Saturday, November 30, 2013

Gogledd Iwerddon - moesoli cyhoeddus ac anfoesoldeb cudd

Mae'n siwr ei bod yn ddigwyddiad gweddol anarferol i gael blogiad yma yn cytuno efo rhywbeth a ddywedwyd yn Golwg - er a bod yn deg dwi yn tueddu i gytuno efo Dylan Iorwerth fel rheol.  Anghytuno efo'r un sydd wedi mynd trwy ei fywyd yn cael ei waldio a'i golbio gan bobl anhysbys  oherwydd ei ddewrder, yr un sy'n ymgyrchu ar y stryd yn erbyn gweithredu polisiau ei blaid ei hun a'r un sydd wedi treulio cyfnod o'i fywyd yn cael ei erlid gan ffasgwyr o Ogledd Cymru fydda i gan amlaf.

Ta waeth, rydan ni'n crwydro.  Tynnu sylw at gyn filwyr ar raglen Panorama yn cyfaddef iddynt ladd pobl yng Ngogledd Iwerddon mewn amgylchiadau  ymhell y tu hwnt i'r cyd destun lle gellid gwneud hynny yn gyfreithlon mae Dylan.  Mae'n  cysylltu'r ymddygiad yma efo safonau dwbl sydd i'w gweld ar hyn o bryd mewn nifer o faterion rhyngwladol.

Yr hyn sydd angen ei wneud yn glir fodd bynnag ydi mai un achos cymharol fach o gam ymddwyn gan luoedd diogelwch Prydain yng Ngogledd Iwerddon a godwyd gan y rhaglen - mae yna lawer  o rai eraill.  Amlinellaf bedwar isod.  Dydi'r rhestr ddim yn gynhwysfawr o bell ffordd.
  • Cydweithrediad rhwng aelodau o'r UVF  - grwp parafilwraidd teyrngarol - a'r RUC (y gwasanaeth plismona) a'r UDR (uned o'r Fyddin Brydeinig oedd yn cael ei recriwtio yn lleol) yn Ne Armagh a Tyrone yn y saith degau cynnar.  Mae'n debyg i weithgareddau'r grwp yma arwain at farowlaethau tua 120 o bobl rhwng 1972 a 1976.
  • Cyflafan Ballemurphy - lladdwyd deg o bobl gan filwyr o Gatrawd Parasiwt y fyddin Brydeinig ar stad dai Ballemurphy tros gyfnod o dri diwrnod yn 1971.  Roedd y fyddin wedi mynd i mewn i nifer o ardaloedd Pabyddol ar y pryd i bwrpas carcharu heb achos llys pobl roeddynt yn eu hamau o fod yn perthyn i grwpiau parafilwrol Gweriniaethol.  Arweiniodd hyn at o bosibl yn anhrefn gwaethaf erioed ar strydoedd Gogledd Iwerddon.  Mae'r fyddin yn honni mai ymateb i bobl yn saethu atynt oeddynt tra bod teuluoedd y sawl a laddwyd yn honni nad oedd eu hanwyliaid yn rhan o unrhyw saethu.  Mae'r awdurdodau wedi gwrthod cynnal ymchwiliad oherwydd eu bod o'r farn y byddai gwneud hynny yn groes i fuddiannau'r cyhoedd.  Aeth yr un gatrawd ymlaen i gynnal cyflafan Bloody Sunday yn Derry ychydig fisoedd yn ddiweddarach.  
  • Gweithgareddau y FRU - uned o'r fyddin Brydeinig oedd yn gweithredu Farics Thiepval ar gyrion Belfast yn yr 80au.  Prif bwrpas yr uned  yma oedd helpu'r grwp parafilwrol yr UDA i dargedu Gweriniaethwyr Gwyddelig.  Roeddynt hefyd yn gyfrifol am anfon swm sylweddol o arfau o Dde Affrica i'r grwp parafilwrol.  Yn ol ymchwiliad Stevens roedd yr uned yn gyfrifol am fwy na 30 o lofruddiaethau, a llawer o ymysodiadau eraill.  Ymysodiad mwyaf enwog y grwp oedd llofruddiaeth un o gyfreithwyr mwyaf adnabyddus Gogledd Iwerddon, Pat Finucane yn 1989.   
  • Ymysodiadau Dulyn a Monaghan - arweiniodd y gyfres o fomiau hyn at farwolaethau 34 o bobl tros gyfnod o 90 munud ym 1974 - diwrnod mwyaf gwaedlyd y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon.  Cafwyd honiadau o'r cychwyn bod nifer o aelodau o luoedd diogelwch y DU wedi eu cysylltu a'r gyflafan.  Daeth rhaglen ddogfen Yorkshire TV - Hidden Hand - The Forgotten Massacre i nifer o gasgliadau ynglyn a'r digwyddiadau.  Ymysg canfyddiadau'r rhaglen honwyd i'r ymysodiadau gael eu trefnu gan yr UVF yn Portadown, bod yr UVF yn Portadown wedi eu treiddio gan unedau cudd wybodaeth y DU, bod y sefydliad milwrol wedi caniatau i'r ymosodiadau fynd rhagddynt a bod tri o'r sawl sydd o dan amheuaeth o fod yn gyfrifol am yr ymosodiadau ar rol cyflog awdurdodau milwrol y DU.  

