Wednesday, March 04, 2015

Paradocs etholiadol yr Alban

Mae'r polau piniwn yn yr Alban yn eithaf cyson - mae nhw'n awgrymu gogwydd anferth tuag at yr SNP - gogwydd fyddai yn rhoi hyd at 50 o'r 59 sedd sydd yn y wlad iddynt. Mae'r pol diweddaraf a gomisiynwyd gan Ashcroft mewn seddau a bleidleisiodd 'Na' yn atgyfnerthu'r canfyddiad yma.  Mae'r pol hwnnw yn awgrymu y byddai sedd saffaf yr Alban( (sedd Gordon Brown) yn syrthio i'r SNP ar ogwydd o 28%.  Byddai sedd Charles Kennedy hefyd yn syrthio ar ogwydd o 20%. 

Ac eto mae'r marchnadoedd betio ac arbenigwyr fel ei gilydd yn darogan y bydd yr SNP yn cael llawer llai o seddi - llai na 30 o bosibl.  A bod yn deg a'r betwyr a'r arbenigwyr mae'n hawdd gweld pam eu bod yn gyndyn o ddilyn y polau - mae'r gogwydd sy'n cael ei awgrymu yn hynod anarferol - felly mae pobl yn cael y canlyniadau sy'n cael eu hawgrymu yn anodd iawn i'w credu.  

Ond y gwir amdani ydi bod yna ganlyniadau tebyg i'r rhain wedi digwydd o'r blaen - yn etholiadau Holyrood, 2011. Roedd canran pleidlais yr SNP bryd hynny yn debyg i'r hyn a awgrymir gan y polau heddiw ar gyfer mis Mai.  Mae'r SNP eisoes wedi gwneud yn dda iawn mewn etholiadau Albanaidd.  Yr hyn mae'r refferendwm wedi ei wneud ydi Albaneiddio gwleidyddiaeth yr Alban yn ei gyfanrwydd - mae'r Etholiad Cyffredinol yn cael ei hymladd ar dirwedd gwleidyddol Albanaidd.  Dim ond yr SNP sy'n mynd i ennill o dan amgylchiadau felly. 

Ac wrth gwrs, mae yna wers yma ynglyn a sut i symud gwleidyddiaeth Cymru yn ei flaen. 





No comments: