Saturday, July 09, 2016

Symud ymlaen

Roedd yn ddiddorol bod y cyfarfod efo Leanne Wood yn y Galeri, Caernarfon yn orlawn - yn llythrennol.  Pwrpas y cyfarfod oedd trafod y map mae'r Blaid yn ei llunio iddi ei hun, ac i Gymru tros yr ychydig flynyddoedd nesaf yn sgil yr hyn ddigwyddodd yn refferendwm Ewrop.  Mae'n un o gyfres o ddigwyddiadau tebyg mewn gwahanol rannau o Gymru, a byddant yn dod i ben gyda chynhadledd arbennig yng Nghaerfyrddin, ddydd Sadwrn nesaf i drafod y ffordd ymlaen.  

Mae peth gwaith manwl wedi ei wneud ar y map - ac mae llawer mwy eto i'w wneud.  Ond mae'r cyferbyniad rhwng ymateb Plaid Cymru a Llafur yn boenus o glir.  Mae'r naill blaid wedi ymateb yn gyflym gan hawlio'r agenda, tra bod y llall ar lefel Prydeinig wedi troi arni hi ei hun, ac ar lefel Cymreig wedi gwthio ei phen yn dwfn, dwfn i mewn i'r tywod, melyn, meddal cyfforddus.  




1 comment:

Anonymous said...

1.Ai gwir yr hol honniadau am dwf aelodaeth y Blaid Lafur yn sgil yr helbul Corbyn, Eagle ayb? Oes 'na ddata penodedig ar gael yng Nghymru hefyd?
2. Ymgyrch ymaelodi y Blaid?