Gogledd Cymru ydi canolfan camerau gor yrru'r byd.
Mae'n rhaid bod yr holl gamerau yma wedi lleihau'r nifer o ddamweiniau a marwolaethau reit? Ym, efallai ddim. Gweler isod:
Cafodd y drefn Siwrna Saff ei chychwyn yn Hydref 2001.
Felly mae gostyngiad bach iawn wedi bod - er gwaetha'r holl ymdrech, ac er gwaetha'r holl ddirwyo. Ac roedd gogwydd y ffigyrau ar y ffordd i lawr beth bynnag.
Pam?
Mae'r ateb yn syml - nid yw'r camerau yn cael eu gosod mewn lleoedd perygl - cant eu gosod mewn lleoedd sy'n debygol o ganiatau i'r faniau ddal llawer o bobl (ac felly gwneud llawer o bres) - ychydig fetrau ar ol i'r cyfyngiad 40mya droi'n gyfyngiad 30mya wrth Bont Saint yng Nghaernarfon, ond lle nad ydi damweiniau byth yn digwydd.
Yn y cyfamser daw'r stori bach
yma i'r wyneb.
O, a rhag ofn eich bod yn meddwl - chefais i erioed gopsan gan y faniau
Mae'n hen bryd i mi ddechrau blogio eto. Wedi mynd yn ofnadwy o ddiog. Ymddengys bod cardiau adnabod ar y ffordd. Gweler y stori yma. Mae'n bosibl medden nhw i mi y byddant yn orfodol erbyn y flwyddyn 2010. Yn y cyfamser mae gweithgareddau'r llywodraeth Brydeinig yn clustfeinio ar alwadau ffon dinasyddion Prydain ac Iwerddon yn cynyddu o ran lefelau soffeistgeiddrwydd ac amlder mae'n debyg. Ceir ychydig o hanes yr ymdrechion hyn yma. Am wn i nad ydi o'n anarferol i lywodraethau geisio ysbio ar ei dinasyddion, nag i geisio cadw rheolaeth arnynt trwy gwahanol ddulliau. Y gwahaniaeth erbyn heddiw ydi bod technoleg yn ei gwneud hi'n bosibl i fysneu efo mwy o lawer o bobl, a gwneud hynny'n llawer mwy effeithiol nag oedd hi ers talwm.
Heb flogio ers tro oherwydd fy mod wedi bod allan yn canfasio bron i pob nos. Dyma un neu ddu o sylwadau anwyddonol ar beth 'dwi wedi ei ddysgu. (1) Bydd llawer iawn o bobl yn dewis peidio a phleidleisio. (2) Mae mwy o lawer o bobl yn fodlon cyfaddef eu bod yn Doriaid na sy'n fodlon cyfaddef mai Llafur ydynt. (3) Mae llawer o gefnogwyr Llafur yn hollol boncyrs: Wele eglurhad Glyn Carmel o Dwthill am pam mae'n cefnogi New Labour - 'Dwi wedi cael fy rhoi ar y dol dair gwaith yn ystod fy mywyd, ac mae dyn fel fi yn gwybod bod rhaid chwalu'r system gyfalafol (mae o'n siarad fel hyn go iawn - mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iddo - roedd yn aelod o'r Blaid Lafur a Chymdeithas yr iaith ar yr un pryd ers talwm. Yr unig ffordd o chwalu cyfalafiaeth a chael trefn Sosialaedd ydi fotio i Tony Blair.Neu beth am sylw Norman Davies, Bro Helen (brawd y diweddar Wynne Davies)? Ffwc o beryg bod 'dwi'n fotio i Dafydd Wigley (gwnes ymdrech yma i ddweud nad Dafydd Wigley oedd yn sefyll). Nath o ffwc ol i dre. Chance cynta gath o nath o ffwcio oma i'r Assembly yng Nghaerdydd. Eisiau mynd i Gaerdydd oedd o ol along.(4) Er nad prif bwrpas canfasio ydi perswadio pobl i bleidleisio i chi (adnabod lle mae eich cefnogaeth ydi hwnnw) mae'n bosibl cael y maen i'r wal weithiau. Golygfa = Twtill
Cai - 'Dwi'n canfasio tros HW PC. Unrhyw obaith am eich pleidlais eleni.
Tori - You wha?
Cai - Cyfieithiad clogyrnaidd o'r uchod.
