Thursday, February 01, 2018

Beth ydi'r gwahaniaeth?

Cafodd Alun Davies y sac fel gweinidog yr amgylchedd gan Carwyn Jones yn ol yn 2014 am roi pwysau ar swyddogion yn y gwasanaeth sifil i roi gwybodaeth iddo nad oedd yn gyhoeddus am y cymorthdaliadau amaethyddol oedd nifer o ACau  neu eu partneriaid yn eu derbyn.  Mae'n debyg ei fod eisiau'r wybodaeth er mwyn gwneud defnydd gwleidyddol o'r honno.  

Gwrthododd y gweision sifil roi'r wybodaeth iddo, ac wedi sawl ymgais tynnwyd sylw Carwyn Jones at y sefyllfa a bu'n rhaid i hwnnw ddiswyddo Alun Davies gan nodi ei fod yn 'gwbl anghywir' i geisio dod o hyd i'r wybodaeth. 



Cais tebyg am wybodaeth gan Fwrdd Hywel Dda nad yw'n gyhoeddus gafwyd eleni gan Carwyn Jones - ac wrth gwrs roedd y Bwrdd ond yn rhy hapus i ildio'r wybodaeth - ac yn nodweddiadol o Fwrdd Iechyd doedden nhw ddim digon trylwyr i ddod o hyd i'r wybodaeth gywir.  Defnydd gwleidyddol a wnaethwyd o'r wybodaeth anghywir a dderbyniodd Carwyn Jones wrth gwrs.

Onid yr unig wahaniaeth rhwng cais y ddau ddyn mewn gwirionedd ydi bod gweision sifil yn benderfynol o gadw gwagle rhyngddyn nhw eu hunain a'r llywodraeth, tra bod y byrddau iechyd yn barod i gael eu defnyddio'n wleidyddol gan y llywodraeth?

Hynny yw 'does yna ddim gwahaniaeth rhwng gweithredoedd na chymhelliad Carwyn Jones yn 2018 ac Alun Davies yn 2014.  Yr unig wahaniaeth ydi bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn fodlon cydweithredu efo man wleidydda gweinidogion ym Mae Caerdydd tra nad oedd y gweision sifil yn fodlon cael eu defnyddio.

No comments: