Thursday, July 28, 2016

Tybed os ydi Owen am i Gymru gael tim pel droed neu rygbi?

1 comment:

Anonymous said...

" Such Distinction "- Mathew Maynard, Hugh Morris a Peter Walker ? . Fel y dywed yr ystrydeb criced : ' Look in the book ' . Tydw i ddim yn meddwl fod Owen Smith cweit yn deall y gair 'Distinction', fel y buasai unrhyw un a ddilynodd ei yrfa wedi hen sylweddoli .
Yn anffodus, y rhwystr mwyaf i fodolaeth tim Cymru yw clwb a chwaraewyr Morgannwg. Mae hyn yn eironig oherwydd y cefnogaeth cryf- a chenedlaetholgar - sydd i Forgannwg ledled Cymru. Ni roddir unrhwy ystyriaeth i dim cenedlaethol Cymru cyhyd ac y bydd Morgannwg yn parhau i fod yn dim proffesiynol o fewn Lloegr. (Rheolau y corff rheoli rhyngwladol, sef India, Awstralia a Lloegr i bob pwrpas ). Buasai rhai ohonom, fel cenedlaetholwyr, yn fodlon aberthu Morgannwg er mwyn Cymru, ond (yn anffodus) nid cricedwyr proffesiynol mohonom.
Bu bygythiad enfawr i dim peldroed Cymru (A'r Alban a Gogledd Iwerddon) yn y gorffennol o du gwledydd Africa o fewn FIFA. Dyna'r prif reswm y sefydlwyd cyngrair cenedlaethol Cymru rhyw chwarter canrif yn ol - nid oedd rhyw lawer o alw mewnol amdano, ond profwyd y penderfyniad yn un doeth bellach. Yr oedd y tim cyfun a gymrodd ran yn y Gemau Olympaidd diwethaf yn fygythiad hefyd. Tybiaf i'r llwyddiant diweddar ddiogelu y statws arwahan am beth amser.