Saturday, August 17, 2013

Un gwahaniaeth rhwng Gwlad y Basg_ _ _

_ _  does yna ddim bariau gyda pelota yn thema iddynt yng Nghymru.  Wel fyddan ni ddim yn disgwyl hynny wrth gwrs - gem sy'n cael ei chwarae yng Ngwlad y Basg ac ardaloedd cyfagos ydi pelota.  Mae'r gemau Cymreig traddodiadol - Bando neu Cnapan er enghraifft wedi hen farw o'r tir - yn wahanol i Iwerddon neu Wlad y Basg.

Yr unig gemau y gallaf feddwl amdanynt y gellir eu disgrifio mewn unrhyw ffordd fel rhai Cymreig bellach ydi'r fersiwn o bel fas a chwaraeir yng Nghymoedd y De, a'r gem sgityls honno sy'n cael ei chwarae mewn tafarnau ochrau Gaerdydd.  Unrhyw un yn gallu medwl am rhywbeth arall?

Mae'r bar yn Pamplona (Irun).


6 comments:

Anonymous said...

'Rownders' yw'r enw ar y gem pel fas.

Anonymous said...

Gem arall yn y cymoedd: mae dau dim o biti 9 neu ragor o blant - un tim wedyn yn ffurfio cefn ceffyl - y boi cyntaf yn sefyll yn erbyn wal a'r ail yn dal ei ben rhwnt ei goesau, y trydydd yn rhoi ei ben rhwnt coesau'r ail ac ati. Mae'r tim arall wedyn yn neidio ar gefn y ceffyl fesul un a phan fo nhw I gyd yno maen nhw'n shiglo a chynyrfu er mwyn cwmpo'r ceffyl.

Wim yn cofio be oen ni'n galw'r gem yna ond wi'n siwr bysa athrawon yn trial stopid y gem na nawr oherwydd iechyd a diogelwch.

Cai Larsen said...

Na, nid rownders - British Baseball - gem sy'n cael ei chwarae yng Nghymru yn bennaf

Alwyn ap Huw said...

Pan oedwn yn ymweld â'r teulu yn y cymoedd yn blentyn yn y 60au, roedd yna gêm debyg i sboncen llaw yn cael ei chware mewn cyrtiau allanol efo tair wal neu mewn tai wedi eu rhannol dymchwel. Dim syniad be oedd enw'r gêm, os ydy'r cyrtiau yn dal i gael eu defnyddio nac hyd yn oed os ydoedd yn cael ei chware ym mhell y tu hwnt i ardal Pontypridd

BoiCymraeg said...

Dwi'n falch nad yw Cymru'n ariannu gormod o chwaraeon. Well gen i beidio a gweld tim criced Cymraeg, er enghraifft, na bod tim cried Cymraeg yn tynnu arian oddi ar y WPL neu Rygbi h.y. chwareon bod pobl Cymraeg wirioneddol yn cymryd diddordeb ynddynt.

Bwlch said...

Annwyl Alwyn,

Ti'n disgrifio y gem handball:

http://en.wikipedia.org/wiki/American_handball

Gem wnaeth dod draw o Iwerddon a sydd yn poblogaidd yma yn America.