Dwi ddim yn gwybod os cafodd y llythyr effaith, ond mae Gwil wedi cynhyrchu ambell i golofn sy'n herio'r llywodraeth Lafur ers hynny. Ond yr hyn sy'n ddigri ydi bod yr ymosodiadau ar Lafur yn rhyfeddol o swil a gwan galon. Er enghraifft pan dorrodd y stori anffodus am farwolaeth Carl Sargent a'r honiadau o fwlio oddi mewn i'r llywodraeth Lafur, aeth Gwil ati i son am y stori - ond ei brif darged oedd y cyfryngau newyddion am beidio sylwi ar y bwlio honedig yn hytrach na'r sawl oedd yn gyfrifol amdano.
Mae'r ymdrech yn rhifyn cyfredol Golwg yn dangos yr un swildod rhyfedd. Mae traean gyntaf yr erthygl yn rhyw hanner beirniadol o Lafur ac mae'r gweddill yn ymysodiad ar Blaid Cymru. Mae'r gwahaniaeth yn y ddau ymdriniaeth yn ddadlennol - ac yn wir yn ogleisiol.
Ceir cyfeiriad at Alun a Glannau Dyfrdwy yn y rhan sy'n cyfeirio at Lafur - ond dydi Gwil ddim eisiau ymhelaethu pam na fyddai'n briodol i Carwyn Jones ymddangos mewn darllediad gwleidyddol cyn yr is etholiad. Mae ei sylwadau ar Lafur Cymru yn hynod gul - ymddengys ei fod yn poeni nad oedden nhw'n ddigon parod i gydnabod poblogrwydd Jeremy Corbyn yn y gorffennol, a'i fod yn gobeithio y byddant yn sefydlu dull dewis arweinydd sy'n sicrhau ethol un o ddilynwyr Corbyn.
Mae'r ymosod ar Blaid Cymru yn dangos llai o ffocws - pam bod Leanne Wood yn ail godi polisiau Sosialaidd (dydi'r cwestiwn hwn ddim yn cael ei anelu at Corbyn wrth gwrs), 'dydi ei Chymraeg hi ddim digon da i Gwil, mae Gwil yn flin oherwydd ei fod yn credu i Rhun ap Iorwerth fynegi y byddai'n fodlon cyd weithio efo'r Toriaid, a dydi Gwil ddim yn meddwl llawer o'r drefn gwynion chwaith.
Mae'r cyferbyniad rhwng arddull dau ran yr erthygl yn ddigri hefyd. Mae'r darn cyntaf yn foel ac yn bwyllog. Mae Gwil yn cael ei hun mewn cryn stad wrth 'sgwennu'r ail hanner - mae'n llawn iaith liwgar 'chware plant personol, cecru mewnol plentynaidd, milain' a chymhariaeth efo UKIP.
Os mai ffordd Gwil o ddangos y gall fod yn feirniadol o'r Blaid Lafur Gymreig ydi sgwennu truth poenus sy'n mynegi nad ydyn nhw'n ddigon tebyg i 'r Blaid Lafur Seisnig - ac os ydi'r llythyr 'sgwennais i'n gyfrifol am yr ymdrechion rhwymedig yma i feirniadu Llafur Cymru, dwi'n difaru ei 'sgwennu.
No comments:
Post a Comment