Monday, March 02, 2015

Anhrefn yng Nghyngor Caerdydd - eto fyth

Os oes rhywun yn amau maint y twll mae'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd wedi cael eu hunain ynddo, a dwyster y casineb rhwng y carfannau 'does ddim angen edrych ymhellach na llythyr cyn arweinydd Llafur ar y cyngor - Ralph Cook i'r arweinnydd presenol - Phil Bale.



I am surprised that you seem unable to appreciate that if you kick a big dog enough times and ignore its growls of displeasure, it will eventually rip the aggressor's throat out.


You and your Cabinet (and the Group Officers) have signally failed to heed our warnings, some of you have completely failed to understand and live up to your responsibilities and collectively the entire Cabinet as well as the Group Officers have failed to convince me that any of you have the ability to take this Group and Council forward out of the hole into which you have lead us.

The call from beyond the Labour Group is for you to stand down, privately I support that call.

After the weekend I fully expect my position to be shared (if it is not already) by the 12 "Labour rebels" so you cannot win the motion of no confidence.

I urge you not to put the Labour Group through any more trauma and to announce your resignation today.  

Dydi ffraeo mewnol ymysg y Blaid Lafur yng Nghaerdydd ddim yn beth newydd wrth reswm - ond mae pethau wedi mynd i eithafion, hyd un oed o dan safonau Llafurwyr Caerdydd.  A chymryd y bydd Phil Bale yn syrthio - ac mae'n edrych fel petai hynny am ddigwydd - mi fydd rhaid i Lafur ddewis arweinydd newydd - ac o garfan Bale ac nid o garfan Cook, ac mi fydd yna hyd yn oed mwy o ddrwg deimlad na sydd yna ar hyn o bryd hyd yn oed.  Mi fydd yna ymdrech gan y Blaid Lafur Gymreig i droi breichiau, ond dydi hi ddim yn bosibl iddynt ddisgyblu carfan Cook - mi fyddai hynny'n arwain at golli rheolaeth ar gyngor prif ddinas Cymru.  

Fedra i ddim meddwl am smonach i gymharu a hon yn hanes llywodraeth leol yng Nghymru. 


4 comments:

Anonymous said...

Mae o'n ddifrifol. Mae gan garfan Goodway - criw annymunol iawn o bobl ar y cyfan - ddigon o ddylanwad i ddisodli arweinydd, mae'n anoddach dweud a allan nhw gael un o'u carfan nhw i mewn yn ei le. Dydi o ddim yn amhosib, roedd ethol Bale yn y lle cyntaf yn hollol annisgwyl, felly mae 'na garfan yn y canol hefyd a allai bleidleisio y naill ffordd neu'r llall.

Mae'n biti achos yr etholwyr sy'n colli allan yn y diwedd. Does neb yn gallu dweud bod Bale wedi bod yn rhy boblogaidd ymhlith pobl Caerdydd, ond mae ei galon yn y lle iawn ac mae o'n wleidydd didwyll - yn gwbl groes i nifer o gynghorwyr Caerdydd. Daeth i'r amlwg yng nghyfarfod y gyllideb fod 'na rai o'i wrthwynebwyr yn ei blaid ei hun wedi bod yn cynllwynio yn ei erbyn o'r foment gafodd ei ethol, a chreu'r syrcas a welwyd yn fwriadol ac yn fanwl ddigon. Mewn ffordd, wnaeth y gwrthbleidiau eu gwaith nhw drwy gynnig mosiwn o ddiffyg hyder. Bron yn gynllwyn perffaith.

Ta waeth, beth bynnag wneith ddigwydd rŵan, ymddengys i bethau symud o ryfel cudd a chynllwynio i gasineb agored. Fydd gweddill y weinyddiaeth hon yn gwbl ansefydlog. Fel arfer, dwi'n ddigon hapus i weld Llafur yn rhwygo'i hun yn racs ond unig ganlyniad y peth fydd andwyo pobl Caerdydd a nifer fawr sy'n gweithio i'r Cyngor.

Anonymous said...

Er eglurdeb, parthed fy neges uchod, carfan Goodway yw carfan Cook.

Cai Larsen said...

Y broblem pan mae yna llwyth o gasineb mewn sefyllfa ydi bod y canol yn diflannu - mae pawb yn gorfod cymryd ochr.

Mae'n bosibl y bydd y grwp yn ffeindio rhywun yn y canol - ond mi fydd hi'n uffernol o anodd.

Anonymous said...

"I urge you not to put the Labour Group through any more trauma and to announce your resignation today"

Poeni am ei blaid nid y ddinas. Typical Llafur.