Tori - I was born into the Conservative party % that's the only party I've voted for. Still we don't have a snowball's chance here do we?
Cai - Indeed not. You're more likely to win the lottery every week for five years.
Tori - Tell me, are you to the left or right of Labour.
Cai - (gan ddweud celwydd noeth) In some ways wer'e to the right - countryside issues & all that, in some ways we're to the left - for example we were against the Iraqi war.
Tori - The Iraqi war, the war, I'm fucking against it as well! I'll tell you what boy, I'll vote for you, where's the polling booth?(5) Anaml iawn y bydd y Gymraeg yn codi fel pwnc ar stepan drws. Dyma'r unig achos y gallaf fi ei gofio erioed: Tra'n canfasio 'Sgubor Goch (Maes Barcer a bod yn fanwl gywir) daeth boi i'r drws ac edrych ar fy mhamffled. Nodiodd ei ben a dweud - Rwan dwi byth yn fotio i neb ond mae hwnna'n iawn ia, Cymraeg un ochor a Saesneg ochor arall. Gesh i fflip efo'r boi Tori na i lawr dre diwrnod o'r blaen. Stwffio peth ma i llaw fi Susnag yn fawr fawr un ochor a Cymraeg yn fach fach ochor arall. Cardiff di huna i gyd de. North Wales ydan ni . Ffwcin cont Tori. Dwi'm yn fotio i neb cofia. (6) Un cefnogwr BNP 'dwi wedi ei ganfasio.'Dwi ddim yn gor ddweud 'rwan, ond roedd y boi yn nytar llwyr a chyfangwbl - gwneud i mi feddwl am Hannibal Lecter. 'Roedd ganddo'r arfer bach annwyl o wthio ei siswrn torri gwair i gyfeiriad fy ngwddw pob tro roedd am wneud pwynt.
O wel, yr etholiad cyn belled a 'dwi yn y cwestiwn wedi cychwyn. Canfasio stad Maesincla, nid y lle cryfaf i'r Blaid yn yr etholaeth o bell ffordd. 'Dwi'n digwydd adnabod y stad yn weddol dda oherwydd i'r hen go gael ei fagu arni, ac 'roeddwn i'n mynd i weld nain yno byth a hefyd pan yn blentyn. Mae canfasio'n beth rhyfedd. Roedd gas gen i feddwl am gychwyn arni, ond wedi cychwyn, roedd o'n eithaf hwyl - dod ar draws gwahanol bobl roeddwn yn eu hadnabod fel plentyn, gwahanol Babyddion roeddwn yn arfer mynd i'r Eglwys efo nhw. Holi neu ateb cwestiynau am hwn a'r llall. Siarad ychydig iawn am wleidyddiaeth. Hwyrach y bydd y busnes i gyd yn fwy o hwyl na mae dyn yn cofio!
Erthygl diddorol ymaMae'n ddiddorol (ac yn ddychrynllyd weithiau) dychmygu beth y byddai hyn oll yn ei olygu i Gymru'n benodol. Gallai rhai pethau cadarnhaol ddeillio'n ddi amau - adfywiad y diwydiant glo, defnydd helaethach o gryfderau Cymru parthed ynni amgen - ynni wedi ei seilio ar wynt, dwr a'r llanw. Ond byddai patrwm lled barhaol o gostau ynni yn codi yn barhaus - yn arbennig felly petrol yn cael effaith sylweddol ar wead llawer o gymunedau gwledig. Ychydig o drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael mewn llawer o lefydd bellach - byddai llai petae pris tanwydd yn sylweddol ddrytach. Byddai trafnidiaeth breifat yn llawer iawn llai fforddadwy. Byddai'r newidiadau sydd wedi digwydd yn natur y Gymru Gymraeg tros y deg mlynedd ar hugain diwethaf yn cryfhau. Os ydi'r iaith Gymraeg yn cyflym droi'n iaith drefol ar hyn o bryd, byddai'r tueddiad hwnnw'n sicr o gyflymu. Os ydi'r Rolling Stone yn gywir - hon fydd un o'n problemau lleiaf!
