Monday, May 20, 2013

Chwalfa'r Toriaid yn mynd o ddrwg i waeth

O diar - yn ol y pol diweddaraf (Survation) dim ond 2% sydd rhwng y Toriaid ag UKIP.  Y ffigyrau yn llawn ydi UKIP 22%, Toriaid 24%, Llafur 35% a'r Lib Dems 11%.

Yn rhyfedd iawn byddai canlyniad felly yn arwain at y dosbarthiad seddi canlynol - Llafur 377, Toriaid 205, Lib Dems 35 UKIP 1, a chenedlaetholwyr 9.  Mae cefnogaeth gyson yn weddol ddiwerth o dan ein cyfundrefn etholiadol ni (oni bai bod lefel y gefnogaeth yn uchel iawn) - a chefnogaeth gyson sydd gan UKIP ar hyn o bryd.

3 comments:

Anonymous said...

Anodd dychmygu na fydd Caroline Lucas dal ei gafael yn Brighton.

Cai Larsen said...

2.4% o fwyafrif dros Lafur sydd ganddi hi. Y peth allweddol yn Brighton Pavilion ydi beth sy'n digwydd i bleidlais y Lib Dems.

BoiCymraeg said...

Ie, y problem gyda darogan fel hyn ydi bod UNS ("Uniform National Swing"), sef y system a ddefnyddir i weithio allan faint o seddi dylai cael eu ennill, ddim yn tueddol o weithio ar gyfer seddi penodol. Mae Brighton yn enghraifft, ond mae Arfon a Dwyrain Caerfyrddin yn enghreifftiau eraill - mae'r rhifau'n dweud y dylai Llafur eu hennill nhw ar UNS ond mi fydda i'n dweud bod Hywel Williams a John Edwards yn gymharol saff. Anodd darogan am Caroline Lucas - fel mae Cai yn dweud mae'n dibynnu lle aiff pleidlais y Dems Rhydd. Dyle'r Gwyrddion ceisio sicrhau ei bod hi'n mynd iddyn nhw.