Monday, February 11, 2013

Ynys Cybi

Gan na fydd gennyf fynediad cyson i'r We tros y dyddiau nesaf, bydd y blogio'n ysgafn.  Ond gan i mi gael cais i edrych ar Ynys Mon, waeth i ni ddechrau arni - ac mi wnawn ni gychwyn efo Ynys Cybi.

2001 gyntaf pob tro, canran 65+ mewn cromfachau.

Caergybi::

Moralwelon - 46%\40.4% (51%)
London Rd - 52%\45.3% (59.9%)
Kingsland  - 48.1%\42.9% (58.8%)
Tref 1 - 42.5%\39.1% (45.1%)
Tref 2 - 45.5%\39.8% (53.2%)
Porthyfelin - 46.7%\39.6% (51.6%)
Parc a'r Mynydd - 54.1%\50.4% (54.9%)

Gweddill Ynys Cybi:

Trearddur - 39.2%\33.8% (30.1%)
Rhoscolyn - 46.7%\42.9% (38.2%)

Prif Bwyntiau:


  • Mae yna gwymp ym mhob ward, ac mae'r cwymp hwnnw yn llawer mwy nag ydyw yng ngweddill Mon.
  • Mae'r strwythur oed yn llawer mwy tebyg i un yn Nwyrain Caerfyrddin nag ydyw i'r Gogledd-orllewin.  Mae mwy o bensiynwyr na phlant ysgol o lawer ym mhob ward ag eithrio'r ddwy ward wledig, Parc a'r Mynydd (sy'n rhannol wledig) ac un o'r ddwy ward yng nghanol y dref.  Mae'r patrwm yma yn anodweddiadol o Ynys Mon.
  • Does yna ddim gwahaniaeth amlwg yn y newididiadau yn ardaloedd trefol a gwledig Ynys Cybi.
  • Mae'r strwythur oedran yn awgrymu y bydd y canrannau yn nhref Caergybi yn parhau i gwympo, a bod y bwlch rhyngddi a gweddill Mon yn debygol o dyfu.
  • Mae'r sylwadau sydd eisoes wedi eu gwneud am ddinas Bangor a'r gyfundrefn addysg hefyd yn wir am Gaergybi.  Mae'r gyfundrefn addysg yn y rhan fwyaf o Wynedd a'r rhan fwyaf o Fon yn debyg - ond yn wahanol i'r drefn yng Nghaergybi a Bangor. 
  • Does yna ddim rheswm i amau  - o'r ffigyrau - y bydd y sefyllfa ieithyddol yn waeth eto ar draws Ynys Cybi - ac yn arbennig felly yn y rhannau trefol - yn 2021.
Mae'n dda gen i ddweud nad ydi'r patrwm mor negyddol yng ngweddill Mon.  Byddwn yn ymweld pan gaf y cyfle.

*Dyliwn nodi bod ychydig o anghytundeb rhwng y gwahanol ffigyrau sydd ar gael i mi.  Dwi wedi defnyddio'r map rhyngweithiol i bwrpas yr ymarferiad yma.

11 comments:

Anonymous said...

"Does yna ddim rheswm i amau - o'r ffigyrau - y bydd y sefyllfa ieithyddol yn waeth eto ar draws Ynys Cybi - ac yn arbennig felly yn y rhannau trefol - yn 2011."
2021??

Anonymous said...

Ydi ward Maeshyfryd yn dod o dan Town 1 neu Town 2 yndi?

Ioan said...

Nodyn bach sy'n clymu'r post yma efo'r un dwetha - mae 'na un ardal sydd hefo cynnydd yn y ganran o blant sy'n gallu siarad Cymraeg tebyg iawn i wardiau Gorllewin Caerdydd, a'r ardal honno ydi Caergybi - 51% (5% fynu o 2001).

Cai said...

Diolch Ioan.

Dwi'n credu mai Town 2 ydi Maeshyfryd - dydi'r map ddim yn enwi wardiau a dydi fy ngwybodaeth i o ddaearyddiaeth manwl Mon ddim cystal ag ydi fy nealltwriaeth o Wynedd.

Mi wiria i hynny yn hwyrach heddiw pan mae gen i fynediad i ipad yn hytrach na ffon.

Cai Larsen said...

Pwynt diddorolIoan - ond y ffaith am Gaergybi ydi y bydd y canrannau un dal i pstwng hyd yn oed os ydi canran plant yn parhau i gyntddu - oherwydd bod cymaint o bendiynwyr i gymharu a grwpiau iau.

Milltiroedd said...

Disgwyliaf i ganran Morawelon godi'n sylweddol. Yr oedd un afal drwg o athro gwrth-Gymreig yn yr ysgol gynradd yno tuag at ddiwedd yr 80au.
Prin iawn oedd fy Nghymraeg i ar ol
iddo ledaenu ei wenwyn Prydeinig. Gobeithio na chafodd ei benodi'n brifathro wedyn, rhag dinistrio Cymreictod cymdeithas gyfan unwaith eto.

Cai Larsen said...

Anon11.58

Mae'r ardal dwi wedi cyfeirio ato fel Tref 2 yn cynnwys Newry St a Prince of Wales Rd. Dwi'n cymryd bod y rheiny ym Maeshyfryd.

Anonymous said...

This is usually considered a fun and effective learning method
in general. Instead, focus on a single thing or just a couple of things, and try not to
move forward until you have reached those goals.
offers free online piano lessons.

Look at my page: free piano chords and tabs

Anonymous said...

The decor on the inside of the restaurant is absolutely beautiful.

Brazenhead is a great place to go with your
family or for a business lunch or dinner, but if you are looking for a party
atmosphere, this isn't it. The buccal cavity is a small cavity that has neither jaws nor teeth.

Also visit my site - pub quiz area

Anonymous said...

If all players are wrong the murderer gets away and everyone loses.
Unfortunately for me as an addict, I need my crime fix.
You Divide everyone at the party into two groups, or tribes.


My homepage - نكت

Anonymous said...

Those that are not familiar with the area will treasure this information above all else, and it will help them
enjoy your wedding more thoroughly. (US). Out of town guests will feel especially welcome if you
give them special attention at the reception.



My web blog our wedding website about us