Mi es i gyda rhai o fy nghyd chwaraewyr yng Nghlwb Sboncen Caernarfon i weld gem Cymru - Iwerddon ddydd Sadwrn yn Nulyn (er bod y gem yng Nghaerdydd wrth gwrs). 'Doeddwn i heb wneud hyn ers rhai blynyddoedd, ac fe'm rhyfeddwyd gan y nifer o Gymru oedd wedi cael yr un syniad. Roedd o'n brofiad gwirioneddol ryfedd bod yn McDaids (tafarn rwyf wedi ei mynychu ers blynyddoedd) am hanner dydd fore Sadwrn a sylwi bod pob un o'r cwsmeriaid oedd yno yn siarad Cymraeg. Roedd o'n beth rhyfedd edrych ar y gem efo canoedd o bobl eraill yn Sinotts - a'r gefnogaeth wedi ei hollti i lawr y canol rhwng Gwyddelod a Chymru. Roedd o'n braf bod cymaint o Wyddelod wedi dod atom i'n llongyfarch a dweud mai'r tim gorau oedd wedi ennill. Mae'n gwestiwn diddorol pam bod cymaint ohonom yn mynd. Dwi'n gwybod bod Dulyn yn nes i ni yn y Gogledd na Chaerdydd - ond roedd llawer o bobl o'r De yno hefyd. Ydi o am ein bod yn gweld rhywbeth yr hoffem ei weld yn ein gwlad ein hunain yno - gwlad rydd, hyderus gyda thrigolion sy'n gwybod sut i fwynhau eu hunain. Enw'r creadur yn y llun ydi John Lloyd Williams, ac mae'n byw yng Ngaernarfon. Fel y gwelwch mae ganddo grys Cymru del. Neu yn hytrach roedd ganddo un. Yn anffodus, yn fuan wedi i'r llun hwn gael ei gymryd, bu'n ddigon gwirion i'w ffeirio am grys t rhad Leinster. Yn waeth na dim, rhodd gan ei wraig, Delyth, iddo oedd y crys. Roedd y creadur ofn mynd adref. Beth bynnag, i godi ei galon, 'dwi wedi postio'r llun olaf i'w gymryd ohono yn ei grys.
Y Byd yn ol Winston - yn ei eiriau ei hun. Ar ol gollwng nwy gwenwinig ar sifiliaid Iracaidd ym 1919:I do not understand the squeamishness about the use of gas. I am strongly in favour of using poisonous gas against uncivilised tribes.Barn ynglyn a Gandhi:It is alarming and nauseating to see Mr Gandhi, a seditious Middle Temple lawyer, now posing as a fakir of a type well known in the east, striding half naked up the steps of the viceregal palace, while he is still organising and conducting a campaign of civil disobedience, to parlay on equal terms with the representative of the Emperor-King.Ac India'n gyffredinol:a godless land of snobs and bores. Hawliau pobl frodorol:I do not admit... that a great wrong has been done to the Red Indians of America, or the black people of Australia... by the fact that a stronger race, a higher grade race... has come in and taken its place.Comiwnyddiaeth:We must rally against a poisoned Russia, an infected Russia of armed hordes not only smiting with bayonet and cannon, but accompanied and preceded by swarms of typhus-bearing vermin.Gwrthryfelwyr Gwyddelig:The choice was clearly open: crush them with vain and unstinted force, or try to give them what they want. These were the only alternatives and most people were unprepared for either. Here indeed was the Irish spectre - horrid and inexorcisable.Cymryd gofal o bobl sydd ag afiechyd meddwl:The unnatural and increasingly rapid growth of the feeble-minded and insane classes, coupled as it is with a steady restriction among all the thrifty, energetic and superior stocks, constitutes a national and race danger which it is impossible to exaggerate... I feel that the source from which the stream of madness is fed should be cut off and sealed up before another year has passed. Barn am Hitler:One may dislike Hitler's system and yet admire his patriotic achievement. If our country were defeated, I hope we should find a champion as admirable to restore our courage and lead us back to our place among the nations.Wrth lywodraeth wedi ei halltudio Gwlad Pwyl:You are callous people who want to wreck Europe - you do not care about the future of Europe, you have only your own miserable interests in mind.Iddewon:This movement among the Jews is not new. From the days of Spartacus-Weishaupt to those of Karl Marx, and down to Trotsky (Russia), Bela Kun (Hungary), Rosa Luxembourg (Germany), and Emma Goldman (United States)... this worldwide conspiracy for the overthrow of civilisation and for the reconstitution of society on the basis of arrested development, of envious malevolence, and impossible equality, has been steadily growing. It has been the mainspring of every subversive movement during the 19th century; and now at last this band of extraordinary personalities from the underworld of the great cities of Europe and America have gripped the Russian people by the hair of their heads and have become practically the undisputed masters of that enormous empire. Trafod ffawd gwledydd pobl eraill efo Stalin:So far as Britain and Russia were concerned, how would it do for you to have 90% of Romania, for us to have 90% of the say in Greece, and go 50/50 about Yugoslavia?O, ac Islam wrth gwrs:How dreadful are the curses which Mohammedanism lays on its votaries! Besides the fanatical frenzy, which is as dangerous in a man as hydrophobia in a dog, there is this fearful fatalistic apathy. Improvident habits, slovenly systems of agriculture, sluggish methods of commerce, and insecurity of property exist wherever the followers of the Prophet rule or live. A degraded sensualism deprives this life of its grace and refinement; the next of its dignity and sanctity. The fact that in Mohammedan law every woman must belong to some man as his absolute property - either as a child, a wife, or a concubine - must delay the final extinction of slavery until the faith of Islam has ceased to be a great power among men.Tybed ynglyn a beth yn union oedd o a Hitler yn anghytuno ynglyn a nhw?
'Roeddwn ar fin llunio blog gwleidyddol ychydig funudau yn ol pan benderfynais edrych yn ol tros yr hyn 'roeddwn wedi ei wneud hyd yn hyn. Gwleidyddiaeth, gwleidyddiaeth a mwy o blydi gwleidyddiaeth. Felly dyma flog bach gwahanol - a challach o lawer. Roedd y Mrs, minnau a Lois i fod i fynd efo'n gilydd i Lundain am ychydig ddyddiau yr wythnos diwethaf. Ond ni oedd i fod i fynd. Dwy o'r tri hynaf yn y coleg, y llall yn gweithio, Gwion ar drip sgio ysgol i America (ches i ddim mynd cam ymhellach na Rhyl pan oeddwn i yn yr ysgol)oedd yn gadael Lynne, finnau a Lois. 'Doeddem ni erioed wedi bod am wyliau efo Lois ar ei phen ei hun o'r blaen. Beth bynnag, yn anffodus cymerwyd tad Lynne yn ddifrifol wael ddiwrnod neu ddau cyn y gwyliau, a cefais fy ngyru i Lundain ar fy mhen fy hun efo'r fechan - yn rhannol i'w chael o'r ffordd, ac yn rhannol am fod y gwyliau eisoes wedi ei dalu amdano. 'Roedd y greadures bach ar ei phen ei hun efo fi am ychydig ddyddiau. Wele luniau:  
Gyda gwahaniaethau anferth yng nghanlyniadau'r polau - fel hwn a hwn a gyhoeddwyd yn yr Alban heddiw, mae'r cwestiwn yn un gwerth ei ofyn. Os mai'r Scotland on Sunday sy'n gywir byddai Llafur yn cael 37 sedd, y Lib Dems 13, SNP 6 a'r Toriaid 3. Os mai'r Sunday Herald sy'n gywir, yna mae'n stori tra gwahanol - Byddai Llafur yn cael 43 sedd, y Lib Dems 9 a'r SNP 6. Ni fyddai'r Toriaid yn cael dim.
‘Dwi ddim yn gwybod wrth gwrs, ond tybed os ydi Hugh Orde, Bertie Ahern a Tony Blair yn gwybod? Mae Orde yn honni mai ei farn ‘broffesiynol’ o ydi mai PIRA sydd yn gyfrifol.
Mae’n rhaid cydnabod bod yna rai ffeithiau yn cefnogi’r farn yma – dal teulu yng nghadarnle Gwereniaethol Poleglass, fan honedig yn croesi’r ffin, trefn a hyfdra’r weithred, nifer fawr o bobl oedd yn cymryd rhan, yr angen mewn gweithred o’r fath i gael modd o gael gwared o arian ‘poeth’.
Ond tybed os mai hyn ydi’r unig beth sydd gan Orde? Nid oes gan y PSNI adain ‘intelligence’ fel yr RUC – mae’n debyg mai MI5 ac MI6 sy’n gyfrifol am hyn bellach – ac mae rhyfel Irac a’r WMDs nad ydynt yn bodoli, wedi dangos pam mor ddibenadwy ydi tystiolaeth o’r cyfeiriad yma. Ar y gorau un, mae ganddynt hanes o ddehongli tystiolaeth mewn modd sy’n ddefnyddiol i’w meistri gwleidyddol.
