Sunday, November 03, 2013

Cameron, Carwyn a datganoli pwerau trethiant


Mae'n anodd peidio chwerthin wrth weld agweddau'r ddwy brif blaid unoliaethol tuag at ddatganoli pwerau trethu i Fae Caerdydd.

Mae'r Toriaid - sydd yn hanesyddol wedi gwrthwynebu datganoli bellach eisiau cymryd y cam eithaf radicalaidd o ddatganoli pwerau tros dreth incwm tra'n gwrthwynebu'r cam llawer llai arwyddocaol o ddatganoli treth meusydd awyr.  Mae Llafur yn siomedig iawn nad ydyn nhw'n cael eu dwylo ar y dreth llai arwyddocaol tra'n dweud nad ydyn nhw eisiau'r grym i amrywio treth incwm tan bod Barnett wedi ei ddiwygio - rhywbeth y cafodd y Blaid Lafur dair blynedd ar ddeg i'w wneud tra'n rheoli yn San Steffan.

Rwan mae'r safbwyntiau hyn yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn afresymegol ac yn anisgwyl - ond dydyn nhw ddim.  Mae'r ddwy blaid yn gadael i'w hagweddau tuag at ddatganoli pwerau trethu gael eu gyrru gan ystyriaethau etholiadol.  Mae Carwyn Jones eisiau'r grym i ostwng treth meysydd awyr er mwyn gwneud Maes Awyr Caerdydd yn fwy cystadleuol.  Dydi'r Toriaid ddim am i hynny ddigwydd oherwydd y byddai hynny ar draul Maes Awyr Bryste.  Mae yna lawer o bleidleisiau Toriaidd ac etholaethau cystadleuol yn Ne Orllewin Lloegr. Felly dydi'r dreth ymylol yma ddim am gael ei datganoli.

Mae'r blog yma wedi tynnu sylw dro ar ol tro bod y diffyg cysylltiad rhwng gwariant cyhoeddus a threthiant yng Nghymru yn fanteisiol iawn i'r Blaid Lafur yma.  Eu prif apel ydi eu gallu i ofyn am fwy a mwy o wariant cyhoeddus heb orfod codi ffadan goch o dreth ar neb i godi'r dreth i wneud hynny.  Byddai sefydlu perthynas rhwng gwariant a threthiant yn tynnu'r mat o dan draed Carwyn Jones a'i blaid - felly mae Cameron wedi dal ei drwyn a chynnig grym tros drethiant i Gaerdydd.  Mae'n werth hyd yn oed datganoli chwaneg o rym i Gymru os ydi hynny'n tanseilio Llafur.

Dydi hi ddim yn hawdd i Carwyn Jones efelychu Hain a dweud y byddai cael yr hawl i drethu yn difa'r genedl, neu beth bynnag.  Mae'n dweud ei fod eisiau'r pwerau i fenthyg er mwyn gwella is strwythur yr wlad -  ond mae am fod yn anodd cael benthyciadau arwyddocaol heb ddangos gallu i godi refeniw ychwanegol - dydi treth stamp ddim am wneud llawer o wahaniaeth yn y cyswllt yna.   Felly mae'n cysylltu derbyn grym tros dreth incwm efo Barnett - er nad oes yna unrhyw sail rhesymegol i wneud hynny. Dydi Carwyn ddim eisiau y pwer tros dreth incwm tan bod Barnett wedi ei ddiwigio - a does neb yn gwybod i sicrwydd  beth sydd am ddigwydd i Barnett. 

Ond rydan ni'n gwybod petai trefn sy'n adlewyrchu angen yn glosiach yn cael ei mabwysiadu yna byddai'r Alban ar ei cholled a Chymru ar ei hennill.  O ganlyniad fydd yna ddim byd yn digwydd tan ar ol refferendwm yr Alban - mae 'caredigrwydd' Barnett tuag at yr Alban yn rhan greiddiol o'r ddadl uniliaethol.  Ond dydi hi ddim yn sicr o bell ffordd y bydd newid wedyn - dydi hi ddim am fod yn hawdd i'r pleidiau unoliaethol newid setliad ariannol yr Alban er gwaeth ar ol treulio blwyddyn yn defnyddio'r setliad yna fel craidd eu dadl i bobl fotio 'Na'. A beth bynnag mae yna fwy o Aelodau Seneddol Albanaidd na Chymreig.  Y fathemateg oedd yn  gyfrifol am i lywodraethau Llafur 1997 - 2010 beidio a thrafferthu edrych ar Barnett.  

Felly mae Cameron yn ddigon parod i ddatganoli rhai trethi i Gymru oherwydd ei fod yn gweld mantais etholiadol mewn gwneud hynny.  Dydi Carwyn ddim eisiau derbyn cyfrifoldeb arwyddocaol tros drethiant am ei fod yn gweld perygl etholiadol o wneud hynny - er gwaetha'r ffaith bod gwrthod y pwerau yn cyfyngu ar ei allu i wneud rhai o'r pethau mae'n dweud ei fod am eu gwneud er budd y wlad.  

Mewn geiriau eraill mae'r ddwy blaid fawr unoliaethol yn rhoi eu budd etholiadol nhw eu hunain yn gyntaf a budd a lles Cymru yn ail.  Hen, hen stori mae gen i ofn.  

No comments: