Saturday, March 14, 2015

Llongyfarchiadau i griw Llanelli


Byddwch yn cofio i mi roi hysbys bach yn gynharach i ymgyrch Plaid Cymru Llanelli i godi £2,000 tuag at ymgyrch Vaughan.  Mae'n dda gen i ddweud i'r targed hwnnw bellach gael ei gyfarfod.

Yn wahanol i'r Blaid Lafur a'r pleidiau unoliaethol eraill 'dydi'r Blaid ddim ym mhocedi corfforaethau mawr, felly mae'n rhaid iddi godi pres trwy fynd ar ofyn ar gyfraniadau llai gan unigolion.

O gael ei ethol mi fyddai Vaughan yn aelod gweithgar - fel mae'r ymgyrch yn ei ddangos, ac mi fyddai'n aelod o ansawdd sydd o blaid pobl Llanelli - fel mae ei araith i'r gynhadledd yn ei awgrymu.

Felly beth am wneud y £2,000 yn £3,000?  Mae hon yn ymgyrch sydd werth ei chefnogi.

Gallwch gyfrannu yma.

1 comment:

Unknown said...

Gwn ar ôl edrych ar y bobl sydd wedi rhoi pres i'r cronfa bob llawer ohonynt o'r gogledd-orllewin. Hoffwn ddiolch i BAWB sydd wedi cyfrannu. Fydd chwalu 93 o flynyddoedd o ddominyddiaeth Lafur ddim yn hawdd OND mae hwn yn HELP SYLWEDDOL. DIOLCH!