Lle dwi yn anghytuno efo Dylan ydi pan mae'n honni y byddai'r IRA wedi cael mwy o aelodau petai'r digwyddiadau yn hysbys ar y pryd.  Tra nad oedd y gweithredoedd anghyfreithlon gan aelodau o'r lluoedd diogelwch  yn hysbys ar dir mawr Prydain ar y pryd, roeddynt yn sicr yn hysbys ar strydoedd Belfast a Derry - ac roeddynt yn sicr yn cyfrannu at aelodaeth yr IRA.  A defnyddio idiom o Ogledd Iwerddon roedd y cwn ar ochr y stryd yn gwybod.

Mae wedi bod yn un o nodweddion ymyraeth y DU yn Iwerddon am gyfnod maith bod y wladwriaeth yn meddiannu'r ucheldir moesol yn gyhoeddus tra'n ymdrybaeddu yn y gwter y tu hwnt i lygaid y cyhoedd.  Roedd cyd weithrediad y cyfryngau torfol yn hanfodol i ganiatau i'r rhagrith ysgubol yma weithio - a chydag ambell i eithriad rhoddwyd y cyd weithrediad hwnnw yn llawen.  Doedd neb yn fwy euog o gynnal y ffantasi yn ystod y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon na'r BBC.

Y llyfr gorau i gael ei 'sgwennu am Ogledd Iwerddon erioed ydi Lost Lives Lost Lives (David McKittrick, Brian Feeney, Chris Thornton, David McVea, Seamus Kelters).  Cronicl ydi'r llyfr sylweddol yma o amgylchiadau marwolaeth pawb a laddwyd yn y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon.    

Yr hyn sy'n drawiadol ydi cymaint o'r marwolaethau sy'n gysylltiedig a marwolaethau eraill.  Ar un olwg cyfres hir o gylchoedd o drais wedi eu plethu trwy'i gilydd oedd rhyfel Gogledd Iwerddon.  Weithiau roedd y cylchoedd yn rhai cymharol fyr.  Er enghraifft pan ddienyddwyd Sean Savage, Maraid Farrell a Danny McCann ar strydoedd Gibraltar yn 1988, arweiniodd hynny at bump marwolaeth arall  - lladdwyd Tom McErlean, John Murray a Caoimhin Mac Bradaigh ym Mynwent Milltown gan Deyrngarwr o'r enw Michael Stone yng ngynhebrwng y tri ddeg diwrnod yn ddiweddarach a lladdwyd dau filwr Prydeinig, Derek Wood a David Howes dri diwrnod wedyn wedi iddynt yrru car i mewn i orymdaith cynhebrwng Caoimhin Mac Bradaigh.  Tri marwolaeth yn arwain at bump arall mewn cyfnod o lai na phethefnos.  

Ond roedd eraill yn cymryd blynyddoedd lawer i gael eu cwblhau.  Does yna fawr neb yn cofio enwau'r milwyr Prydeinig a saethwyd yng Ngogledd Iwerddon, ond efallai bod Stephen Restorick yn eithriad.  Fo oedd y milwr Prydeinig olaf i gael ei ladd cyn cadoediad dydd Gwener y Groglith yn 1997.  Gwnaeth urddas distaw ei deulu yn apelio am heddwch gryn argraff ar y pryd.  Un o'r pobl a gafwyd yn euog o'i ladd oedd dyn lleol o'r enw Michael Caraher. 

Ddwywaith yn unig mae Michael Caraher yn ymddangos ym mhapurau Gogledd Iwerddon. Y tro cyntaf oedd yn 1990. Collodd un o'i ysgyfaint pan roedd yn teithio mewn car ger pentref Cullihana yn Ne Armagh efo'i frawd Fergal a gafodd ei ladd yn yr un digwyddiad. Saethwyd i mewn i'r car gan filwyr Prydeinig - nid oes amheuaeth bod Fergal yn aelod o'r IRA - ond nid oedd unrhyw arfau yn y car. Yn y blynyddoedd canlynol mae'n debyg i Michael Caraher ladd saith milwr a dau aelod o'r RUC yn Ne Armagh trwy eu saethu o bellter cyn cael ei ddal yn dilyn yr ymysodiad ar Restorick.Roedd wedi llosgi efo casineb am saith mlynedd. Arweiniodd un gweithred o drais at nifer o rai eraill - hen stori yng Ngogledd Iwerddon.

Rwan doedd yr hyn a ddigwyddodd yng Ngogledd Iwerddon ddim yn unigryw - dydan ni ddim yn gorfod crafu gormod o dan yr wyneb i ddod ar draws esiamplau tebyg yn y dyddiau pan roedd Prydain yn colli ei threfedigaethau. Yn wir mae'r patrwm o foesoli cyhoeddus a thywallt gwaed di angen yn nodwedd o'r wladwriaeth Brydeinig ers canrifoedd. Mae'r gred mai'r ffordd orau o ddwyn perswad ar dramorwyr i ymddwyn yn briodol ydi trwy eu dychryn yn wirion yn nodwedd lled barhaol o ddiwylliant mewnol lluoedd diogelwch y DU. Mewn gwirionedd wrth gwrs dydi lladd cyfeillion ac aelodau o deulu pobl ddim yn ffordd dda o sicrhau ufudd dod, ond mae yn ffordd effeithiol iawn o ennyn casineb. Byddai sylweddoli hynny a thrin y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon fel problem wleidyddol - yr hyn a wnaethwyd yn y diwedd - wedi dod a phethau i fwcwl yn llawer, llawer cynt.

6 comments:

Anonymous said...

wti am restru gweithgaredda yr IRA? Dim digon o oriau yn y dydd debyg.

Cai Larsen said...

Dwi'n meddwl y cei bod gweithgareddau'r IRA wedi derbyn sylw di ddiwedd gan y cyfryngau prif lif.

Mae'r gyfundrefn gyfiawnder wedi ymchwilio i drais Gwereniaethol hefyd - tra nad ydi'r gyfundrefn honno wedi trafferthu efo'r rhan fwyaf o drais gan luoedd diogelwch y DU.

Anonymous said...

Does neb yn deud and oes drwg ar y ddwy ochor, serch hynny tra bod erchyllterau yr IRA, yn hysbys I bawb na'r cyfan yma yn cover up. I ddeall yr IRA, rhaid ddeall y materion yma .

Cai Larsen said...

A bod yn deg efo Anon 6.24 mae whataboutery yn nodweddu pawb sydd wedi ymwneud a'r rhyfel yng Ngogledd Iwerddon.

Yr ymateb i feirniadaeth o rhyw weithred neu gyfres o weithredoedd yn amlach na pheidio ydi tynnu sylw at rhywbeth mae rhywun arall wedi ei wneud. Mae'r fecanwaith fach yma yn caniatau'r sawl sy'n ei defnyddio i osgoi wynebu'r hyn mae eu hochr nhw wedi ei wneud.

Unknown said...

Dim ots am eich crefydd neu eich tueddiad unoliaethol/gwerinaethol mae llofruddio pobl heb arfau na dim yn llofruddiaeth - ac yn waeth yn llofruddiaeth gan y wladwriaeth Brydeinig. Rydym yng Nghymru yn ochri am resymau amlwg gyda'r Palesteiniaid wrth iddynt ddioddef ormes byddin Israel. Mae Prydain yn aml yn barnu am anghyfiawnderau dyngarol gan lywodraethau ar draws y byd er iddynt fod yn gyfrifol am hyn ac am yr hyn a ddigwyddodd yn Deri yn 1972 - mae'r peth yn hollol warthus - ond yn yr hinsawdd presennol, rhaid i ni gefnogi'r llywodraeth a pheidio a gofyn cwestiynau gan fod rhyfel. Rhaid i ni fod yn Brydeinwyr taeog a gwasaidd.

Unknown said...

Dim ots am eich crefydd neu eich tueddiad unoliaethol/gwerinaethol mae llofruddio pobl heb arfau na dim yn llofruddiaeth - ac yn waeth yn llofruddiaeth gan y wladwriaeth Brydeinig. Rydym yng Nghymru yn ochri am resymau amlwg gyda'r Palesteiniaid wrth iddynt ddioddef ormes byddin Israel. Mae Prydain yn aml yn barnu am anghyfiawnderau dyngarol gan lywodraethau ar draws y byd er iddynt fod yn gyfrifol am hyn ac am yr hyn a ddigwyddodd yn Deri yn 1972 - mae'r peth yn hollol warthus - ond yn yr hinsawdd presennol, rhaid i ni gefnogi'r llywodraeth a pheidio a gofyn cwestiynau gan fod rhyfel. Rhaid i ni fod yn Brydeinwyr taeog a gwasaidd.