Saturday, May 23, 2015

Etholiad arall Iwerddon

Er nad ydi'r cyfri wedi dechrau mewn gwirionedd eto yn Iwerddon, mae'n edrych fel petai'r ochr Ia am ennill yn hawdd.  Mae'r Gwyddelod yn dda iawn am ddarogan canlyniadau refferenda o'r broses ddilysu pleidleisiau.  Mae bod yn tallyman yn dipyn o grefft yma.

Mae yna ddwy refferenda yma, gydag un yn cael llai o sylw na'r llall.  Mae'r ail yn ymwneud ag iselhau'r oedran lle gall rhywun gael ei ethol yn arlywydd.  Mae yna hefyd is etholiad, a gallai goblygiadau honno fod yn ddiddorol.



Mae'r etholiad yn etholaeth wledig Carlow Kilkenny, ac mae'n debygol mai Fianna Fail fydd yn ei hennill.  Mi fydd hynny'n creu penawdau oherwydd y bydd yn creu canfyddiad bod y blaid honno ar ei ffordd yn ol ar ol cyfnod o gywilydd a gwarth gwleidyddol.  Yr unig ganlyniad arall tebygol ydi buddugoliaeth i Fine Gael, y blaid sy'n arwain llywodraeth y Weriniaeth.  Petai hi yn ennill gallai arwain at etholiad cyffredinol yn yr hydref yn hytrach nag yn ystod y flwyddyn nesaf.  Ond o ran dyfodol hir dymor gwleidyddiaeth Iwerddon mae perfformiad Sinn Fein yn fwy diddorol.

Dydi'r etholaeth yma ddim yn dir ffafriol i Sinn Fein - mae ymhell o'i chadarnleoedd yn yr etholaethau sy'n agos at y ffin efo Gogledd Iwerddon, a does yna ddim canolfanau trefol mawr yno chwaith - mewn llefydd felly mae'r blaid wedi bod yn tyfu yn ddiweddar.  Mewn is etholiad am un sedd yn Iwerddon mae'r ymgeisydd buddigol angen 50%+1 o'r bleidlais - ar ffurf pleidleisiau cyntaf, a phleidleisiau eilaidd.  Mae'r Iwerddion yn defnyddio dull STV i bleidleisio.  Mae'r etholwr yn rhestru'r ymgeiswyr gan roi 1 wrth ochr ei hoff ymgeisydd, 2 wrth yr ail, 3 wrth ymyl y trydydd ac ati.  Fydd yna byth 50%+1 i SF yn rhywle fel Carlow Kilkenny.  Ond mewn etholiad cyffredinol mae Carlow Kilkenny yn etholaeth 5 sedd.  Tua 16% o'r bleidlais (cynradd ac eilaidd) sydd rhaid ei ennill o dan amgylchiadau felly.

Petai SF yn ennill 15% i 20% o'r bleidlais gyntaf yma, byddai'n awgrymu eu bod am ennill sedd yn gyfforddus yma yn yr etholiad cyfffredinol.  Os oes yna sedd hawdd i SF yn Carlow Kilkenny, mae yna lawer o seddi ychwanegol iddynt ar hyd a lled y Weriniaeth. Mae'n bosibl y gallant ennill 3 yn rhai o"r etholaethau pum sedd o amgylch y ffin.  Gyda'r ail blaid lywodraethol - Llafur - yn debygol o fynd yr un ffordd a'r Lib Dems, mae goblygiadau pell gyrhaeddol posibl i dirwedd gwleidyddol y Weriniaeth.

Mae patrwm gwleidyddol y Weriniaeth wedi bod yn hynod o anarferol ers ei sefydlu.  Tyfodd y prif bleidiau gwleidyddol o'r Rhyfel Cartref, gyda'r ochr oedd o blaid y cytundeb yn datblygu i blaid Fine Gael a'r ochr a wrthwynebodd y cytundeb yn datblygu i Fianna Fail.  Mae'r ddwy blaid yn debyg - dwy blaid geidwadol sydd a pholisiau economaidd ac agweddau cymdeithasol tebyg iawn i'w gilydd.

Os bydd Sinn Fein (ac annibynwyr adain chwith eraill) yn gwneud yn dda yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gallai hynny orfodi Fine Gael a Fianna Fail i fynd i lywodraeth efo'i gilydd.  Gallai hynny'n hawdd ail strwythuro'r tirlun gwleidyddol, a chre patrwm gwleidyddol Chwith / De mwy nodweddiadol o wleidyddiaeth Ewrop erbyn yr etholiad cyffredinol ar ol yr un nesaf - bron i ganrif ar ol sefydlu'r wladwriaeth.

No comments: