Wednesday, August 14, 2013

Gwahaniaethau rhwng Ffrainc a Chymru (rhan 2)

Hyd y gwn i 'does yna ddim cerflun o'r Iarll Haig yng Nghymru.

 Mae yna reswm reit da am hyn - cyfranodd pennaeth y fyddin Brydeinig yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn llawn at y 40,000 o farwolaethau Cymreig a ddigwyddodd yn ystod y rhyfel hwnnw.  Tra bod y sefydliad Cymreig yn frwdfrydig iawn tros y rhyfel ar y cychwyn, doedd o ddim yn edrych yn syniad mor dda o edrych yn ol.


Serch hynny mae yna gerfluniau o'r dyn yn Ffrainc.  Mae'r cerflun hyfryd hwn yn Montreil sur Mer.  Ymddengys bod Haig wedi treulio rhan o'r rhyfel yno.  Cymaint y parch at yr Iarll nes iddynt ail gomisiynu cerflun efydd ar ol yr Ail Ryfel Byd wedi i'r Almaenwyr dynnu'r gwreiddiol i lawr a'i doddi er mwyn gallu gwneud defnydd arall o'r metel.  Tybed os cafodd Haig ei droi'n fwledi?  Mi fyddai 'na rhywbeth addas iawn am hynny.

Gyda llaw lladdwyd 1.4m o Ffrancwyr yn ystod y Rhyfel mawr ac anafwyd tros i 4m.  Mae'r Somme pellter byr i fyny'r lon ym 1916 - Haig oedd pennaeth y cynghreiriaid yn ystod y frwydr honno lle lladdwyd neu anafwyd tros 1m o ddynion - o bosibl y frwydr mwyaf gwaedlyd a gwastraffus yn hanes dynoliaeth.

Felly pam y gofeb?  Mi helpodd o Ffrainc i ennill rhyfel da chi'n gweld - a beth sy'n bwysicach na hynny?

1 comment:

HC said...

Mae'r cofebau ym mhentrefi Ffrainc yn arswydus o ran y niferoedd o filwyr o bob plwyf a laddwyd. Cafodd ymgyrch y Somme ei chynllunio i atal y gyflafan erchyll yn Verdun a arweiniodd at gynifer o'r colledion yma, ac sy'n fwy eiconig ym meddyliau'r FFrancwyr na'r Somme.
yn ogystal, yr adeg yma o'r flwyddyn yn Llydaw a gogledd a chanolbarth Ffrainc, bydd nifer o ardaloedd yn cynnal seremoni leol i goffa rhyddhau'r ardal o reolaeth y Natsiaid gan yr Americanwyr. Bydd erthyglau papur newydd hefyd am y bobl gyffredin a laddwyd gan yr Almaenwyr fel dial am weithred gan y 'Resistance' . Darllenais erthygl heddiw am wr 75 oed a welodd ei dad a'i dri brawd (yn eu harddegau) yn cael eu lladd ar fympwy gan swyddog o Almaenwr .