Mae'n debyg gen i y dylai pobl sydd eisiau darllen am hynt a helynt teulu 'brenhinol' Lloegr trwy gyfrwng y Gymraeg ddiolch am fodolaeth Golwg360. Mae'n dra anarferol i BBC Cymru anghofio adrodd unrhyw stori am y teulu arbennig yma, ond pan mae'r stori yn rhy ddi ddim hyd yn oed i'r Bib drafferthu efo hi, mae Golwg360 yno i sefyll yn y bwlch a sicrhau bod y manylion oll yn cael eu trosglwyddo yn saff i'w darllenwyr.
Rwan, dydw i ddim yn arbenigwr ar y teulu 'brenhinol' o bell ffordd, ond os 'dwi'n deall pethau yn iawn mae'r stori yma yn ymwneud ag un o feibion ail wraig mab hynaf Elizabeth Windsor yn gorfod gadael ei dy ynghanol nos oherwydd bod yna dan mewn adeilad yn y stryd lle mae'n byw.
Mae Golwg360 hefyd o'r farn ei bod werth ailadrodd y wers a gymrodd y brenhinol berson o'r digwyddiad. Ymddengys ei fod o'r farn bod y ffaith i ddynion injan dan ddiffodd y tan a bod cymdogion heb adael iddo fo a'i deulu geisio cysgu ar y palmant yn dangos bod digwyddiadau fel hyn yn dod 'a'r ysbryd Prydeinig gorau allan o bobl'.
Hmm, naill ai bod y boi yn credu bod dynion injan dan mewn gwledydd y tu allan i Brydain yn sefyll heb godi bys yn edrych ar adeiladau yn llosgi'n llwch, tra bod cymdogion yn gadael i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan dannau gysgu o dan bontydd, neu mae'n gwneud defnydd o'r digwyddiad i hyrwyddo ei syniadau ei hun ynglyn ag uwchraddoldeb cymdeithas sifig ym Mhrydain o gymharu a lleoedd eraill.
Dydi hynny ddim yn syndod wrth gwrs, mae cenedlaetholdeb naturiol, is ymwybodol yn nodweddiadol o lawer o bobl sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr. Maent yn aml yn gwadu eu bod yn genedlaetholwyr o unrhyw fath, ond mewn gwirionedd mae'r ffordd maent yn meddwl wedi ei lywio'n llwyr gan syniadaethau cenedlaetholgar Prydeinllyd.
Ond mae'n gwestiwn arall pam yn union bod Golwg 360 yn teimlo'r angen i drosglwyddo'r nonsens gwirion yma i ni.