pwysicaf o ran ennill parch gan San Steffan tuag at wledydd llai y DU.  Mae'r Alban yn cael ffafriaeth cyllidol o gymharu a Chymru oherwydd bod yr Alban yn fwy anhydrin ac anystywallt na Chymru, nid oherwydd ei bod yn fwy.  Dydi San Steffan - hyd yn oed os mai Johnson a Farage fydd yn rhedeg y sioe - ddim am wneud unrhyw beth sy'n sathru ar gyrn y 800k Pabydd sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon chwaith.  Y rheswm am hynny ydi nad ydyn nhw eisiau mynd yn ol at y dyddiau pan roedd rhaid talu am gadw 55,000 o aelodau'r lluoedd diogelwch yng Ngogledd Iwerddon a phan roedd cyfres o loriau efo  tunnell o ffrwydrolion ynddyn nhw yn cael eu symud o gorsydd De Armagh i ganol Llundain i bwrpas chwythu rhai o adeiladau'r ddinas honno i fyny ar gost o biliynnau o bunnoedd i'r trysorlys.

Mae pethau'n wahanol yng Nghymru wrth gwrs.  Tra bod iwfforia yn sgubo'r Alban yn sgil y cyfle i ffurfio gwladwriaeth annibynnol, mae iwfforia yn sgubo'r Gymru sefydliadol yn sgil llwyddo i lwyfanu uwch gynhadledd NATO heb i'r un o'r gwesteion farw o wenwyn bwyd.

Rwan dwi ddim yn awgrymu bod Carwyn yn bomio dim wrth reswm, ond dydi ei ymddygiad cyffredinol o a'i lywodraeth ddim yn gwneud unrhyw ffafr a Chymru o gwbl.  Er enghraifft dydi sefyll y tu ol i David Cameron fel hogyn bach yn gweiddi bygythiadau na all byth eu gwireddu pan mae hwnnw'n cael ffrae efo Alex Salmond ddim yn syniad arbennig o dda.  Efallai bod Carwyn yn meddwl bod ei grafu am annog Cameron i roi pob math o bethau neis iddo fel arwydd o ddiolchgarwch, ond dydi pethau ddim yn gweithio fel yna yn y byd go iawn.  Y wers y bydd Cameron (a phob Prif Weinidog Prydeinig arall) yn ei chymryd o waseidd-dra Carwyn ydi ei bod yn saff i ddi ystyru Cymru oherwydd ei bod mor ufudd beth bynnag.

Yn y bon y sawl sy'n mynnu parch, sydd yn ennill parch, dydi'r  sawl ddim yn hawlio parch ddim yn ei gael.  Os ydi Cymru yn ethol llywodraethau taeog dydi hi byth am gael fawr o barch.  Mae faint o barch rydyn yn ei gael yn fater  i ni ein hunain yn y pen draw.

Mae dadl Simon yn un ehangach wrth gwrs - mae'n ymwneud a 'rhyfel diwylliannol' yn ogystal  - neu efallai yn hytrach - na'r ymarferiad o rym gwleidyddol.  Y peth cyntaf i'w ddweud am hynny ydi bod Lloegr ei hun yn llai Seisnig ar hyn o bryd nag a fu ers Oes y Normaniaid.  Mae hynny heb amheuaeth wedi esgor ar Seisnigrwydd mwy hunan ymwybodol ac ymwthgar ymysg llawer o Saeson - yn arbennig Saeson dosbarth gweithiol.  Mae hunaniaethau eraill yn cael eu hatgyfnerthu ar yr un pryd wrth gwrs.  Mae hynny'n digwydd os ydi'r Alban yn rhan o'r DU neu beidio.  Does yna ddim cysylltiad rhwng y prosesau cymdeithasegol sy'n mynd rhagddynt ar stadau tai ardaloedd dosbarth gweithiol Lloegr a bodolaeth pum miliwn o bobl efo hunaniaeth Albanaidd i'r gogledd o Fur Hadrian.

