Friday, May 22, 2015

Refferendwm Gweriniaeth Iwerddon

Fel dwi'n 'sgwennu'r geiriau yma, dwi mewn cwch ar y ffordd i'r Iwerddon.  Mi gadwn ni at y drefn arferol pan dwi i ffwrdd - tipyn bach o'r blogio arferol ynghyd a blogio ynglyn a gwleidyddiaeth y wlad dwi'n ymweld a hi.  Fydd yna ddim blogio am y gwyliau fel y cyfryw - blog gwleidyddol ac nid blog gwyliau ydi Blogmenai.  


Beth bynnag, gan bod heddiw yn ddiwrnod refferendwm yn y Weriniaeth, waeth i ni ddweud pwt am hynny.  Refferendwm ynglyn a hawliau priodi cyfartal ydi un heddiw, ond mae refferenda yn hynod gyffredin yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Y rheswm am hynny ydi bod gan y wladwriaeth gyfansoddiad ysgrifenedig na all gael ei addasu gan y Dail na'r llysoedd.  Felly mae'n rhaid gofyn i'r etholwyr cyn newid y cyfansoddiad.  Ceir refferenda ynglyn a phob math o bethau, ond mae'r rhai mwyaf diddorol - a chynhenus - yn syrthio i un o ddau gategori.  Mae materion yn ymwneud a sofraniaeth y wlad yn syrthio i un o'r categoriau hyn, ac mae materion  cymdeithasol a theuluol yn syrthio i'r ail gategori.  Er enghraifft mae addasiadau cyfansoddiadol sy'n ymwneud ag ysgariad neu erthyliad yn syrthio i'r ail gategori, tra bod rhai sy'n ymwneud a throsglwyddo pwerau i'r Undeb Ewrpoeaidd yn syrthio i'r cyntaf.  

Mae'r patrymau pleidleisio yn ddiddorol, ac maen nhw'n tanlinellu holltau traddodiadol mewn cymdeithas Wyddelig.  Gallwch fod yn gwbl siwr y bydd Donegal North East wedi pleidleisio Na pan fydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri fory - hyd yn oed os ydi pob etholaeth arall yn y wladwriaeth wedi pleidleisio Ia.  Mae'r etholaeth yn hynod geidwadol ac yn pleidleisio yn erbyn unrhyw lacio ar ethos Babyddol y Weriniaeth - yn ddi eithriad. Mae'r rhan fwyaf o etholaethau'r Gorllewin efo'r un tueddiad, yn ogystal a'r etholaethau gwledig ym mherfedd y wlad.   Gallwch hefyd fod yn siwr y bydd etholaethau cefnog, trefol fel Dublin South East neu Dun Laoghaire yn pleidleisio Ia.  Maent yn etholaethau rhyddfrydig iawn.  

Yr hyn sy'n ddiddorol fodd bynnag ydi patrymau pleidleisio'r etholaethau dosbarth gweithiol trefol - llefydd fel Dublin North West, Dublin South West neu Cork North Central.  Mewn refferenda sy'n ymwneud a materion cymdeithasol maent yn tueddu i bleidleisio efo'u cymdogion mwy cefnog a rhyddfrydig.  Ond mewn materion sy'n ymwneud a sofraniaeth cenedlaethol maent yn pleidleisio'n wahanol.  Mewn refferenda felly mae'r ceidwadwyr Gorllewinol yn pleidleisio yn erbyn glastwreiddio sofraniaeth y wlad, ac mae'r dosbarth gweithiol trefol yn pleidleisio felly hefyd.  Dydi materion felly ddim cyn bwysiced i bobl dosbarth canol, ac maent yn fwy parod i bleidleisio tros drosglwyddo pwerau i Ewrop ac ati.

Mae hyn yn adlewyrchu hen batrwm - ceidwadwyr Gorllewinol a phobl dosbarth gweithiol trefol oedd yn bennaf gyfrifol am ymladd y rhyfel a greodd y Weriniaeth.  Mae'n rhyfedd fel mae hen batrymau hanesyddol yn dod yn ol i'r wyneb mewn gwleidyddiaeth gyfoes.

No comments: