Monday, December 31, 2012

Cip bach yn ol i 1913

Dim byd (llawer) i'w wneud efo gwleidyddiaeth ar ddiwrnod olaf 2012, ond sylw bach ynglyn a'r newid sydd wedi digwydd yn ein byw a'n bod mewn cyfnod cymharol fyr.  Mi fydda i'n aml yn nodi bod pobl o genhedlaeth fy rhieni wedi gweld mwy o newid yn ystod eu bywydau na'r un genhedlaeth o'i blaen. 

Mae yna lawer iawn o ffyrdd o ddangos hyn - fy hoff un i ydi trwy gyfeirio at blastig.  Fedran ni ddim edrych i unman bron heddiw heb weld y stwff - ond mae'n beth cymharol ddiweddar i'w weld yn cael ei ddefnyddio mewn bywyd pob dydd.  Er bod rhai mathau o blastig wedi eu dyfeisioers  cryn gyfnod , doedd yna fawr ddim eitemau masnachol plastig ar y farchnad tan bump degau'r ganrif ddiwethaf.

Ta waeth - digwyddais ddod ar draws y lluniau hyn ychydig ddyddiau'n ol.  Er eu bod yn dyddio gyfnod cyn i fy rhieni gael eu geni dydyn nhw ddim mor hen a hynny. Maent wedi eu cymryd yn yr Iwerddon ym 1913, ac maent  yn ffenest i fyd cwbl wahanol - ond un sydd ddim mor bell a hynny i ffwrdd yn ddaearyddol, nag o ran amser chwaith.

 Gellir gweld mwy yma - ynghyd a manylion am y lluniau.
 

 
 
 
 
 
 

 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 

2 comments:

Alwyn ap Huw said...

Dydy canrif ddim mor bell yn ôl a hynny,

Wrth chwilio trwy gyfrifiad Dolgellau 1911 mae'n syfrdanol pa faint o enwau rwy'n gyfarwydd a nhw a chynifer o'r pobl sydd a'u henwau wedi eu cofrestru rwy'n eu cofio.

Mewn rhifyn diweddar o QI ymffrostiodd Stephen Fry am ysgwyd llaw a ysgydwid gynt gan Bertrand Rusell a bod modryb Rusell wedi dawnsio efo Napoleon, a gan hynny bod "cysylltiad" rhwng Fry a Bonny. Rwy'n gallu tynnu un cam allan o'r berthynas yna, mi fûm yng nghwmni'r athro Rusell yn gwylio fy Nhaid yn trwsio ei doiled tua 1966! Ond dim yn credu bod hynny'n fy nghysylltu a Napolion rhywut - ond os yn ddigon da i'r Fonwr Fry pwy ydwyf fi i wadu cyswllt?

Gan nad ydwyt ond ychydig o flynyddoedd yn iau na fi rwy'n siŵr bod gen ti gof annwyl am nifer o bobl a oedd yn fyw pan dynnwyd lluniau'r post hefyd.

Cai Larsen said...

Ors - ond dyna'r pwynt mi dubiwn - mae'r Byd wedi newid yn llwyr mewn cyfnod byr iawn.