Mae yna oblygiadau gwleidyddol yn debygol o fod i'r newidiadau hyn wrth gwrs, ond dydi o ddim yn  dilyn y byddai hunaniaeth wleidyddol anoddefgar Seisnig yn niweidio hunaniaeth wleidyddol Gymreig - gallai yn hawdd ei gryfhau.  Mae hunaniaethau gwleidyddol ymwthgar, ond croes i'w gilydd yn aml yn adgyfnerthu ei gilydd.  Unwaith eto mater i ni a'r ffordd y byddwn yn ymateb i ddigwyddiadau ol annibyniaeth ydi'r math o hunaniaeth wleidyddol Gymreig fyddai'n datblygu.  Dof yn ol at y pwnc hwn maes o law.

Mae Ifan yn holi beth fyddai'r manteision i Gymru o annibyniaeth Albanaidd ar wahan i gael gweld wynebau Cameron ac Osborne.  A dweud y gwir petai'r Alban yn fotio Ia - ac mae hynny'n parhau yn fater o gryn amheuaeth er gwaetha pol YouGov heddiw - gallaf feddwl am sawl mantais.  Mae'r ymgyrch Ia yn pwysleisio y gallai llywodraeth Albanaidd fod yn fodel i weddill Ynysoedd Prydain bod yna ffordd well a challach o reoli - ffordd sy'n arwain at lai o ryfela, llai o wariant ar arfau ond mwy o degwch cymdeithasol a gwell defnydd o adnoddau cenedlaethol.  Mae Cymru angen model gwell na'r un mae San Steffan yn ei gynnig o sut i ymarfer grym gwleidyddol er lles pawb. 

Ond mi fyddai'r weithred o ennill ynddi ei hun hefyd yn hwb seicolegol fawr i'r sawl sydd eisiau i Gymru gymryd cyfrifoldeb am ei bywyd cenedlaethol ei hun.  Byddai'r fuddigoliaeth wedi dod yn wyneb gwrthwynebiad llwyr - yn wir hysteraidd yn aml - gan y cyfryngau torfol a'r sefydliad gwleidyddol yn eu cyfanrwydd.  Byddai cyfuniad o strategaeth wleidyddol  ddeallus, naratif cadarnhaol a manwl, ymgyrch llawr gwlad bwerus a defnydd effeithiol o'r cyfryngau amgen wedi sgubo'r hen sicrwydd nad ydi hi'n bosibl creu newid yn wyneb gwrtheynebiad sefydliadol o'r neilltu am byth.  Byddai Alban annibynnol yn brawf dyddiol nad ydi gwyrthiau etholiadol yn amhosibl wedi'r cwbl.  

Byddai gwybod hynny ynddo'i hun yn hwb i'r sawl sydd am weld Cymru well.




Friday, September 05, 2014

Fideo o'r Alban 2

Dwi wedi postio lluniau o rai o'r torfeydd sy'n dod i weld Tommy Sheridan yn ei gyfarfodydd cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgyrch Ia yn yr Alban yma sawl gwaith.

Rwan dwi ddim yn cytuno efo Sheridan ar pob dim - o bell ffordd - ac mae'n gymeriad digon lliwgar a chynhenys, a dydw i ddim yn rhy hoff o arddull areithio tan a brwmstan y traddodiad pregethwrol chwaith.

Ond mae'r areithiau yn ddadlenol ar sawl cyfrif - maent yn rhoi syniad o'r emosiwn sy'n gyrru'r ymgyrch a'r manylder ffeithiol sydd ynghlwm a naratif greiddiol yr ymgyrch Ia.  Maent hefyd yn dangos bod lleoliad gwleidyddol yr ymgyrch i'r Chwith o Lafur - rhywbeth sydd wedi bod yn hynod effeithiol yng nghyd destun yr ymgyrch yma - er bod Tommy Sheridan i'r Chwith i'r rhan fwyaf o ymgyrchwyr Ia wrth gwrs.

Mae'r fideo wedi ei gymryd ar ddechrau'r flwyddyn cyn cychwyn yr iwfforia a'r torfeydd mawr ddaeth yn sgil hynny - ond mae'n werth cael cip arni - hyd yn oed os nad oes gennych yr amser i wrando ar y deugain munud yn ei gyfanrwydd.



Thursday, September 04, 2014

Tommy Sheridan _ _

_ _ ym mherfedd dir yr ymgyrch Ia yn Dundee heno.

Rhywbeth ar y gweill?


Wednesday, September 03, 2014

Salmond yn Kilmarnock heno

Ffradach Llafur arall - yn Wrecsam y tro hwn

Pob dim yn mynd i'r diawl i'r grwp Llafur yng Nghaerdydd i ddechrau, ac yna Abertawe ac yn awr Wrecsam.  Os ydi'r patrwm i barhau Casnewydd fydd y lle nesaf i 'r cyfeillion ddechrau ymddwyn fel gwenciod mewn sach - ac wedyn mi fydd yna ffradach ym mhob tref fawr yng Nghymru.

Rwan dwi'n siwr bod yna amgylchiadau penodol gwahanol yn y tri achos, ond mae yna rhywbeth yn gyffredin hefyd.  Mae pob cyngor yng Nghymru yn gorfod torri gwariant i'r bon.  Y prif reswm tros ddominyddiaeth Llafur yng Nghymru ydi eu gallu i wobreuo grwpiau sy'n eu cefnogi - clienilism.  

Mae cleiantiaeth mewn llywodraeth leol yn anos o lawer mewn amgylchiadau o dorri ar wariant llywodraeth leol.  Ac o ganlyniad mae rheoli cynghorau yn llai o hwyl o lawer nag a fu yn y gorffennol - ac o ganlyniad i hynny mae'r hogiau i gyd yn flin fel tinceriaid.

Tuesday, September 02, 2014

Tommy Sheridan yn Kilkardy heno

400 o bobl mewn cyfarfod y bythol liwgar Tommy Sheridan heno.  Mae o'r 93ydd cyfarfod iddo ei gynnal i hyrwyddo annibyniaeth.



Ceisio cyflawni hunanladdiad?

Mae'r cwestiwn yn codi weithiau bod yr ymgyrch Na yn ceisio cyflawni hunan laddiad.  Lawnswyd ymgyrch heddiw sy'n gweithio ar y syniad bod pobl sy'n pleidleisio Na yn caru eu plant - gan awgrymu nad ydi pleidleiswyr Ia yn gwneud hynny.  Ar wahan i'r ffaith bod y syniad yn chwerthinllyd, mae cwyno ar y naill law bod yr ochr arall yn ymysodol tra'n rhedeg ymgyrch mor ymfflamychol yn ymddygiad rhyfedd a dweud y lleiaf.  
 
Mae'r ffaith mai perchenog y cwmni sy'n rhedeg yr ymgyrch ydi'r boi hwnnw a gafodd ei hun mewn dwr poeth am grogi ei wraig yn gyhoeddus yn ychwanegu rhywbeth bisar i ymgyrch sydd eisoes yn un wirion.
 


Mae hyn yn dilyn yn fuan ar ol y cynhyrchiad fideo enwog lle'r oedd y ddynas oedd am fotio Na yn cael ei phortreadu fel rhywun di glem a di ddeall - rhyw fath o adlais o'r stereoteip o ferched a ddefnyddwyd yn ol yn y dyddiau pan mai gwrthwynebu pleidlais i ferched oedd y Toriaid.  Esgorodd hyn ar lawer iawn o watwar - gellir gweld llawer mwy yma.  Go brin i unrhyw fideo gwleidyddol gael ei watwar mwy erioed.
 
 












Monday, September 01, 2014

Y panic yn cychwyn

Gallwn ddisgwyl gweld hyd yn oed mwy o faw yn cael ei daflu o gyfeiriad yr ochr Na tros yr wythnos neu ddwy nesaf



Pethau'n symud i gyfeiriad Ia yn ol YouGov


Ac mae YouGov wedi bod yn llai ffafriol i'r ochr Ia na nifer o gwmniau polio eraill.