Beth am roi’r lladrad mewn cyd destun ehangach am ennyd? Pwy sy’n cael eu niweidio yn wleidyddol gan y digwyddiad? Sinn Fein. Pwy sy’n elwa yn wleidyddol o’r digwyddiad? Pawb arall.
Mae modd dadlau bod y ‘rhyfel’ yn y Gogledd o’r 80au canol ymlaen wedi bod o gymorth i Unoliaethwyr. Roedd lefel ‘derbyniol’ o drais gwleidyddol yn sicrhau bod Iwerddon unedig oddi ar yr agenda yn barhaol. Newidiodd Cytundeb Dydd Gwener y Groglith hynny yn llwyr.
Fodd bynnag, pob tro mae’n ymddangos bod yr Unoliaethwyr am gael eu llusgo i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd mae Hugh Orde yn ymddangos i stopio hynny. Cofier:
1) Y theatr stryd pan ‘dorrodd’ y PSNI ‘gylch sbiwyr’ yn Stormont. Dwsinau o swyddogion yn torri’r drws ffrynt i lawr ar ol estyn gwahoddiad i’r wasg a’r camerau teledu i ddod i dynnu lluniau. Ar ol chwilio’r lle am tua dau funud aethant ag un ‘floppy’ i ffwrdd efo nhw. Dwy flynedd yn ddiweddarach, gollyngwyd pob cyhuddiad yn erbyn un neu ddau o aelodau cyffredin SF.
2) ‘Herwgipio’ Bobby Tohill. Yr IRA wnaeth meddai Hugh. Dau fis yn ddiweddarach, gollyngwyd pob cyhuddiad yn erbyn yr ‘aelodau’ o’r IRA oedd i fod yn gyfrifol am yr herwgipio. Ceir mwy o’r stori yma
3) Columbia. Mae tri aelod o SF i fod wedi bod yn hyfforddi gwrthryfelwyr FARC yn Columbia. Maent yn cael eu rhoi o flaen llys barn, a’u cael yn euog o deithio ar basports ffug. Mae’r llywodraeth yn eu rhoi nhw yn ol yn y llys, sydd yn ei dro yn eu cael yn euog y tro hwn. Yr unig broblem ydi bod y tri bellach wedi diflannu oddi ar wyneb daear. Mae’r ffaith i hyn ddigwydd pan oedd y DUP wrthi’n cael eu gorfodi i rannu grym yn gyd ddigwyddiad llwyr wrth gwrs,
4) Lladrad y ‘Northern Bank’. Eto ar yr union bryd pan mae Unoliaethwyr yn derbyn fflac gwleidyddol sylweddol am beidio a rhannu grym. Cyd ddigwyddiad arall reit siwr.
‘Rwan mae’n bosibl mai’r IRA sydd yn gyfrifol. Yn ol Ahern roedd Adams a McGuinness yn gwbl ymwybodol o beth oedd am ddigwydd pan oeddynt yn trafod y cytundeb efo fo cyn y ‘Dolig. Os felly maent yn anhygoel o ddwl, yn cytuno i weithredoedd sy’n gyfangwbl danseilio eu strategaeth wleidyddol eu hunain. Mae llawer o ansoddeiriau wedi eu defnyddio tros y blynyddoedd i ddisgrifio’r dynion yma – ond mewn difri calon – ‘twp’?
Mae'r polau yn gymharol agos o hyd. Gweler
Pol YouGov oedd agosaf ati yn etholiadau Ewrop y llynedd. A chymryd eu bod yn gywir eleni bydd y canlyniad yn agos. Petai'r ffigyrau hyn yn cael eu gwireddu mewn etholiad cyffredinol byddai senedd grog, gyda Llafur un sedd yn brin o fwyafrif llwyr.
A dweud y gwir, 'dwi'n meddwl y bydd Llafur yn ennill o fwy na hyn, ond beth fyddai'n digwydd yng Nghymru petai YouGov yn gywir?
Canlyniad etholiad 2001 oedd 41% i Lafur a 31% i'r Toriaid. Mae ffigyrau YouGov yn awgrymu gogwydd o 4% i'r Toriaid, ochr yn ochr a chynnydd o tua 5% ym mhleidlais y Lib Dems. Ymhellach mae'n awgrymu 6% o gwymp ym mhleidlais Llafur, a 2% o gynydd ym mhleidlais y Toriaid. Nid oes digon o fanylder Cymreig yno i ddod i gasgliadau ynglyn a pherfformiad y Blaid.
Byddai patrwm tebyg i hwn yn awgrymu y bydd Llafur yn colli Canol Caerdydd i'r Lib Dems, Gorllewin Clwyd,Preseli Penfro a Mynwy i'r Ceidwadwyr ac Ynys Mon i'r Blaid.
Byddwn, fodd bynnag yn disgwyl i Lafur fod yn poeni am nifer o seddi eraill - mae'r Toriaid yn eu bygwth yn, Bro Morgannwg a Gorllewin Caerfyrddin, De Penfro, a dydi eu gafael ar Ogledd Caerdydd ddim yn edrych mor saff a hynny ar ol yr etholiadau lleol - eto y Toriaid fyddai'n elwa yma. Go brin y bydd llawer o'r rhain yn cwympo, ond gallai un neu ddwy fynd.
Bydd y Toriaid hefyd yn disgwyl gwneud yn dda yng Nghonwy, ond ddim digon da i ennill. Bydd y Blaid hithau yn disgwyl gwneud yn dda yn Llanelli a Gorllewin Cymru / De Penfro - ond eto dim digon da i ennill.
Wedi dweud hyn oll, byddwn yn bersonol yn disgwyl 2% o ogwydd i'r Toriaid gyda PC a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwella ar eu perfformiad rhyw gymaint. Y seddi fyddai'n syrthio wedyn fyddai Canol Caerdydd, Gorllewin Clwyd, Mynwy ac Ynys Mon.
Newydd ddod ar draws y llun hwn o fy hen, hen, hen daid John Elias
Gwendid Pabyddol fel rheol ydi honni bod 'arwyr' crefyddol yn gallu gwneud gwyrthiau, ond ymddengys bod edmygwyr John Elias yn meddwl ei fod o'n un am wneud gwyrthiau, wele:
Whitsuntide, 1830, whilst attending the preaching service at Manchester, his attention was drawn to the races and sports held annually in the town in Whit-week. Being always opposed to such things, and believing them to be detrimental to the morality and religious interests of the community, the matter weighed heavily upon his mind all through the week. At the services he prayed with intense earnestness for divine interposition. The morning of the great day of the races was beautiful, the sky clear and cloudless, giving every indication of good weather.
Awaiting the great event on the course, there were from 100,000 to 150,000 people. John Elias was at the time in his room wrestling with God in prayer. Some of the brethren in another part of the house were anxiously awaiting developments. One of them, who secretly listened at the door of the chamber, returned to his companions exclaiming,--"There's Elias praying and we shall see that it will be necessary for Ahab to prepare his chariot and flee."
In half-an-hour or so the clouds began to gather, the sky became dark and threatening, so much so that at 11 a.m. candles had to be lighted. Then suddenly the rain descended, as if the windows of heaven had been opened, the crowds dispersed in search of a shelter, and the races were suspended for the day.
O bob 'gwyrth' i'w chyflawni penderfynodd y dyn ddifetha rasus ceffylau Maenceinion. 'Rwan petai gen i y gallu i gyflawni un gwyrth yn ystod fy mywyd, ni fyddwn yn ei wastraffu ar ddifetha rasus ceffylau Maenceinion. Byddwn yn ei ddefnyddio at bwrpas mwy teilwng o lawer. Difetha'r Henley Boat Race , y Brecon Jazz Festival, Ascot neu'r Open Air Shakespeare Productions yn Dyffryn Gardens er enghraifft.
Rhwng 1997 a 2002 aeth GDP (y pen) y Deyrnas Gyfunol o 103.5% i 107.7% o GDP o bymtheg gwlad yr EU cyn iddi dderbyn aelodau newydd. Yn ystod yr un cyfnod aeth GDP cymharol Cymru i lawr o 83% i 82.4%. Aeth GDP cymharol Cymoedd y De a Gorllewin Cymru i lawr o 72.8% i 69%.
Bydd Llafur yn ennill pob sedd yn y Cymoedd a'r rhan fwyaf o rai'r Gorllewin ym mis Mai.
'Dwi'n gwybod mai barn un gohebydd papur newydd ydi hwn, ond mae yna rhywbeth digon nodweddiadol amdano. Dim un son am Gymru yn holl hanes Prydain. "Dim o'n ol, ond ol y neidar ar y ddol" fel dywed yr hen bennill.
Mae'n erthygl digon difyr wedi dweud hynny.
|