Wednesday, December 12, 2012

Y Cyfrifiad - Rhan 1 - Strwythur Oed Cymry Cymraeg yng Ngwynedd

Fydd yna ddim llawer o flogiadau gobeithiol yn y gyfres yma, ond waeth i ni ddechrau efo un.  Isod ceir strwythur oedran y Cymry Cymraeg yng Ngwynedd.  Fel y gwelir mae'r patrwm yn 'iach' i'r graddau bod y grwpiau oedran ieuengaf yn llawer mwy tebygol o fod yn siarad Cymraeg na'r rhai hynaf.

Fedra i ddim dod o hyd i set o ddata i gymharu'n uniongyrchol efo'r tabl ond dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud bod y canrannau hyd at 14 oed ychydig yn uwch yn 2011 nag oedd yn 2001, bod cwymp bach wedi bod yng nghanrannau'r grwpiau 25 - 59 (tua 1.5%), cwymp mwy yn y grwp 60+  (tua 6%) a chwymp o tros i 8% yn y grwp 15\24.

Rwan dydan ni ddim yn gwybod beth ydi'r rheswm am yr amrywiaeth yma, ond mi fedrwn ni fwrw amcan.  Mae yna lawer o fyfyrwyr yng Ngwynedd - y rhan fwyaf ohonynt ym Mangor.  Mae'n bosibl bod y cwymp mawr yn yr oedrannau 15 - 24 yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Fangor.  Mae'n bosibl hefyd bod y cwymp yma'n cael ei chwyddo gan leihad (demograffig naturiol) yn nifer y bobl sydd yn y categori  15 - 24. 

Bydd y canlyniadau nesaf yn niwedd Mis Ionawr yn rhoi awgrym cryf i ni os ydi hynny'n wir.  Os bydd cwymp sylweddol yn y canrannau sy'n siarad Cymraeg yn wardiau Bangor, gallwn gymryd mai ffactorau sy'n ymwneud efo'r Brifysgol ydi un o'r rhesymau mwyaf am y cwymp anisgwyl o fawr yng Ngwynedd.

Byddai cwymp sylweddol yn y wardiau gwledig arfordirol hefyd yn awgrymu mai pobl o'r tu allan o Gymru yn dod i Wynedd i ymddeol sy'n gyfrifol am y cwymp yn y categori 60+. 

Cwymp ydi cwymp wrth gwrs - ond byddai cwymp sylweddol yn y cohort oed sy'n esgor ar blant yn llawer mwy difrifol na chwymp ymysg pensiynwyr, a fydd cynydd mawr ymysg myfyrwyr ddim yn gwneud llawer o niwed parhaol i'r iaith chwaith.



Oed          Canran siarad Cymraeg

3\4                         73%

5\9                         91%

10\14                     93%

15\19                     72%

20\24                     51%

25\29                      68%

30\34                      70%

35\39                      69%

40\44                      67%

45\49                      64%

50\54                      58%

55\59                      58%

60\64                      54%

65\69                      54%

70\74                      58%

75\79                      60%

80\84                      61%

85+                         62%

14 comments:

Simon Brooks said...

Ffigyrau dadlennol iawn, ac yn cadarnhau fy marn nad yw'r Cyfrifiad yn gwbl drychinebus yn y llefydd strategol bwysica. Mae'r hwch di mynd trwy'r siop yn Nyfed, ond nid Dyfed mo Wynedd na Mon na Chaerdydd. Yr hyn da ni wedi'i weld yw polareiddio daearyddol o ran yr iaith, nid chwalfa trwy'r wlad gyfan. Trwy rwdlian fod y Gymraeg di'i chwalu ymhob man, da ni mond yn rhoi gwynt yn hwyliau'r sawl sy'n tybio nad oes sail cymunedol i iaith.

Cai Larsen said...

Cytuno.

Emlyn Uwch Cych said...

Grêt yng Ngwynedd. Ond, beth am y rhai ohonon ni o Ddyffryn Aman? Mi welwn ni'r ffeithiau moel fis nesaf, ond does dim eisiau Cyfrifiad i wybod bod y gwaelod wedi cwympo mas o'r iaith ym Mrynaman.

Gyda llaw, un ystadegyn nad yw'r blogwyr wedi neidio arno eto: mae mwy o siadadwyr Cymraeg yn Sir Gâr (78,048) nag yng Gwynedd (77,000) o hyd. Dim ond o drwch blewyn, cofiwch, ac mae'n hawdd darogan mai Gwynedd fydd ar y blaen erbyn 2021!

Ioan said...

Fel hyn dwi'n ei gweld hi bore 'ma.

Y da:
* Ysgolion Gwynedd, Mon a Cheredigion – y ganran i fynu ym mhob oed yn y dair sir
* TWF – Oedran 3-4 fynu 4.6% drost Gymru
* Pobol ifanc(ish) 25-39 RCT, Caerffili a…. Conwy – fynu 4% 2.5% a 2.6%

Y drwg:
* Prifysgolion – am resymau amlwg
* Gwynedd 25-39 oed – lawr 2% – ddim yn disgwyl hwna…
* Mewnfudo anferth

A’r hull:
* Caerfyrddin – pobol hen
* Caerfyrddin – pobol ganol oed
* Caerfyrddin – pobol ifanc

Ioan said...

Emlyn Uwch Cych:
Dyffryn Aman - mi roeddech chi'n f**** yn 2001.

"Gyda llaw, un ystadegyn nad yw'r blogwyr wedi neidio arno eto: mae mwy o siadadwyr Cymraeg yn Sir Gâr (78,048) nag yng Gwynedd (77,000) o hyd."

Sori, ond efo Sir Gaer yn colli 610 bob blwyddyn, a Gwynedd yn colli 80, maen hawdd darogan mai Gwynedd fydd ar y blaen erbyn Mai 2013.

Nadolig Llawen i chi - a plis peidiwch rhoi y ffidil yn y to draw yn yr hen fro.

Emlyn Uwch Cych said...

Ioan, efallai roedd yr ysgrifen eisoes ar y mur erbyn 2001, ond doedd hi ddim eto wedi canu ar yr iaith yn Nyffryn Aman. Dyma'r ystadegau o Glanaman i Gwmllynfell:

Glanaman (Sir Gâr), 67.2%
Garnant (Sir Gâr), 69.8%
Gwaun-cae-gurwen (Castell-nedd PT), 67.9%
Brynaman Isaf (Castell-nedd PT), 68.1%
Cwarter Bach (Sir Gâr), 75.2%
Cwmllynfell (Castell-nedd PT), 68.2%

Felly, mewn poblogaeth dros 3 oed o 12,043 yn 2011 roedd 69.86% yn medru siarad Cymraeg - y nesaf peth at 70%. Ac mi roedd Brynaman Uchaf yn parhau yn iach gyda 75%.

Wrth gwrs roedd y wardiau cyfagos lawer llai calonogol hyd yn oed 11 mlynedd yn ôl (cyfanswm o 51.4% allan o 20,700 unigolyn):

Rhydaman (Sir Gâr), 62.4%
Betws (Sir Gâr), 63.1%
Pontaman (Sir Gâr), 60.5%
Pontardawe (Castell-nedd PT), 37.4%
Cwmtwrch (Powys), 54.8%
Abercraf (Powys), 45.9%
Ynyscedwyn (Powys), 52.9%
Ystradgynlais (Powys), 48.0%
Ystalyfera (Castell-nedd PT), 54.6%

Fy mhryder naturiol i yw bod yr hwch wedi mynd trwy'r siop erbyn hyn. Trist.

Ioan said...

O edrych ar bobl 25-39 oed nol yn 2001 (a'r newid ers 1991):

Chwater bach ... 65.4 (-8.5%)
Brynamman isaf .. 61.1 (-9.4%)
Cwmllynfell ... 61 (-5.4%)
Glanamman .... 59.4 (-8.7%)
etc.
A'r pedwar yna oedd yr uchaf.

Doedd na ddim rheswm i ddisgwyl gwell yn 2011, gan bod y nifer o'r plant oedd yn gallu siarad Cymraeg wedi disgyn hefyd yn 2001.

Trist iawn, neu fel mae nhw'n deud yn Aman Valley, very sad byt.


Ioan said...

"Mae'n bosibl bod y cwymp mawr yn yr oedrannau 15 - 24 yn adlewyrchu'r twf yn nifer y myfyrwyr sy'n dod i Fangor. Mae'n bosibl hefyd bod y cwymp yma'n cael ei chwyddo gan leihad (demograffig naturiol) yn nifer y bobl sydd yn y categori 15 - 24."

Mae 'na 2521 yn fwy o bobl yn yr oed 15-24 ym Mangor (2011 o'i gymharu a 2001).

Os 'di pob un yn ddi-Gymraeg, mi fydd y % o bobl yng ngweddill y sir sy'n gallu siarad Cymraeg yn codi tua 1.8%...

Os 'di 20% o'r cynnydd yn gallu siarad Cymraeg, mi fydd y % o bobl yng ngweddill y sir sy'n gallu siarad Cymraeg yn disgyn tua 1.5%.

Cai Larsen said...

Eglura'r ail osodiad - dwi ddim yn gweld beth sydd gen ti.

Cai Larsen said...

O ia, sori dwi yn ei gweld hi.

Beth os ydi'r cynnydd i gyd yn ddi Gymraeg + cwymp o 500 yn y nifer sy'n siarad Cymraeg ym Mangor?

Ioan said...

"Beth os ydi'r cynnydd i gyd yn ddi Gymraeg + cwymp o 500 yn y nifer sy'n siarad Cymraeg ym Mangor?"

Gweddill y sir fynnu 6%... Ond di hunna ddim am ddigwydd. Mae na 700 yn fwy o siaradwyr Cymraeg oed 15-24 yng Ngwynedd. Ma fasa'n gwneud sens bod tua hanner nhw ym Mangor.

Hefyd, mi roedd canlyniadau Bangor yn yr oedran 5-14 yn reit dda yn 2001 - tua 10% i fynu ar 1991 os dwi'n cofio'n iawn.

Emlyn Uwch Cych said...

Ai dyma naratif Dyffryn Aman, felly? Colli diniweidrwydd yn y 60au, colli'r Ffydd yn y 70au, colli'r pyllau yn yr 80au, colli'r iaith yn y 90au. A'r 00au; colli'r genedl?

Ioan said...

Wedi cael cyfle i edrych pa Wardiau sy'n debygol o syrthio dan 70%.

Os ti'n cymeryd byd y cwymp yn ardaloedd "Prydeinig" Gwynedd yn debyg i Geredigion (-5.3), mi fydd y gwymp yn yr ardaloedd Cymraeg tua -2.5%.
Os di pob Ward yn mynd lawr 2.5% (a fyddan nhw ddim +-5% yn normal), y wardiau dan fygythiad -
Talysarn (71.9% yn 2001)
a Felinheli (72.1%)

O dan fygythiad ysgtadegol, mae 'na 14 ward arall (llai na 77.5% yn 2001)

'Dio chwaith ddim allan o'r cwestiwn bydd 'na rai yn codi drost 70% -
Porthmadog - Tremadog,
Dolbenmaen,
Tregarth & Mynydd Llandygai a
Clynnog

Os baswn ni'n ddyn betio, mi faswn ni'n rhoi pres ar net -3.

Gyda llaw disgwyl pob un o chwech wardiau drost 70% De Cymru i ddisgyn dan 70%.

Ynys Mon - rhywle rhwng +4 a -4, efo -1 y mwya tebygol (dwi heb wneud y syms...)

Ward Uwchaled (Conwy) pwy a wyr!

Fellu o'r 59 Ward drost 70% yn 2001, mi faswn i'n proffwydo 49 (lawr 10) yn 2011.

p.s. os 'di Felinheli'n disgyn, mi fydd Caernarfon ar ffin y fro Gymraeg.

Emlyn Uwch Cych said...

Yn ôl yr addewid, dyma gymhariaeth manwl wardiau Dyffryn Aman a'r cyffiniau yn 2011 (byddaf yn ail-bostio hyn mewn lleoedd eraill lle bydd eisiau):

O Glanaman i Gwmllynfell (2001 - 69.86%):

Glanaman, 2011 - 59.8% (2001 - 67.2%)
Garnant, 58.5% (69.8%)
Gwaun-cae-gurwen, 55.8% (67.9%)
Brynaman Isaf, 60.8% (68.1%)
Cwarter Bach, 68.7% (75.2%)
Cwmllynfell, 58.8% (68.2%)

Felly, mewn poblogaeth dros 3 oed o 12,402 yn y 6 ward hyn yn 2011 roedd 60.72% yn medru siarad Cymraeg, gostyngiad syfrdanol o 9.14% ers 2001.

Wrth taflu'r rhwyd ymhellach, mae pethau yn ymddangos yn waeth fyth (cyfanswm o 43.62% allan o 23,269):

Rhydaman, 49.9% (62.4%)
Betws, 53.4% (63.1%)
Pontaman, 53.0% (60.5%)
Pontardawe, 31.0% (37.4%)
Cwmtwrch, 46.2% (54.8%)
Abercraf, 38.6% (45.9%)
Ynyscedwyn, 45.9% (52.9%)
Ystradgynlais, 39.9% (48.0%)
Ystalyfera, 46.0% (54.6%)

Mae'r Cymry Cymraeg yn leiafrif yn Rhydaman, Cwmtwrch, Ynyscedwyn ac Ystalyfera erbyn hyn, felly.