Friday, February 17, 2017

Yr Egin - ble ydan ni arni?

Mae'r stori am ail leoli S4C yng Nghaerfyrddin yn datblygu i fod yn un hynod gymhleth ac anisgwyl ac mae yna gryn dipyn o gwestiynau newydd yn codi'n ddyddiol bron.  Mae'r stori wedi bod yn y newyddion heddiw oherwydd sylwadau gan Carwyn Jones, ond mae yna ffeithiau eraill wedi dod i olwg cyhoeddus.  Mae'n siwr y byddai'n well i ni geisio gwneud synnwyr o'r holl beth, a manylu ar yr hyn rydym wedi ei ddysgu'n ddiweddar a'r cwestiynau sydd wedi codi.

Yr hyn rydym wedi ei ddysgu:

1). Roedd Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru'n deall bod 'cost niwtral' yn golygu dim colled i'r pwrs cyhoeddus.  Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yr argraff wedi ei roi gan rai yn ddiweddar - yn ddamweiniol neu fel arall - bod y niwtralrwydd yma'n ymwneud ag S4C yn unig.  Roedd bod yn 'gost niwtral' yn un o amodau'r ceisiadau o'r dechrau'n deg.

2). Roedd Carwyn Jones eisiau anfon S4C i Ddyffryn Aman, ond iddo gael ei berswadio bod Caerfyrddin yn syniad gwell oherwydd nad oedd unrhyw gostau i fod ynghlwm a hynny. Dwi ddim yn gwybod beth i'w wneud o hon - ni wnaed cais o gwbl o'r fan honno.

3). Mae Carwyn Jones yn dal 'mewn egwyddor' eisiau ad leoli yng Nghaerfyrddin.  

4). Mae rhan o'r cyllid ar gyfer y blaendal o £3m yn cael ei godi trwy werthu swyddfeydd S4C yn Llanishen.

5). Mae bellach yn amlwg bod yr enwog £3m yn rhan o gais gwreiddiol y Drindod - 'doedd o ddim yn rhywbeth brys i lenwi bwlch ariannol yng nghynllun yr Egin.

Cwestiynau

1). Faint yn union mae'r Egin yn mynd i'w gostio?  Y ffigwr sy'n cael ei drafod yng nghyd destun S4C ydi £12m - £3m i ddod fel blaendal gan S4C, £6m gan Lywodraeth Cymru a £3m o adnoddau Coleg y Drindod.  Serch hynny mae'r cofnod hwn ynglyn a chais am gyllid o dan y cynllun City Deal yn dangos bod cynllun i wario £24.3m.




Rwan mae'n bosibl bod y cynllun i fynd rhagddo dros gyfnod maith gan gymryd mwy nag un cam, ond mae'r ffigwr newydd yn cymhlethu pethau - ac yn codi cwestiwn newydd.

2). O'r £24.3m sydd ei angen rydym yn gwybod bod S4C am ddarparu £3m.  Mae cais wedi ei wneud i Lywodraeth Cymru am £6m, ond dydi hwnnw heb ei gadarnhau eto.  Gwnaed cais arall o £5m trwy gynllun City Deal - ond mae'n ymddangos nad ydi hwnnw wedi ei gadarnhau eto chwaith.  Mae hyn yn gadael £10.3m yn weddill - o ble mae hwnnw'n dod?  

3). Oedd y cyrff eraill a wnaeth geisiadau yn ymwybodol y gellid cael £3m o flaendal rhent gan S4C?

4). Faint o swyddi newydd fydd y datblygiad yn eu creu?  Mae yna pob math o ffigyrau yn cael eu taflu o gwmpas - 940 yma er enghraifft, 150 yma, 507 yma ond 203 yn y ddogfen uchod.









3 comments:

Anonymous said...

Datguddiadau trylwyr a manwl tu hwnt. Ond tybed, pe gwireddwyd bodolaeth Cymru annibynnol, oni ddisgwylir wedyn i ranbarthau daeryddol ac arweinwyr pleidiau gwahanol Cymru o hyd geisio hwb a hunan fudd eu cymeradwyaeth rhagylygon barn ffafriol,
i besgi gwartheg gwleidyddol buarth eu hunain fel petai, gan ddweud mai fi neu ni yn unig sy'n dryw i chi a "nhw sy'n drewi"? - a dyma helynt neu golledion ariannol i brofi hwn a'r llall gan addo dyddiau da ymlaen?
Ad-leoli pencadlys..ad-leoli penarglwyddiaeth.. ad-leoli cecru gwleidyddol Ond mi ddaw y math yma o beth i fyny lle a sut bynnag y bo^m I bryd i'w gilydd.
nage? Rhaid i ranbarth neu rywun ennill weithiau.gan siomi eraill
Neu hyd yn oed o dderbyn "rhifyddeg perffaith" yn bodoli i fireinio achos am y Gogledd fel darpar-bencadlys, a fyddai Sir Gar yn hapus i golli'r peth i'r Gogledd mewn Cymru Rydd?

Cai Larsen said...

Wel, mae'r hanes ad leoli S4C yn wahanol i'r cwestiwn o leoli sefydliadau Llywodraeth Cymru - mater i S4C ydi o.

O safbwynt Llywodraeth Cymru mae pethau'n syml yn y bon. Maen nhw angen polisi o ddatganoli eu sefydliadau, strategaeth sut i wneud hynny a meini prawf sy'n sicrhau bod y strategaeth yn cael ei gwireddu.

JonGlyngo said...

Mae S4C angen talu £3 miliwn i'r Egin, gan na fydd S4C yn gallu gwerthu yr HQ yn Llanisien sy werth £3 miliwn nes bod y staff technegol yn gallu symud i adeilad newydd y BBC (yn 2020) o le fydd y 3 miliwn yn dod? Budget rhaglenni?
Mae S4C yn cynnig 45c y filltir i'r 50-55 staff am 6 mis o deithio (cyfanswm o £375k) iddyn nhw gael trio gweithio yn yr Egin gyntaf cyn derbyn tal diswyddo, cyfanswm o £1.5 miliwn ychwanegol os yw 50 o staff yn dewis aros yng Nghaerdydd ar ddiwedd y cyfnod prawf. O le fydd y £1.9 miliwn yma'n dod? Budget rhaglenni?