Datganiad i'r wasg gan Fanc Bwyd Caernarfon

DATGANIAD I’R WASG 25 Medi 2014
BANC BWYD CAERNARFON YN BWYDO 2,500 O BOBL
Cyrhaeddodd Banc Bwyd Caernarfon garreg filltir nodedig yr wythnos hon, gan fwydo’r 2,500fed person ers agor ei ddrysau lai na dwy flynedd yn ôl. Mae cyfanswm o 1,543 o oedolion a 958 o blant wedi cael eu bwydo gan y Banc Bwyd, gan ddarparu dros 7,500 o brydau bwyd.
Dyma oedd gan reolwr y Banc Bwyd, Paul Dicken, i’w ddweud:
“Ryw deimladau cymysg sydd gen i wrth drafod yr ystadegau hyn. Ar y naill law, rydym yn hynod o falch ein bod wedi gallu helpu teuluoedd a fyddai, fel arall, wedi mynd heb fwyd, ac mae haelioni pobl ardal Caernarfon a Bangor, sydd yn cyfrannu bwyd a phres fel unigolion neu drwy ysgolion, eglwysi a busnesau yn ein rhyfeddu o hyd. Ac wrth gwrs, mae cyfraniad ein partneriaid hael, Tesco, yn amhrisiadwy.
“Ond ar y llaw arall, nid yw’r adferiad economaidd yn cyrraedd yr ardal hon, ac mae’r galw’n parhau i gynyddu. Rydym hefyd yn gwybod am deuluoedd sy’n methu bwydo eu plant yn ystod gwyliau’r ysgol, pobl oedrannus sy’n mynd heb fwyd am fod rhaid iddynt dalu biliau a phobl sydd ond yn gweithio rhan-amser sy’n cael eu taflu i argyfwng ariannol pan fydd bil annisgwyl o fawr yn dod drwy’r drws. Nid ydym yn eu gweld nhw yn y Banc Bwyd, ond rydym yma iddynt hwythau hefyd. Mae pawb yn wynebu cyfnod caled o bryd i’w gilydd, ac rydym yn gallu bod yn bont i gario pobl drwy’r cyfnodau anodd hynny.”
Trodd bron i hanner (44%) o gleientiaid y Banc Bwyd atom am barsel bwyd oherwydd newid ac oedi gyda budd-daliadau (yn benodol y Dreth Llofft a chosbau budd-daliadau), 18% oherwydd incwm isel, ac 11% oherwydd dyled. Mae’r chwarter sy’n weddill yn derbyn parseli bwyd am eu bod yn ddigartref, yn dioddef trais domestig, salwch hir dymor neu am resymau eraill.
 Mae’r ystadegau moel hyn yn cuddio stori y bobl go iawn sydd y tu ôl i’r ffigurau. Fel yr esbonia Paul Dicken:
“Ymhlith ein cleientiaid diweddar mae dynes a oedd yn mynd heb fwyd er mwyn cynilo ei phres ar gyfer talu am docyn trên i weld ei babi sâl yn Ysbyty Alder Hay; cyn-filwr o ryfel Afghanistan a oedd wedi anafu ei gefn, ac yn methu gweithio; pâr oedrannus a oedd wedi derbyn bil trydan aruthrol o uchel ac a oedd yn gorfod dewis rhwng ei dalu, neu fwyta. Ond weithiau, mae’r straeon yn cynhesu’r galon, fel hanes yr hogyn ifanc digartref a gafodd lety gan Gyngor Gwynedd ac a dderbyniodd barsel creu cartref gennym, a oedd yn cynnwys amrywiol hanfodion ar gyfer ei fflat newydd.”
Mae Banc Bwyd Caernarfon yn gynllun dan Eglwys Bentecostalaidd Caernarfon, yn aelod o rwydwaith Ymddiriedolaeth Trussell o fanciau bwyd, ac mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr o sawl eglwys leol ac aelodau eraill o gymuned Caernarfon.
Mae cleientiaid y Banc Bwyd yn cael tocyn i roi digon o fwyd iddyn nhw a’u teulu am dri diwrnod gan asiantaethau budd-daliadau ac asiantaethau statudol eraill, mudiadau cyngor a chymorth cymunedol, elusennau cam-drin sylweddau, asiantaethau gwirfoddol, ymwelwyr iechyd, meddygfeydd ac ysgolion.
Mae bwyd yn cael ei gyfrannu drwy gyfrwng casgliadau mewn archfarchnadoedd neu mewn biniau parhaol yn siop Tesco ym Mangor neu Gaernarfon neu yn swyddfa’r Caernarfon and Denbigh. Mae rhai eglwysi a mudiadau cymunedol yn casglu bwyd yn rheolaidd, ac mae ysgolion lleol yn cyfrannu ffrwyth dathliadau eu Gŵyl Ddiolchgarwch.
Mae gennym gyflenwadau da o rai pethau, ond mae angen y canlynol arnom ar frys:
·      Pwdin reis / cwstard
·      Tatws stwnsh parod
·      Cig/pysgod mewn tun
·      Ffrwythau mewn tun
·      Siwgr (500g)
·      Saws Pasta
·      Grawnfwydydd brecwast
·      Pwdin llefrith powdwr/jeli
·      Tatws/moron/pys/indiacorn mewn tun
·      Sebon/jêl cawod/siampŵ/past dannedd

