Friday, May 24, 2013

Gwrthrychedd y Bib yn dod i'r amlwg eto

Un o'r themau sy'n tueddu i ailgodi ym Mlogmenai yn aml ydi diffyg gwrthrychedd y Bib.  Am rhyw reswm dyma un o'r ychydig bethau sy'n ennyn cwynion y dyddiau hyn. Beth bynnag mae'n ymddangos bod diffyg gwrthrychedd wedi treiddio i wythiennau'r gorfforaeth i'r fath raddau nes ei fod yn cael ei adlewyrchu yn eu cynlluniau llawr ar gyfer staff ffilmio.  Cynllun o lawr Questiontime neithiwr sydd i'w weld isod.  Disgrifir John O'Dowd arno fel SF/IRA tra bod Ian Paisley (y mab, nid y tad) yn cael ei ddisgrifio fel DUP / Goodies.

Yn wahanol i nifer o arweinwyr eraill Sinn Fein does yna ddim lle o gwbl i gredu i John O'Dowd erioed fod yn aelod o'r IRA.  Mae barn anarferol y 'Goody' ar wahanol bynciau yn adnabyddus fodd bynnag.  Pan benododd David Trimble y disglair Stephen King i swydd ymgynghorol roedd sylwadau Ian Paisley yn - ahem - uniongyrchol.  Mae Stephen King yn digwydd bod yn hoyw.

"It is really astounding that David Trimble should have had a man such as this giving him advice - and must surely cast grave doubts on his own political judgement. I think these sorts of relationships are immoral, offensive and obnoxious".

Mae Ian hefyd o'r farn y dylid saethu gweriniaethwyr sydd ddim yn derbyn Cytundeb Dydd Gwener y Groglith  yn ddi seremoni ar y stryd.

Tra bod John O'Dowd yn magu ei deulu ar gyflog diwydiannol cyfartalog mae Paisley a'i deulu wedi godro'r trethdalwr i raddau grotesg.  Ar un amser roedd Ian jnr yn cael cyflog fel ymchwilydd gwleidyddol i'w dad, fel Aelod Cynulliad ac fel is weinidog yn llywodraeth Gogledd Iwerddon - i gyd ar yr un pryd.

Ond beth ydi'r ots?  Mae'r Bib wedi dotio ar Jac yr Undeb, y teulu Windsor a'r seremoniau plentynaidd di ddiwedd sydd ynghlwm a nhw, ac mae Paisley wedi dotio ar yr un pethau.  A dyna'r pethau pwysig i'r Bib yn y pen draw - teyrngarwch sefydliadol Prydeinig.

No comments: