Friday, February 03, 2017

Yn ol ar ddec S4C

Reit, yn ol a ni at ddec llawen S4C.

Ymddengys bod un o'r paneli o 'arbenigwyr' a benodwyd gan Edwina Hart i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion economaidd - wedi cryn drafod a doethinebu - wedi dod i'r un casgliad a bron i bawb arall y tu hwnt i Gaerfyrddin a datgan bod y syniad o glwstwr creadigol ar safle Coleg y Drindod yn - wel - gwbl ddiwerth.  

Pwysigrwydd ehangach hyn ydi bod y casgliad yn effeithio ar benderfyniad rhyfedd S4C i adleoli ar y safle.  Chwi gofiwch i'r sianel ystyried aros ymhle mae hi yng Nghaerdydd, mynd i'r Egin ar safle Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin neu ddod i safle'r Galeri yng Nghaernarfon.  Llunwyd ceisiadau gan Gyngor Gwynedd a Choleg y Drindod a phenderfynodd S4C ar safle'r Drindod.  Roedd hyn yn ymddangos yn rhyfedd i lawer ohonom ar y pryd -  mae Caernarfon yn brif ddinas answyddogol i'r Gymru Cymraeg gyda degau o filoedd o Gymry Cymraeg naturiol - gwylwyr S4C yn byw oddi fewn i radiws o ddeg milltir, ac mae hefyd yn ganolfan i'r diwydiant teledu.  Roedd cais Cyngor Gwynedd hefyd yn mynd cryn dipyn ymhellach na'r amod o fod yn 'gost niwtral' i S4C - neu mewn geiriau eraill roedd y sianel yn cael uffern o fargen dda.  

Ta waeth - symud i fyny'r M4 i Gaerfyrddin oedd penderfyniad y sianel - a chafwyd cryn dipyn o sbloets a dathlu yn y Drindod.  Beth bynnag, dechreuodd pethau syrthio'n ddarnau yn weddol sydyn.  Ymddengys bod cynllun ariannol cais y Drindod yn cymryd bod grantiau ar y ffordd o Ewrop - ond dydyn nhw ddim.  Chwythwyd twll gwerth £4m i £6m yn y cynllun - ond mae'n ymddangos bod y Drindod wedi addo dod o hyd i'r pres ychwanegol hyd yn oed os nad oedd y grant o Ewrop ar gael.  Dydyn nhw heb wneud hynny eto - ond maen nhw wedi gofyn ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i lenwi'r twll.  Mae'n amhosibl gweld y cais hwnnw'n cael ei ganiatau yn wyneb adroddiad heddiw.

Gwnaed cais hefyd i S4C dalu rhent o flaen llaw - £3m o rhent a bod yn fanwl gywir - ac yn rhyfeddol cytunodd y sianel i wneud hynny.  Rwan dydan ni ddim yn gwybod os bydd y Drindod yn llenwi'r twll du ariannol o'i adnoddau ei hun, ond os ydi hi mi fydd S4C wedi dod i delerau talu rhent unigryw ac anhygoel er mwyn adleoli i glwstr sy'n cael ei ystyried i fod ag unrhyw fudd ieithyddol, addysgol na chymdeithasegol  ynghlwm gan banel sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.  

Fedra i ddim meddwl am gymaint ag un rheswm pam y dylai S4C wahanu a £3m o dan yr amgylchiadau hyn.  Mae'r holl beth yn hollol boncyrs.

1 comment:

Anonymous said...

Trist gweld Blog Menai yn debyn sylwadau 'di-duedd' Ron Jones Tinopolis fel efengyl.

Wrth gwrs does gan Tinopolis ddim oll i'w golli o greu adnoddau teledu yn yr Egin. Falle fod Adam Price yn deall y sefyllfa'n well na Cai bach plwyfol?