Mae croeso bob amser i wirfoddolwyr ymuno â ni i ysgwyddo amrywiol dasgau yn y Banc Bwyd.  Cysylltwch â Gwyn ar 07847 192896 i gael mwy o wybodaeth.
- Diwedd -
Am fwy o wybodaeth cysyllter â: Paul Dicken, Rheolwr y Banc Bwyd 07803 968272

Sunday, August 31, 2014

Pamffled Llafur yn Arfon

Dwi newydd gael cip ar bamffled etholiadol cyntaf Alun Puw, Llafur - ymgeisydd Llafur yn Arfon yn Etholiad Cyffredinol 2015. 

Er bod y pamffled braidd yn or eiriog, dyda ni ddim yn dysgu llawer a dweud y gwir.  Mae'n dod yn amlwg bod Alun yn hoff o falwns - dim o'i le yn hynny wrth reswm, dwi'n eithaf hoff o falwns fy hun.  Rydym hefyd yn cael un o'r graffiau Lib Demaidd yna sy'n dangos i gefnogwyr y Toriaid a'r Lib Dems mai dim ond Llafur all guro'r Blaid.  Ymgais i ddenu pleidleiswyr tactegol o gyfeiriad cefnogwyr pleidiau tebyg i'r Blaid Lafur o bosibl.

Beth bynnag y prif bwynt ydi'r un arferol - os nad ydi pobl yn fotio i Alun Puw bydd y Toriaid yn ennill - ac mae pawb yn gwybod bod y rheiny yn bobl ddrwg iawn, iawn.  Oni bai bod y syniad y byddai'r Blaid yn cynnal llywodraeth Doriaidd yn nonsens mae yna ddau ateb arall i hon.

Yn gyntaf pan mae'n dod i doriadau gwariant cyhoeddus tair boch o'r un pen ol (mae yna rhywbeth o'i le ar y trosiad yna) ydi Llafur, y Toriaid a'r Lib Dems - maen nhw i gyd wedi ymrwymo i'r un cynlluniau gwariant, ac mi fyddan nhw i gyd yn torri gwariant cyhoeddus i'r bon yn dilyn 2015.

Yn ail mi'r ydan ni yng Nghymru wedi fotio i Lafur ym mhob etholiad bron ers 1918 ac mi'r ydan ni yn dal yn dlotach na'r unman arall yng Ngorllewin Ewrop.  Dydi fotio Llafur ddim yn gweithio - mae'n arwain at dlodi a methiant - mae ganddon ni bron i gan mlynedd o hanes i ddangos hynny.  Y cwbl sydd gan blaid Alun Puw i'w gynnig i Gymru ydi methiant a thlodi.